Tîm Rheoli Google
Dr. Eric E. Schmidt, Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol
Apwyntwyd Dr. Eric E. yn brif swyddog gweithredol yn Awst 2001, bum mis ar ôl ymuno a bwrdd cyfarwyddwyr Google fel cadeirydd. Mae Schmidt hefyd yn gadeirydd bwrdd gweinyddol Novell ble mae'n ymwneud a holl bendrefyniadau strategaethol ac arwyddocaol ac yn chware rôl ganolog yn natblygiadau technegol a rheoliaethol y cwmni.
Daeth Schmidt i Novell yn 1997 o Sun Microsystems, Inc., ble roedd yn brif swyddog technoleg a swyddog gweithredol gorfforaethol. Yn ei 14 mlynedd gyda Sun daliodd nifer o swyddi gweithredol,a magodd barch rhyngwladol am ei gyfraniad at ddatblygiad y Rhyngrwyd fel gelf i adeiladu cymunedau digidol mewn busnes, llywodraeth, addysg, gwyddoniaeth a diwilliant. Roedd hefyd yn offerynnol yn natblygiad a marchnata Java, iaith raglennu blatfform -anibynnol Sun.
Cyn ymuno a Sun, roedd Schmidt yn aelod o staff ymchwil yn y Lab Gwyddoniaeth Cyfrifiadur gyda Xerox yn y Palo Alto Research Center (PARC). Hefyd, daliodd swyddi yn Bell Laboratories a Zilog.
Mae gan Schmidt Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadur a gradd meistr mewn peirianeg drydanol o brifysgol Califforina yn Berkeley. Derbyniod ei radd Baglor mewn peirianeg drydanol i brifysgol Princeton.
Larry Page, Cyd-sylfaenydd a Llywydd, Cynyrch
Graddiodd Larry Page gydag anrhydedd gyda gradd baglor mewn gwyddoniaeth a pheirianeg o brifysgol Michigan, Ann Arbor. Tra ym mhrifysgol Michigan, derbyniodd Page nifer o wobrau arweinyddiaeth yn ei ymdrechion i wella'r coleg peirianyddol. Bu'n arlywydd ar gymdeithas Eta Kappa Nu Honor prifysgol Mitchigan. Ar hyn o bryd mae Page ar absenoldeb o Brifysgol Stanford, ble mae'n ymgeisydd Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadureg gyda'r Athro Terry Winograd. Page gychwynodd ac arweiniodd y prosiect ymchwil yn Stanford, sydd erbyn hyn wedi'i drawsnewid i Google.
Bu'n gweithio mewn cynllunio meddalwedd gyda Advanced Management Systems yn Washington, D.C., a CogniTek yn Evanston, Ill. Cafodd ei ddylanwadu'n gynnar gan ei dad a oedd yn Athro gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Dechreuodd Page ddefnyddio cyfrifiaduron yn 1979. Sylfaenodd Google Inc. yn 1998 gyda Sergey Brin.
Mae Sergey Brin yn frodor o Moscow a drebyniodd ei radd Anrhydedd Baglor mewn Gwyddoniaeth ym mathemateg a gwyddoniaeth cyfrifiadurol o Brifysgol Maryland yn College Park. Ar hyn o bryd mae ar absenoldeb o raglen Ph.D. gwyddoniaeth cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Stanford, ble cafodd ey Radd Meistr. Mae Sergey yn 27 ac yn derbynydd o Gymrodiaeth Graddio y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol. Yn Stanford y cyfarfu a Larry Page a gweithiodd ar y prosiect ddatblygodd yn Google. Sefydlodd y ddau Google, Inc. yn 1998.
Mae diddordebau ymchwil Brin yn cynnwys peiriannau chwilio, echnydu gwybodaeth o fynonellau distrwythur, a chloddio ddata o gasgliadau mawr o destun a data gwydonol. Mae wedi cyhoeddi mewn mwy na dwsin o gyhoeddiadau academig, gan gynnwys Extracting Patterns and Relations from the World Wide Web; Dynamic Data Mining: A New Architecture for Data with High Dimensionality, which he published with Larry Page; Scalable Techniques for Mining Casual Structures; Dynamic Itemset Counting and Implication Rules for Market Basket Data; and Beyond Market Baskets: Generalizing Association Rules to Correlations.
Bu Brin yn siaradwr mewn sawl fforwm cenedlaethol a rhyngwladol mewn busnes, academia a thechnoleg gan gynnwys Academy of American Achievement; European Technology Forum; Technology, Entertainment and Design; a Silicon Alley 2001. Ban nad ynglyn a'i amryw ddyletswyddau fel arlywydd y cwmni, mae Brin yn astudio y trapïs a phymio sgwba yn ogystal a bod yn chwaraewr brwd mewn gemau hoci rolio gydag Gwglerwyr eraill yn y maes parcio.
Omid Kordestani, Is Lywydd o Datblygiad Busnes a Gwerthu
Mae gan Omid Kordestani dros deuddeng mlynedd o brofiad mewn uwch-dechnoleg a phrofiad menter gan gynnwys safleoedd allweddol yn y cwmni Rhyngrwyd arloesol, Netscape Communications. Fel is-lywydd datblygiad busnes a gwerthiant, cododd Kordestani refeniw gwefan Netscape o $88 miliwn y flwyddyn i dros $200 miliwn mewn deunaw mis.
Ymunodd Kordestani Netscape fel cyfarwyddwr gwerthiant OEM, ac yn ei bedair mlynedd gyda'r cwmni bu'n gyfrifol am sefydlu cydbethnasedd a chemniau mawr fel Citibank, AOL, Amazon, Intuit, Travelocity, Intel, @Home, eBay, a Excite. Gyn hynny roedd gyda Netscape, daliai swyddi mewn marchnata, a rheoli cynyrch yng ngwmni 3DO, Go Corporation, a Hewlett-Packard.
Derbyniodd Kordestani MBA o Brifysgol Stanford a gradd baclor gwyddoniaeth mewn peirianeg trydanol o Brifysgol San Jose State.
Urs Hölzle, Cymrawd Google
Ymunodd Urs Hölzle Google o Brifysgol California yn Santa Barbara ble roedd yn Athro cysylltiol yng ngwyddor cyfrifiaduron. Cafordd ei radd Meist mewn Gwyddor Cyfrifiaduron o ETH Zurich yn 1988 a chafodd Ysdgoloriaeth Fulbright Scholarship yr un flwyddyn. Yn 1994, cafodd Ph.D. o Brifysgol Stanford, lle canolbwyntiodd ei ymchwil ar ieithoedd rhaglennu a'u defnydd effeithlon. implementation.
Fel un o arloeswyr grynoad ddeinamig, a hefyd elwir yn "crynoad prin-mewn-amser", dyfeisiodd Hölzle dechnegau ffwndamental a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o crynoadyddion Java heddiw. Cyn ymuno a Google, roedd Hölzle yn gydsylfaenydd o Animorphic Systems, wnaeth ddatblygu crynoadyddion i Smalltalk a Java. Ar ôl i Sun Microsystems gymeryd Animorphic Systems drosodd yn 1997, gynorthwyodd Hölzle yn adeiladu crynoadydd uwch-berfformiad, sef Hotspot Java, i Javasoft.
Yn 1996, derbyniodd Hölzle wobr CAREER gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol am ei waith ar weithrediadau uwch-berfformiad ar gyfer ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol. Roedd Hölzle yn un o'r gyfrannwyr blaenaf i brosiect Isadeoledd Crynoadydd Cenedlaethol DARPA. Gwasanaethodd ar bwyllgorau rhaglenni i brif gynadleddau ym meysydd gweithrediadau ieithoedd rhaglenu, ac mae'n awdur nifer o bapurau gwyddonol ac yn dal nifer o batenta UDA.
Enwyd Hölzle yn Gymrawd Google Fellow ar ôl gwasanaethu'r cwmni fel ei Is-lywydd Oeirianeg cyntaf. Yn y rôl hon arweiniodd ddatblygiad isadeiledd gweithredol y cwmni ac mae'n enwog am ei sannau coch a'i Leonberger amrediad rhydd, Yoshka (Pen dyn Google).
Craig Silverstein, Cyfarwyddwr Technoleg
Mae Craig Silverstein ar absenoldeb o Brifysgol Stanford ble mae'n dilyn Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadurol ac yn canolbwyntio ar adalw gwybodaeth a chloddio data. Cyfrannodd Silverstein ei arbenigedd i Google gyda algyriddmau cywasgu tra roedd Google yn dal yn prosiect ymchwil yn Stanford. Ei ddiddordebau academig eraill oedd fersiynau uwch effeithiol o strwythurau sylfaeniol fel tablau hash yn ogystal a chlystyru effeithlon o setiau data mawr yn defnyddio Gwasgariad/Casgliad a mynegeio semantig cudd fel mae'n perthyn i gylstyru. Gwnaeth y gwaith hwn yn Xerox PARC.
Cafodd Silverstein radd anrhydedd a gradd Baglor mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol o Goleg Harvard. Yn ogystal, derbynniodd y wobr Phi Beta Kappa gan Harvard, Ysgoloriaeth Dechnegol Microsoft, ac enillodd Wobr Derek Bok ddwy waith am Addysgu Rhagorol. Ef oedd y cyntaf i'w gyflogi gan sylfaenwyr Google.
Yn ogystal a chyflenwi arweiniad techolegol, mae Silverstein yn cyflenwi'r Googlwyr a'u bara beunyddiol gan redeg tri peiriant pobi, yn rhedeg ochr yn ochr ar system weithredu Linux.

