Return to Google homepage.

 Adio/Uwchraddio eich URL

Cartref

Popeth am Google

    Hysbysebwch gyda ni

    Adio Eich URL

» Dileu Cynnwys

    Ychwanegu Cysylltiad i Google

Angen dileu cynnwys o fynegai Google?

Cysidra Google ansawdd ei chanlyniadau chwilio fel blaenoriaeth hynnod bwysig. Felly, ond ar gais gweofalwr sy'n gyfrifol am y tudalennau wnaiff Google beidio mynegeio tudalennau. Mae'r polisi hwn yn angenrheidiol fel nad yw tudalennau'n cael eu dileu yn amhriodol.

Gan fod Google wedi ymrwymo i ddarparu canlyniadau chilio trylwyr a diduedd i'n defnyddwyr, ni allwn gymeryd rhan mewn sensori gwybodaeth ar y we fyd eang.

Opsiynnau Dileu

Mae'r opsiynnau dileu canlynol ar gael a chymerant effaith y tro nesaf y cropia Google eich gwefan, sydd fel arfer rhyw chwech i wyth wythnos.

Newid URL eich safle

Gan fod cropydd Google yn cydberthnasu cynnwys tudalen gyda ei URL, does yna yr un ffordd o newid a llaw yr URL a arddangosir am eich gwefan. Bydd yr URL yn cael ei huwchraddio y tro nesaf bydd Google yn cropian eich safle. Ni allwn gyflymu y broses gropian chwaith.

Os yw URL eich gwefan wedi newid ers i ni ei chropian ddiwethaf, gallwch ddefnyddio y ffurflen argymhelliad a'r dulliau dileu ddisgrifir isod. Nid yw'r ffurflen yn cael effaith yn syth ac felly gall eich gwefan fod yn gudd oddiwrth Google nes y cropir y safle eto.

Yn lle gofyn newid gan Google argymhellwn eich bod yn gofyn i'r safleoedd rydych a chysylltiadau a hwy i uwchraddio eu linciau (i bwyntio i'ch safle newydd). Hefyd, peidiwch ag anghofio newid unrhyw gofnod yng nghyfeiriadur Yahoo! a'r Cyfeiriadur Agored. Yn olaf, os bydd eich hen URL yn arallgyfeirio i'ch safle newydd gan ddefnyddio HTTP 301 (permanent) redirects, bydd ein cropydd yn gwybod i ddefnyddio'r URL newydd. Cymer 6 - 8 wythnos i newidiadau fel hyn ddod i rym yn Google.

Dileu eich gwefan

Os ydych am wahardd eich safle cyfan neu ran arbennig (cyfeiriadur) o'ch gweinydd o fynegai Google, gallwch roi ffeil yng ngwraidd y gweinydd o'r enw robots.txt.

I atal Google neu unrhyw gropydd arall rhag cropian a mynegeio'ch safle rhowch y ffeil robots.txt yn ngwraidd y gweinydd:

User-Agent: *
Disallow: /

Dyma'r protocol safonol mae'r rhan fwyaf o gropyddion y we yn ei ddefnyddio i wahardd safle neu gyfeiriadur rhag cael ei fynegeio. Mae mwy o wybodaeth am robots.txt ar gael yma: http://www.robotstxt.org/wc/norobots.html.

Nodwch: Os y cysidrwch fod eich cais yn un brys a phwysig ac na all ddisgwyl hyd y bydd Google wedi gwneud cropiad arall o'ch safle, defnyddiwch ein system ddileu URL yn awtomatig. I'r system awtomatig weithio, rhaid i'ch gwefeistr greu a rhoi ffeil robots.txt ar y wefan mewn cwestiwn.

Bydd Google yn dal i eithrio'ch safle tra bo'r ffeil robots.txt yng ngwraidd eich gweinydd. Os nad oes ganddoch yr hawl i lefel y gwraidd, cewch osod y ffeil robots.txt ar yr un level a'r ffeiliau rydych am eu gwahardd. O wneud hyn rhaid defnyddio'r sustem gwahardd URL awtomatig a waharddith y safle (neu gyfeiriadur) dros dro am 90 niwrnod o fynegai Google. (Os y cedwir y ffeil robots.txt ar yr un lefel rhaid fydd ail-anfon i'r sustem wahardd bob 90 niwrnod).


Dileu tudalennau unigol

Os am wahardd pob robot rhag mynegeio tudalennau unigol o'ch safle, yna gallwch osod y tag meta canlynnol yng nghôd HTML y dudalen:

<META NAME="ROBOTS" CONTENT="NOINDEX, NOFOLLOW">

Os am adael robots eraill fynegeio'ch safle, ond gwahardd Google yn unig rhag mynegeio, defnyddiwch y tag yma:

<META NAME="GOOGLEBOT" CONTENT="NOINDEX, NOFOLLOW">

Am fwy o wybodaeth ar y tab safonol hwn ewch i: http://www.robotstxt.org/wc/exclusion.html#meta

Nodwch: Os y cysidrwch fod eich cais yn un brys a phwysig ac na all ddisgwyl hyd y bydd Google wedi gwneud cropiad arall o'ch safle, defnyddiwch ein system ddileu URL yn awtomatig. I'r system awtomatig weithio, rhaid i'ch gwefeistr rhoi'r tagiau meta cywir yng ngôd HTML tudalennau'r safle mewn cwestiwn.

Dileu snipedau

Sniped yw detholiad o destun tudalen sy'n cynnwys holl dermau'r chwiliad a'i arddangos mewn ffont drwm. Mae'r detholiad yn gadael i ddefnyddiwr weld cyd-destun y chwiliad yn nhermau'r dudalen, cyn clicio ar y canlyniad. Bydd defnyddwyr yn debycach o ddewis canlyniad chwiliad o gael sniped cyfatebol.

Os am wahardd Google rhag defnyddio snipedau am eich tudalennau, defnyddiwch y tag hwn:

<META NAME="GOOGLEBOT" CONTENT="NOSNIPPET">

Noder: mae gwahardd snipedau hefyd yn gwahardd storio tudalennau.

Nodwch: Os y cysidrwch fod eich cais yn un brys a phwysig ac na all ddisgwyl hyd y bydd Google wedi gwneud cropiad arall o'ch safle, defnyddiwch ein system ddileu URL yn awtomatig. I'r system awtomatig weithio, rhaid i'ch gwefeistr rhoi'r tagiau meta cywir yng ngôd HTML tudalennau'r safle mewn cwestiwn.

Dileu tudalennau o'r storfa

Cedwir tudalennau a gropir mewn storfa gan Google. Mae hyn yn gadael i ni arrddangos y dudalen os y bydd y wreiddiol ddim ar gael (e.e. pan fo gweinydd y safle oddiar lein. Bydd y dudalen yn edrych yn union fel yr oedd pan wnaeth Google ei chropian olaf. Bydd yna neges ar ben y dudalen i ddangos mai fersiwn o'r storfa ydyw a nid y dudalen fel y mae heddiw.

Os am atal pob robot rhag mynegeio'ch safle, defnyddiwch y tag meta NOARCHIVE. Gosodwch y tag yn yr adran o'ch dogfen fel a ganlyn:

<META NAME="ROBOTS" CONTENT="NOARCHIVE">

Os am adael robotau eraill fynegeio'ch safle gan wahardd Google yn unig , defnyddiwch y tag a ganlyn:

<META NAME="GOOGLEBOT" CONTENT="NOARCHIVE">

Nodwch: ond dileu'r linc i "gopi storfa" wna hyn. Bydd Google yn dal i fynegeio'r dudalen a dangos snipedau.

Nodwch: Os y cysidrwch fod eich cais yn un brys a phwysig ac na all ddisgwyl hyd y bydd Google wedi gwneud cropiad arall o'ch safle, defnyddiwch ein system ddileu URL yn awtomatig. I'r system awtomatig weithio, rhaid i'ch gwefeistr rhoi'r tagiau meta cywir yng ngôd HTML tudalennau'r safle mewn cwestiwn.

Dileu linciau diangen ("marw")

Mae Google yn diweddaru ei mynegai yn rheolaidd ac awtomatig. Tra'n cropian y we fe gawn dudalennau newydd, cawn wared a linciau marw a diweddarwn linciau - hyn i gyd yn awtomatig. Bydd linciau diangen yn "llithro i ffwrdd" o'r mynegai yn ystod ein cropiad nesaf.

Nodwch: Os y cysidrwch fod eich cais yn un brys a phwysig ac na all ddisgwyl hyd y bydd Google wedi gwneud cropiad arall o'ch safle, defnyddiwch ein system ddileu URL yn awtomatig. Derbyniwn eich cais ond os nad yw'r tudalennau'n bod ac wedu eu dileu.

Dileu llun o fanc lluniau Google

Os am gael gwared a llun o fynegai Google rhaid mynd drwy'r gwefeistr. Gofynnwch iddo roi ffeil robots.txt yng ngwraidd y gweinydd. (Os na allwch ei rhoi yn y gwraidd, rhowch hi ar lefel cyfeiriadur ble ceir y llun).

Er engraifft: Os mai www.yoursite.com/images/dogs.jpg yw eich safle a dydych ddim am adael i dogs.jpg gael ei ganfod, rhaid i chi greu tudalen o'r enw www.yoursite.com/robots.txt a rhoi'r testun hwn arni:

User-Agent: Googlebot-Image
Disallow: /images/dogs.jpg

I gael gwared a phob llun ar eich safle o'r mynegai, rhowch y ffeil robots.txt yma yn ngwraidd y gweinydd:

User-Agent: Googlebot-Image
Disallow: /

Ar ôl i'r gwefeistr ychwanegu'r ffeil, anfonwch nodyn i googlebot@google.com os gwelwch yn dda gan nodi'r newid a lleoliad y ffeil. Cawn wared a'r llun o fewn 48 awr. Os am fwy o wybodaeth am ffeiliau robots.txt ewch i http://www.google.com/intl/cy/webmasters/3.html#B3.

o ooO