Bydd Jeremy Miles, un o’r ddau ymgeisydd yn y ras i olynu’r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 6).

Ymhlith ei gynlluniau mae gwario mwy o arian ar ysgolion, a chynnig cymorth ymarferol i dorri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy sefydlu canolfannau triniaeth orthopedig arbennig.

Bydd Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn lansio’i ymgyrch yn swyddogol yn Abertawe, gan amlinellu chwe addewid o ran yr economi, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion, tai, trafnidiaeth a chryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Y chwe addewid fydd ei flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Lafur Cymru hyd at y tymor nesaf yn y Senedd, sef:

  • hwb i economi werdd
  • buddsoddi mewn addysg
  • torri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • tai da yng nghymunedau Cymru
  • gwella trafnidiaeth a chostau teithio
  • llais cryfach i bobol Cymru a chryfhau datganoli

‘Gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru’

“Dw i’n sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog oherwydd bod gen i weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai Jeremy Miles.

“Mae gennym ni heriau ariannol anodd nawr, ond rhaid i ni feddwl hefyd y tu hwnt i’r rheiny er mwyn sicrhau dyfodol mwy gobeithiol.

“Fel Prif Weinidog, byddaf yn buddsoddi mwy mewn addysg, yn darparu cymorth ymarferol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn torri rhestrau aros, yn ehangu tai cydweithredol, ac yn cyflwyno costau teithio ar fysiau mwy teg.

“Bydd yn rhaid i bob ceiniog sy’n cael ei wario ar adeiladu a phrynu drwy Lywodraeth Cymru fodloni’r prawf o gefnogi swyddi cynaliadwy o safon a’n nodau o fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.

“Bydd ein democratiaeth Gymreig yn cael ei chryfhau â Senedd gryfach, bydda i’n gwthio am ddatganoli rhagor o bwerau, gan gynnwys o fewn Cymru, a byddaf yn cydweithio mewn partneriaeth â Keir Starmer fel Prif Weinidog nesaf Llafur er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa o gael dwy lywodraeth – yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig – sy’n cydweithio ar gyfer dyfodol Cymru.”