‘Torcalonnus’: Gweinidog yn ymweld â Sir Benfro wrth i bryderon am ffliw adar ar ynysoedd y sir gynyddu
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymweld ag ynysoedd yn Sir Benfro wrth i bryderon ynglŷn â ffliw adar yno gynyddu.
Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales.
Daw wedi i’r awdurdodau gadarnhau mai ffliw adar oedd ar fai am dros 200 o adar marw ar draethau Sir Benfro.
Mae RSPB Cymru wedi galw ar y cyhoedd i beidio â chyffwrdd yr adar.
Mae Ynys Dewi ac Ynys Gwales yn gartref i rai o nythfeydd huganod pwysicaf y byd, gyda gwylogod, adar drycin Manaw, llursod a hebogiaid tramor hefyd yn nythu ar eu glannau.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ei fod yn sefyllfa “dorcalonnus”.
“Hoffwn ddiolch i'r RSPB a'n holl asiantaethau sy'n gweithio'n ddiflino i fonitro'r sefyllfa, a'n hawdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr ac APHA.
“Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd a gwrando ar gyngor hefyd - peidiwch â chodi unrhyw adar sâl neu farw a chadwch gŵn ar dennyn i atal cyswllt.”
‘Dinistriol’
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd RSPB Cymru fod Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd, Gwylanod a Phalod wedi eu canfod yn farw yn arnofio o amgylch Ynysoedd y Moelrhoniaid a Rhosneigr, Ynys Môn yn y Gogledd.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Ymateb i Argyfwng Adar y Môr sy'n dod â nifer o asiantaethau ynghyd i gadw golwg ar y sefyllfa.
Dywedodd Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru: “Mae effaith ffliw adar ar boblogaethau adar y môr wedi bod yn ddinistriol.
"Mae'n pentyrru'r pwysau ar boblogaethau bregus ac mae'n ychwanegu at frys cynyddol cadwraeth o ran adar y môr. Yn anffodus, nid ffliw adar yw'r unig her sy'n wynebu adar y môr yng Nghymru.
"Mae effaith newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr hefyd yn gofyn am ymdrechion brys i gynyddu cydnerthedd adar y môr, boed hynny drwy gynllunio morol, bioddiogelwch a rheoli pysgodfeydd.”