Carcharu dyn o Danygrisiau wedi gwarchae 15 awr
Mae dyn oedd â chyllell fawr yn ei feddiant ac yn gyfrifol am warchae mewn fflat yng Ngwynedd wedi’i garcharu am ddwy flynedd.
Cyfaddefodd Cameron Jennings-Williams, 22 o Danygrisiau ym Mlaenau Ffeistiniog i achosi niwsans cyhoeddus, bod â chyllell yn ei feddiant a gwneud bygythiadau mewn man preifat gydag arf llafnog.
Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman wrtho yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau: “Roedd hyn yn faich enfawr ar adnoddau gwerthfawr y gwasanaethau brys. Roedd yn rhaid gwacáu tai cyfagos. Roedd hi yn oriau mân y bore.
“Roedd arfau i’w gweld yn ystod y gwarchae a chafodd ffordd leol ei chau.”
Mae gorchymyn atal am 10 mlynedd yn ei wahardd o stad Hafan Deg, lle digwyddodd y digwyddiad.
Clywodd y llys ei fod wedi dangos potel fodca yn cynnwys defnydd ynddi i’r heddlu.
Ond dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr yr amddiffyn, Elen Owen, ei fod yn “fygythiadau gwag” gan mai dŵr oedd yn y botel yn hytrach na choctel Molotov.
Dywedodd fod gan y diffynnydd hanes hir o anawsterau iechyd meddwl.
Fe ddywedodd y Barnwr Saffman fod Jennings-Williams hefyd wedi honni bod petrol ar hyd a lled y fflat a bod yn rhaid i'r heddlu gymryd ei fygythiadau o ddifrif ar y pryd.
“Dim ond dedfryd o garchar ar unwaith sy’n briodol,” ychwanegodd y barnwr.