Dadansoddi

Crefft ymgyrchu

‘Yr hawl i bethau hardd, disglair’

Jess Bailey

MANY HANDS MAKE A QUILT

Common Threads Press, 52tt, £8, 2021

Zoë Thomas

WOMEN ART WORKERS OF THE ARTS AND CRAFTS MOVEMENT

Manchester University Press, 272tt, £85, 2020

Rozsika Parker

THE SUBVERSIVE STITCH: EMBROIDERY AND THE MAKING OF THE FEMININE

Bloomsbury, 336tt, £15.99, 2019

adrienne maree brown

PLEASURE ACTIVISM: THE POLITICS OF FEELING GOOD

AK Press, 280tt, £14, 2019

Betsy Greer

CRAFTIVISM: THE ART AND CRAFT OF ACTIVISM

Arsenal Pulp Press, 224tt, £10, 2010

Robin D G Kelley

Freedom Dreams

Beacon Press, 264tt, £17.99, 2003

Sara Huws

Amser darllen: 15 munud

11·04·2022

Ym Mariwpol, Mai 2015 (Llun: Jerome Sessini/Magnum Photos)

 

Bob tro dwi’n eistedd i ysgrifennu’r darn hwn dwi’n teimlo’r ysfa i weu. Unffurf, ailadroddus, llonydd – saffach na sgwennu – a’r darn yn datblygu’n daclus, yn dilyn patrwm, cyn belled â bod rhywun yn dilyn y cyfarwyddiadau. Accretion ydi hyn, neu gytyfiant yn ôl y geiriadur, proses lle mae ymdeimlad o gyfanrwydd yn cronni mewn camau bychain, syml; proses sy’n esgor yn y pen draw ar y gestalt – y cyfanwaith yn ei holl gymhlethdod.

Wrth weu mae rhywun yn awdur ar bob math o bethau. Ar fathemateg ddiymwybod, er enghraifft, wrth i weu sgwâr (sgarff, siwmper, cwrlid) droi’n driongl (siôl) ac yn siapiau mwy haniaethol hefyd, gyda phrofiad – all ddod at ei gilydd i greu dilledyn. Gydag amser ac ailadrodd, daw geometreg yr arwyneb yn geometreg nad-yw’n-Ewclidaidd: daw siapiau fflat yn gromenni, yn donnau a silindrau, sy’n cydio i’r corff mewn ffurfiau sy’n crymu, crebachu ac ehangu (hosan, maneg, béret). 

Caf chwarae efo lliw a chyfansoddiad, gan greu unffurfiaeth a gwrthbwynt yn ôl y galw. Gallaf guddio neu amlygu rhannau o’r corff, gan ddefnyddio chiaroscuro; neu greu trompe l’œil â brithwaith a phatrymau dwys. Rydw i’n awdur, hefyd, ar absenoldeb – mae twll yn y ffabrig gan amlaf yn gamgymeriad; ond yn y lle iawn, mewn gwead, daw tyllau yn les addurniadol cain. 

Mae potensial ar gyfer ildio, sy’n dod yn rhan o gyfansoddiad fy ffabrig – dyma deimlad o rywbeth meddal, sy’n rhoi, sy’n wahanol i resi talsyth crosio. Mae honno’n broses lawer rhwyddach a chyflymach ond yn creu rhyw deimlad mwy lletchwith ar y croen. Yn fy ngweu mae rhesi ar resi o fwâu, wedi eu tynnu trwy’i gilydd, oll yn ddibynnol ar gryfder a ffurf y naill a’r llall – eu siapiau crwm yn creu hyblygrwydd sy’n gorwedd yn jicôs ar y corff, ac yn dilyn ei ffurf. Bydd terfyn elastig iddo, wrth gwrs, a hynny tu hwnt i fy rheolaeth i. Caiff hynny ei awdurdodi gan y nyddydd. Boed yn berson neu beiriant, y rhain, drwy’r broses o droelli, sy’n trosglwyddo’r ynni fydd yn dal y ffeibrau at ei gilydd.

Yn ddyfnach na hynny, ar lefel folecylol, ceir cadwyn droellog: coil heligol sy’n troelli tua’r dde, sydd oddi mewn i raff-goil sy’n troelli i’r chwith. Rheini, gyda rhyw lond dwrn o broteinau, sy’n creu’r cortecs, sy’n rhoi siâp i gwtiglau – a’r rheini sy’n awduron ar natur y gwlân a’r hyn y gellir ei wneud ag ef. Daw gwlân crafog yn garpedi a charthenni (sgwâr, petryal), a’r meddalaf ohonynt yn eitemau sy’n gyfforddus yn agos at y croen, fel sanau, hetiau a menyg (silindrau, cromenni, siapiau nad-ydynt yn-Ewclidaidd). 

Gellir edrych, wrth gwrs, ar unrhyw grefft trwy lens ddadansoddol, fanwl fel hyn a dirnad patrymau ystyrlon, difyr. Mae’n siŵr bod yr un synnwyr taclusrwydd a chynghanedd ag sydd i wehyddu i gerfio llwyau hefyd, neu beintio modelau bach o longau pleser, hyd yn oed. Yr hyn sy’n fy nhiclo’n bennaf am weu, fodd bynnag, yw’r ffaith bod cynnyrch y llafur cymhleth hwn, waeth beth yw lefel y sgil a provenance y gwlân, yn aml yn nwyddyn ffrympi, lympiog. Bydd anrheg wedi ei weu yn dod â rhyw ymdeimlad o mothballs, hen ferched a neiniau. O’i holl waith yn eirioli dros bleser gweu yn y gemau Olympaidd, doedd hyd yn oed rhywun mor siapus â Tom Daley ddim cweit yn argyhoeddi rhywun o bleser cyfwerth gwisgo’r cynnyrch wrth iddo fentro ar Instagram i arddangos ei gardigan hufennog, flewog.

O’u creu fy hun, gwn eu bod yn gyfforddus a braf, a bod rhyw deimlad o falchder cynnes yn perthyn i ddillad wedi eu gweu. Serch hyn, mae’r patrymau sydd ar werth yn aml y tu allan i gylchoedd tymhorol chwaeth y farchnad ffasiwn – rhyw ddau gam ar ei hôl hi, fel rheol. Maen nhw’n wrthrychau hynod, gwrthrychau camp, gwrthrychau nad ydynt o fewn gafael y farchnad rydd. Rhowch gost edafedd at oriau gwaith ar minimum wage ac fe gewch chi bris tu hwnt i bob rheswm economaidd: pres couture am wrthrych coslyd, sy’n rhy gartrefol i’w wisgo mewn cwmpeini.

*

Ffynnu, wrth gwrs, mae crefft fasnachol ar hyn o bryd. Wrth i ddiwylliant hygge Llychlyn droi’n beiriant cyfalafol grymus, mae nwyddau sy’n olrhain stori, sy’n meddu ar terroir a gwead unigryw wedi dod yn boblogaidd unwaith yn rhagor ac yng Nghymru hefyd. Gellir prynu ‘hand-crafted chicken caesar wrap’ yn Tesco. Neu esgidiau lledr meddal am bris mis o rent gan ddynes ym Machynlleth sy’n codi hanner canpunt i agor drws ei siop i fesur fy nhraed (mi dalais, ond ddaeth hi ddim – roedd hi wedi ‘unplygio’ a mynd i’r traeth). Ymhellach i lawr yr arfordir, ceir jîns swmpus a macho gan gyn-farchnatwr Saatchi a’i weithdy gwerinol. Teithiwch ymhellach i Bowys a chewch ymuno mewn gwyliau diwylliannol glampus, ble bydd gwersi gwneud jam a thrin lledr yn cael eu cynnig ochr-yn-ochr â’r ayuhasca. Ac wrth gwrs, am ein bod ni’n byw yn oes adfywiad esthetig y garthen, gallwch brynu ready-to-wear gan Alexander McQueen wedi’i seilio ar batrymau o Sain Ffagan, ymweld â chwilt Cymreig ym mhafiliwn celf Biennale Fenis – neu os yw’r fersiwn authentic yn rhy ddrud, gallwch ymweld ag unrhyw siop Gymraeg leol a mi gewch ddigon o brint portcullis i lenwi pob silff yn y tŷ. 

Er gwaetha ei llwyddiant ym myd diwylliant masnachol, mae crefft yn nyddiau hwyr cyfalafiaeth yn eithriad absẃrd: i’r rhai ohonom sy’n ymhyfrydu ynddo, llafur sydd rhwng gŵyl a gwaith ydyw. 

Cynyddu mae’r math hwn o lafur drwy ein cymdeithas – gweithgareddau sy’n plethu ein bywydau hamdden a phroffesiynol ynghyd, wrth i ‘swyddi’ fel ‘dylanwadu’ ddod yn fwy cyffredin. Gall gwyliau i rywle heulog, dadbacio parsel o ddillad, neu swper gyda chariad fod yn waith i ddylanwadydd, cyn belled â’i fod yn cael ei ddal trwy’r lens. Ar lefel fwy cartrefol, gellir gweld hyn wrth i fenywod fy oedran innau, ‘milenyddion’ yn bennaf, droi hobi boddhaol yn fusnes bach: nwyddau lliwgar, apelgar – sgrynshis a masgiau a chlustdlysau clai – yn gymysg ar grid gyda’n plant neu’n cathod neu’n cinio. 

Mae’n ffenomenon a elwid yn optimization gan yr awdur Americanaidd Jia Tolentino, sy’n trafod sut mae’r pwysau ar fenywod i berffeithio pob elfen o’u bywydau yn symptom o batriarchaeth ehangach. Dangoswn ffrwyth ein gwaith optimeiddio yn falch ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ildio mwyfwy o’n hamser sbâr, ein pryd a gwedd, ein hymwneud â’n teulu a’n ffrindiau, i’r farchnad rydd a’r cwmnïau technoleg enfawr sy’n ei chynnal. Aiff yr artist Laurel Ptak gam ymhellach yn ei gwaith ‘Wages For Facebook’, gan bwysleisio bod pob post anffurfiol, pob munud rydym yn ei dreulio yn dangos ein hwynebau a’n personoliaethau ar-lein yn ‘alienated labour’, yn waith am ddim i’r cewri technoleg. Does ryfedd, felly, fod gwaith llaw ar groesfan anghyfforddus yn yr oes ddigidol.

*

Ar lefel gwbl faterol, gellid dadlau bod ‘gwneud pethau â llaw’ ym myd awtomateiddio, mas-gynhyrchu, argraffu 3D a deallusrwydd artiffisial, yn weithred ddianghenraid – yn berfformiad, o fath. Mae gwaith llaw yn llafur a wnawn yn bennaf nid er elw ond er mwyn diddanu ein hunain, i brofi pleser, i gymryd rhan, i adeiladu cymuned, i fod yn greadigol, neu fel rhan o ‘ddatblygiad personol’. Disgrifia’r hanesydd Roy Saer greadigrwydd byrfyfyr sy’n rhan o orchwyl bywyd bob dydd fel creu ‘at iws’, gan ddefnyddio esiamplau fel hwiangerddi neu ganu ychen. Ond bellach, nid gwneud ‘at iws’ y byddwn ond gwneud er mwyn gwneud.

Ceir gorgyffwrdd rhwng y math hwn o lafur – gwaith crefft – a chysyniadau Marcsaidd ynghylch ‘gwaith’, sy’n dueddol o ddisgrifio llafur fel y weithred o greu ffurf. Wrth baratoi at ysgrifennu’r darn hwn, rhaid cyfaddef mai profiad llafurus i mi oedd plymio i hanes cysyniadol ‘gwaith’ a ‘gwneud’. Gorchwyl ynddo’i hunan yw pori drwy lyfrau Pwysig a Thrwm gan John Ruskin (ydi’r crefftwr yn hapusach na’r gweithiwr?) a William Morris (gellir ‘crefftio’ hapusrwydd, a thrwy gyfrwng hynny, newid cymdeithasol) a Karl Marx (llafur yw’r broses o greu ffurf, a thrwy ffurf gellir creu grym) a Hannah Arendt (mae rhai mathau o lafur heb ffurf). Roedd pori’r tudalennau’n peri i mi ddechrau synfyfyrio am y siwmper ro’n i newydd ei rhoi ar y gweill, fy mysedd yn cosi eisiau cydio ynddi.

Ond canfyddais lyfrau cyfoes am yr un themâu, llyfrau sydd, i raddau, yn ailbecynnu’r un pwyntiau athronyddol. Daeth cyfrolau am ddiwedd ‘gwaith’, er enghraifft, yn boblogaidd, fel How to do Nothing (2019) gan Jenny Odell. Dyma gyfrol am roi’r gorau i Instagram sydd i’w gweld yn apelio at y rhai sy’n hoff o rannu eu rhestrau darllen – ar Instagram. Mae’r gyfrol Work Want Work gan Mareile Pfannebecker a J A Smith (2020) wedyn yn dadlau dros ddatgysylltu ein hunain oddi wrth yr hyn a elwir yn ‘lifework regime’ – y ‘byw sy’n waith’. Yn eu ffyrdd tameidiog eu hunain, mae’r cyfrolau hyn yn diweddaru theorïau gwaith mwyaf cyfarwydd yr 20g – delfrydol i rywun fel fi, sydd wedi crebachu rhychwant ei sylw i hyd fideo TikTok. 

Ceir llawer o weithiau diddorol iawn ar grefft a llafur cudd o safbwynt ffeministaidd, yn bennaf yn trafod gwaith domestig. Mae dau gyfraniad nodedig yn ymdrin â menywod fel gweithwyr celf ‘anghofiedig’. Mae Hirst, Don’t It: Revealing the Invisible Labor of Female Fiber Artists in Twentieth Century Art (2016), cywaith i’r Craft/Work Collective gan Nora Renick Rinehart a Rachel Wallis, yn dwyn ei enw o waith menywod fel Rachel Swainston, gan olrhain hanes ei diflastod creadigol yn creu gweithiau drudfawr, sbotiog Damien Hirst ar ran ei stiwdio. Aiff Women Art Workers of the Arts and Crafts Movement (2020) gan Zoë Thomas gam ymhellach, gan archwilio cyfraniad merched a rôl dosbarth cymdeithasol yng ngwaith y mudiad Arts and Crafts Seisnig, wrth i artist-wneuthurwyr a sosialwyr o fri fel William Morris ennill y clod am eu llafur. Mae’n dwyn i gof un o drysorau’r casgliadau rydw i’n cael eu defnyddio fel rhan o fy ngwaith bob dydd – copi cain o The Floure and the Leafe, un o dri chant a argraffwyd dan law Morris ei hun yn 1896, ac a rwymwyd mewn sidan wedi ei frodio â charped o flodau amryliw. Tybia rhai mai ei ferch May a’i gwnaeth, ond ni chofnodwyd llaw’r frodwraig ar gatalog yn unlle. A bod yn hollol onest, fel gyda cryn dipyn o waith Morris (y tad), diflasu rydw i ar y testun; ac er bod y dywediad yn ein hannog i beidio, rydw i wedi treulio oriau maith yn anwybyddu’r dalennau, gan astudio, dadansoddi a mwynhau patrymau brodiog y clawr yn ei le. Mae’n un llyfr o blith miloedd gan weisg bychain sydd dan ein gofal ym Mhrifysgol Caerdydd: ymhellach i lawr y silff ceir gweithiau’r Guild of Women Bookbinders, sef menter fyr-ei-hoedl a geisiodd ‘wella’ menywod Fictoraidd trwy ddysgu crefft rhwymo iddynt a’u rhoi ar waith. 

*

O archwilio’r corpws o weithiau sydd gennym yn Saesneg am waith, crefft a chrefftwaith, rhwydd fyddai meddwl mai dim ond pobl wynion sydd wedi ymgymryd â’r pwnc dros y canrifoedd. Prin yw’r sôn yn y cyfrolau poblogaidd uchod am yr achos mwyaf trawsnewidiol a niweidiol o ladrad llafur – y farchnad gaethwasiaeth draws-Atlantig. Rhwydd iawn yw trin llafur fel cysyniad haniaethol, arbrofol, pryfoclyd; mater arall yw hanu o linach lle roedd gwaith yn orfodol, a gorffwys, hamdden, a’r creadigrwydd sy’n tarddu ohono wedi’u gwahardd. Mae astudiaeth disgynyddion caethweision Affro-Americanaidd o waith, llafur, gorffwys a chreadigrwydd wedi rhoi i ni rai o’r gweithiau mwyaf arloesol ar themâu dychymyg, gwaith a newid cymdeithasol – a dylid eu cydnabod, eu hystyried a’u cylchredeg yn ehangach.

Er enghraifft, wrth eistedd yma’n ysgrifennu a hithau’n Ddiwrnod Martin Luther King, rydw i’n troi at waith mudiadau ‘gorffwys radical’ – y rhai sy’n dehongli ‘breuddwyd’ King yn y ffordd fwyaf llythrennol, gan fynnu bod gwir chwyldro cymdeithasol yn dod o greu amodau sy’n annog gorffwys a breuddwydio gwirioneddol. Yn ôl yr artist a’r athronwraig Tricia Hersey, mae gorffwys dwfn a gweithredoedd dychmygus yn rhan annatod o greu byd mwy cyfartal; mae angen iddynt fod yn rhan o balet yr ymgyrchydd, sydd mor aml wedi ei lwytho at bwrpas gweithredu uniongyrchol a gweithredu corfforol. Mewn byd lle mae’r ‘weithred fawr’ – yr ympryd, y blocâd, yr achos llys – yn tra-arglwyddiaethu, mae lleisiau sy’n datgan pwysigrwydd y dychymyg a’r creadigol yn feiddgar yn eu ffyrdd eu hunain: maent yn ein herio i freuddwydio yn ernes am y byd rydym am ei greu.

Yn y gyfrol Freedom Dreams gan Robin D G Kelley (2003), ceir esiamplau hanesyddol o hyn, o blethu gorffwys a dychymyg er budd gwrth-hiliaeth. Dyma gofnod gonest o hanes mudiadau delfrydgar, iwtopaidd Affro-Americanaidd yr 20g yn eu holl amherffeithrwydd. Gellir gweld y cysyniad ar waith heddiw yn ffotograffau a pherfformiadau’r artist Tourmaline, ac yn ysgrifennu creadigol adrienne maree brown ar fydoedd amgen yr awdur gwyddonias Octavia E Butler. Mae maree brown hefyd yn trin y syniad o bleser mewn newid cymdeithasol: yn ei chyfrol Pleasure Activism: The Politics of Feeling Good (2019) gosodir her ganddi i ymgyrchwyr, sef darganfod sut i wneud rhyddid (‘liberation’ yn hytrach na ‘freedom’ yn yr achos hwn) yn un o’r ‘profiadau mwyaf pleserus yn y byd’. Dadl maree brown yw bod hamddena a phleser – yn arbennig creu cyfleoedd i bobl dan orthrwm brofi pleser, gorffwys a gweithredu’n ddychmygus – yn allweddol i greu dyfodol gwell.

Nid cysyniad haniaethol yn unig mo’r alwad i ddefnyddio dychymyg a chreadigrwydd i greu newid cymdeithasol. Caiff yr anarchydd Emma Goldman yn aml ei chamddyfynnu yn y trafodaethau hyn, gyda’r epithed (o’i hysgrif ar ddawns o 1924), ‘If I can’t dance, I don’t want to be part of your revolution.’ Mae yna enghreifftiau hanesyddol toreithiog o waith crefft ymgyrchu, a dim un mor gofiadwy, efallai, â’r Cwilt AIDS. Dyma ddarn aruthrol o ran maint, a wnaethpwyd yn wreiddiol yn 1985 o baneli o faint bedd, wedi eu brodio ag enwau pobl a fu farw o’r salwch. Wn i ddim a ydych chi wedi brodio enw erioed, ond mae’n broses araf, fyfyrgar, ac yn weithred gofiannol rymus. Pan osodwyd y cwilt yn Washington yn 1996, gorchuddiwyd y Mall yno: pob pwyth bychan yn dweud rhan o stori.

Parhau i dyfu mae’r cwilt, sydd bellach dros gan cilomedr sgwâr o faint, ac yn pwyso dros 50 tunnell. Mae hon yn weithred fyw, gyweithiol a phob panel yn gofiant unigol, yn brotest. Fe welwn esiamplau lu o brosiectau dychmygus, effeithiol, a llai enwog yn Craftivism: The Art and Craft of Activism gan Betsy Greer (2014) – gan gynnwys esiamplau o brosiectau crefft cymdeithasol, trawsnewidiol y gellir rhoi cynnig arnynt ar eich stryd, neu yn eich milltir sgwâr eich hun (gan gynnwys prosiect gen innau a Siân Lile-Pastore). Cawn ddarlun mwy hanesyddol yng ngwaith Rozsika Parker, The Subversive Stitch: Embroidery and the Making of the Feminine (2019) ac yn fwy diweddar, mewn llyfryn bach hardd gan Jess Bailey, o’r enw Many Hands Make a Quilt (2021). Mae Bailey yn disgrifio natur ‘amsugnol’ defnydd, yn ffigurol felly, ei allu i ‘ddal’ teimladau’r gwneuthurwr: procsi sy’n cydio yn nhrawma a theimladau’r rhai hynny sy’n pwytho, o alar i lawenydd.

*

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe fues i’n lwcus i gael gweithio gydag Amgueddfa Sain Ffagan yn dadansoddi dyddiaduron cyfnod Covid gan bobl ar draws Cymru. Roedd fy ymchwil yn edrych ar sut y bu menywod yn ymgyrchu ac yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus er gwaetha’r cyfyngiadau ar eu gweithgareddau yn sgil y pandemig. Yn ogystal â gwaith crefft i foddhau anghenion ymarferol – fel creu masgiau a sgrybs mewn prinder – roedd rhan helaeth o’r ymatebion hyn yn llawn cyfeiriadau at grefft a chreadigrwydd, a chymhellion amrywiol iddynt.

Roedd samplau niferus o’r data a gasglwyd o’r dyddiaduron yn dangos gweithgarwch crefft a chreadigrwydd cymunedol ar waith – o ddefnyddio lliw, sain, canu, disgos-stepen-drws a chyfnewid eitemau drwy’r post i wneud bisgedi a phortreadau o anifeiliaid anwes. Braf oedd gweld bod hyn yn digwydd rhwng pob math o bobl – nid dim ond rhwng aelodau teulu, cymdogion a ffrindiau, ond dieithriaid hefyd. I rai, doedd dim cymhelliad i’w crefft tu hwnt i ‘gadw’n brysur’ yn ystod ffyrlo neu yn absenoldeb prysurdeb bywyd, gydag eraill yn nodi bod creadigrwydd a gwaith crefft yn ddihangfa o realiti’r cyfnod clo. Roedd eraill yn defnyddio crefft mewn ffordd sy’n atgoffa rhywun o’r hyn a elwir gan Lauren Berlant yn ‘counter-politics of the silly object’ – creadigrwydd sy’n defnyddio hiwmor fel ffordd o ymdopi. Gwnaethpwyd hyn yn gofiadwy iawn gan grŵp a sefydlwyd ar sail cystadlaethau cerfio offerynnau cerdd o lysiau, a drodd yn grŵp cymorth wrth i’r cyfnod clo rygnu yn ei flaen. 

I mi yn bersonol, daeth crefft yn ffordd o greu ffurf yn ystod diwrnodau di-ffurf. Ar ôl dros 50 diwrnod ar fy mhen fy hun, heb siarad â neb wyneb yn wyneb, yn ymddangos yn unig fel pen ac ysgwydd mewn cwilt o wynebau ar Zoom, roedd creu cimono neu siôl neu gardigan glyd yn fodd i ddechrau cronni: dyma gamau bychain, syml, ailadroddus, a fyddai’n arwain at gyfanwaith yn y pen draw, at rywbeth y gallwn gydio ynddo.  

Er ei fod yn cael ei fframio fel rhywbeth hamddenol, breintiedig, nid cop out mo ymgyrchu crefft neu ymgyrchu araf, ond methodoleg sydd wedi ei ddatblygu o raid. Rydw i’n edmygu’r rhai sy’n medru ac sy’n fodlon gweithredu’n uniongyrchol ond nid dyna’r darlun cyflawn o beth yw ymgyrchydd. Daeth hynny’n amlwg i mi bymtheng mlynedd yn ôl. Wedi trip arbennig o drychinebus yn ceisio picedu ar ran Cymdeithas yr Iaith, dwi’n cofio meddwl: mae’n rhaid bod ffyrdd gwell na hyn. Roeddem newydd yrru i Tesco i brynu past papur wal er mwyn ... gludo posteri ar waliau Tesco arall. Ac wedyn, wrth i mi wella’n raddol o salwch cronig, dros gyfnod o ddegawd, darganfyddais nad oeddwn i’n gallu cymryd rhan mewn gorymdeithiau a gweithredoedd. Ac eto roedd yr ysfa i ‘wneud’ yn dal yno.
 

Ymarfer côr, 17 Chwefror 2022, Donetsc (Llun: Nanna Haitmann/Magnum Photos)
 

Teimlo’n euog wnes i am amser maith, tan i mi ddarganfod bod y ffyrdd mwy tyner hyn o ymgyrchu – pethau sy’n edrych yn twee a dosbarth canol – wedi tyfu o anghenion pobl ar yr ymylon, lle nad yw ymgyrchu traddodiadol yn opsiwn. Mae ffyrdd creadigol o ymgyrchu wedi bod yn rhan o fudiadau hawliau i bobl anabl ers 60au’r ganrif ddiwethaf, am nad yw pawb yn gallu ymuno mewn gorymdaith dorfol. Bydd y rhai ohonom sydd wedi profi trais a thrawma rhywiol yn ei chael yn anodd aros mewn mudiadau sy’n gwrthod bod yn atebol am ymddygiad annerbyniol eu haelodau eu hunain, yn enwedig y grymus a’r carismatig. A rhaid cofio y bydd pobl o gefndir Du, Asiaidd neu o leiafrif ethnig yn wynebu risg uwch o niwed corfforol neu gosb lem am gymryd rhan mewn gweithrediadau anghyfreithlon. Wrth fynnu mai’r rhai sy’n lluchio eu hunain yn erbyn mecanweithiau gorthrwm tan eu bod wedi eu dryllio’n llwyr – y rhai sy’n aberthu popeth, yn stopio traffig, yn mynd i’r llys, yn abseilio neu ddringo ffensys – yw’r Arch-Ymgyrchwyr, rydym yn cuddio gwaith, a chrefft, cymaint o’n cyd-deithwyr, ac yn cau ein dychymyg i ffyrdd newydd, mwy annisgwyl o greu newid cymdeithasol. 

Haf y llynedd, roeddwn wedi creu baner mewn chwiw – gwaith cyflym, mewn crochet, â’r geiriau ‘Palesteina Rydd’. Ar ôl mynychu protest lle roedd rhaid cadw pellter cymdeithasol (y gyntaf i mi ei mynychu ers amser maith) mi glymais y faner ar reilin ar gyffordd brysur yn y ddinas. Fe basiais heibio ryw ddeufis yn ôl a gweld bod cornel ohoni wedi ei rhwygo – a mynd ati y diwrnod wedyn i’w thrwsio. Erbyn i mi gyrraedd yn ôl gyda fy machyn a fy siswrn, roedd rhywun arall eisoes
wedi gwneud. Mae hi’n dal i gyhwfan hyd heddiw, am wn i. Dechreuais hefyd weu rhes o siôl bob tro ro’n i’n dechrau teimlo’n anniddig ac erbyn hyn mae gen i ddarn sydd bellach yn dalach, a lletach, na fi fy hun. A dyna fi wedi creu siâp dealladwy, taclus, defnyddiol – a choslyd – o deimladau na allwn i eu mynegi na’u dirnad.

Dyna yw grym crefft i mi: rhywbeth cynnil a chymhleth ar yr un pryd, sy’n rhoi her – ac yn cynnig ffyrdd at ddatrysiad. Mae’n mynd tu hwnt i pussy hats a baneri undeb ac yn treiddio i’n hystafelloedd byw, i’n hamser hamdden ac i’n gofodau cyhoeddus. Mae’n creu sgyrsiau rhwng pobl na fyddent yn cyfarfod nac yn trafod â’i gilydd fel arall. Gall ymgyrchu fod yn fwy na brwydr; gall fod yn fynegiant o nwyd a chwant. Ac yng ngeiriau cywir Emma Goldman, yn fynegiant o’n blys ni bob un – am ‘ryddid, yr hawl i fynegi ein hunain, a hawl pawb i bethau hardd, disglair’. 

Mae Sara Huws yn weithwraig archifyddol yng Nghaerdydd ac yn gyd-sefydlydd yr East End Women's Museum yn Llundain. Mae hi’n paratoi doethuriaeth ar ymgyrchu yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd.

Llun: Rene Burri/Magnum Photos

Gellir prynu ‘hand-crafted chicken caesar wrap’ yn Tesco. Neu esgidiau lledr meddal am bris mis o rent gan ddynes ym Machynlleth

Pynciau:

#Rhifyn 18
#Sara Huws
#Crefft