Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Y Bedwaredd Wythnos 24 – 30 Medi 2023

Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma  gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com

Mae hon wedi bod yn wythnos wahanol oherwydd bod cymaint o farwolaethau wedi bod. Da ni wedi colli tri aelod annwyl a ffyddlon o deulu Ebeneser sef, Margaret Jones, Mair Bennett  – yn frawychus o sydyn – a Hazel Doull ar ôl cystudd hir. Cydymdeimlaf gyda’r teuluoedd i gyd yn eu hiraeth a’u galar. Hefyd cymerais angladd Eirlys Griffiths, mam a nain ffrindiau da i ni fel teulu, cydymdeimlaf gyda hwy yn eu colled.

Nid yw cymaint o golledion mewn amser mor fyr wedi bod yn gyffredin i mi yn ystod fy ngweinidogaeth ond tros y blynyddoedd rwyf wedi edmygu gweinidogion sydd wedi dyfalbarhau wrth gael eu llethu gan brofedigaethau ac angladdau. Diolch iddynt am eu gwaith sydd ar y cyfan yn anweledig. Efallai nad ydyw pobl yn deall yr amser y mae gweinidogion yn ei roi i fugeilio pobl yn eu gwaeledd, paratoi angladdau a chysuro pobl yn ystod ac ar ôl profedigaeth.  

Addoli

Y Sul diwethaf 24 Medi bûm mewn oedfa cwbl draddodiadol Gymraeg mewn hongliad o  gapel Ymneilltuol. Hyn yn wahanol iawn i’r 3 oedfa a fynychais yn ystod y tri Sul cyntaf o Fedi. (Gweler fy nodiadau am y dair wythos gyntaf o’r cyfnod Sabothol.) Yn yr oedfa roedd 8 person cynnes a chroesawus, a finnau, yn 61 oed – yr ieuengaf ond un. Trefn arferol oedd i’r addoliad ac fe gawsom oedfa fendithiol yng nghwmni ein gilydd. Ond…..

Ail adroddir hyn y Sul diwethaf ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, gyda channoedd o  gynulleidfaoedd bychan ac oedrannus yn brwydro i gadw’r achosion i fynd. Diolchwn amdanynt ac am eu tystiolaeth tros y degawdau. Ond nawr mae’n rhaid i ni wynebu hyn.

  1. Bydd degau/cannoedd o’r achosion hyn yn cau yn yr 20 mlynedd nesaf.
  2. Nid yw’n dull traddodiadol o addoli a chynnal gweithgareddau yn berthnasol i’r mwyafrif o’r Gymru Gymraeg cyfoes.
  3. Mae llawer o gynulleidfaoedd sydd wedi gwneud gwaith cydwybodol tros yr Arglwydd yn hen ac wedi blino.
  4. Mae canran uchel o’n capeli yn faich, yn hen ffasiwn neu wedi eu lleoli yn y man anghywir. Ond nid pob un.
  5. Nid oes teuluoedd a phobl ifanc ffyddlon a llawn ffydd yn mynychu canran uchel o’r capeli.

Nawr, ers blynyddoedd rydym wedi bod yn rhyw amddiffyn yr hyn yr oeddem yn ei wneud ond rhaid i  gyfnod yr amddiffyn ddod i ben. Pwy arall sy’n cynnal gweithgarwch sy’n aflwyddiannus dro ar ôl tro gan ddisgwyl y bydd yn llwyddiannus ar y nawdeg nawfed tro?

Un ai rydym yn rhoi’r ffidil yn y to neu rydym yn newid tac ac yn codi ein hwyliau i awel yr Ysbryd Glân. Yn gyntaf, rhaid deall nad oes rhaid i ni amddiffyn Duw na gwaith ei eglwys yng Nghymru. Ef sydd wrth y llyw a’n braint ni fel credinwyr yw cydweithio yn greadigol gydag Ef. Yn ail, rhaid cynnal addoliad a gweithgareddau yn benodol i ennill oedolion ifanc, teuluoedd a phlant. Rydym angen pobl i ddod i gredu yn Iesu Grist a chael eu hargyhoeddi o wirionedd syfrdanol y newyddion da Cristnogol. Nid cynnal traddodiad ac nid edrych ar ôl y capel yw ein gwaith. Rhaid bod yn enillgar, rhaid cenhadu a rhaid Efengylu. Yn drydydd, mae Duw yn agor pennod newydd yn ein hanes yma yng Nghymru. Caf gyfle i ysgrifennu mwy am hyn yn ddiweddarach yn ystod y Sabothol.

Sgyrsiau

Cefais sgwrs swmpus gyda’r Parch. James Rankin, sydd yn brif arweinydd eglwys Vineyard (Byddai Gwinllan yn enw da ar eglwys Gymraeg.) Canolfan y Gate, City Road, Caerdydd. Bûm yn un o’u hoedfaon yn ystod mis Medi.

Gan fod amser yn brin i sgwrsio gydag ef gofynnais gwestiynau penodol iddo eu hateb.

1.Beth oedd y weledigaeth neu’r hyn a’ch ysbrydolodd i gychwyn yr eglwys hon yn 2007?

“Mae gan Vineyard weledigaeth glir i blannu eglwysi newydd a thyfu cynulleidfaoedd. Roeddwn i a fy ngwraig – roeddem yn byw yng ngogledd Lloegr ar y pryd – yn teimlo galwad gan Dduw i blannu eglwys newydd. Aethom i nifer o ddinasoedd i weld ond ddaru ni benderfynu dod i Gaerdydd. Un o’r prif resymau am hynny oedd nad oedd unrhyw gynulleidfa gan Vineyard yng Nghymru. Penderfynodd 15 ohonom symud i Gaerdydd i gychwyn yr achos. Fe gawsom swyddi – diolch i’r Arglwydd – ac yr oedd pawb ohonom yn degymu at y gwaith. Nid oedd neb yn cael ei dalu ar y cychwyn. Ar y dechrau roeddem yn rentu ystafell yn Stadiwm y Principality yn addoli yno ac yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol e.e., noson curry, pie & ale, er mwyn gwahodd pobl i ymuno gyda ni. Yn raddol tyfodd y gynulleidfa a phenderfynwyd prynu Canolfan Y Gate gan Eglwys Glenwood. Ers hynny mae’r eglwys wedi tyfu ymhellach.”

Yr hyn oedd yn drawiadol yn y sgwrs oedd y pwyslais ar waith ac arweiniad yr Ysbryd Glân. Hefyd mae’n amlwg iawn eu bod yn drefnus. Mae ganddynt weithdrefnau amlwg. Maent yn fwriadus yn eu bwriadau gan asesu yn union yr hyn maent am ei wneud gan geisio cyrraedd y nod y maent wedi ei osod o fewn amser penodol. Trwy eu heglwysi i gyd y maent wedi casglu ystadegau am wahanol ystod oedran. E.e., Yn ôl eu ymchwil roedd y “Baby boomers” yn bobl oedd yn barod iawn i wneud pethau yn ymarferol ac o fewn arweinyddiaeth. Ond mae tuedd ynddynt i fod yn awdurdodol. Yna mae pobl ifanc “generation x” – yn eu hugeiniau –   yn llai parod i gymryd cyfrifoldeb, felly mae’n rhaid eu hannog a’u hyfforddi llawer mwy. Er mwyn gallu gwneud hyn y mae ganddynt holiaduron sydd yn cynorthwyo unigolyn i weld beth yw eu cryfderau a’u gwendidau. Wedi iddynt ddadansoddi manylion yr holiaduron mae cyrsiau hyfforddi addas at anghenion yr unigolion i’w cael un ai o fewn yr eglwys leol neu mewn canolfannau hyfforddi. Maent yn eithriadol o ddadansoddol.

Canolfan Y Gate, Caerdydd, oddi ar Heol y Plwca. (City Road)

4. Sawl troedigaeth ydych chi wedi eu gweld o ganlyniad i’ch gwaith?

Oddeutu 100 mewn 15 mlynedd.

Ni chefais yr argraff eu bod yn rhoi’r un daten am waith Cristnogol arall oedd yn digwydd yn yr ardal lle roeddent hwy am blannu. Ac felly roeddent yn hyderus iawn mai dyma oedd ewyllys Duw. Rwy’n siŵr fod cydweithio yn digwydd ond ni chefais gyfle i holi.

Tydi hyn ddim yn beth poblogaidd i’w ddwneud ond……Wyddoch chi be? Efallai mai dyma’r ffordd nawr i ninnau i’r dyfodol. Fel hyn oedd Cristnogion Cymru yn y 19eg ganrif yn gweithredu. Roeddent yn cychwyn achosion blith drafflith heb gynllunio o gwbl. Dyma pam fod gennym gymaint o gapeli. Roedd yn gymharol wallgo’ ond eto roedd y newyddion da yn cael ei rannu a’i gyhoeddi yn effeithiol ac  roedd achos Iesu Grist yn tyfu. Dwi am sgwennu rhagor am hyn yn ystod mis Hydref. Ond dyna ddigon am y tro. Digon i gnoi cil drosto.

Diolch J. Rankin am roi i mi o’i amser.

Cefais sgwrs fer gyda Steven Willliams sy’n gwirfoddoli gyda chanolfan Oasis yn Sblot Caerdydd sy’n helpu ymgeiswyr lloches. Mae’r elusen hon yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi ymgeiswyr sy’n cael eu lleoli yma yn y brifddinas mewn amrywiol ffyrdd: llety, adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd yn ôl yr angen. Gobeithiaf gael sgwrs pellach gyda Steven yn y dyfodol agos.

Un o’r pethau y mae angen i eglwysi ei wneud – a gwn fod llawer o hyn yn digwydd – yw gwasanaethu’r gymuned y maent yn byw ynddi. Er mwyn gwneud hyn rhaid ymchwilio i weld beth yw’r anghenion sydd o’n cwmpas ac o’r modd y gallwn ni wasanaethu. Y mae hyn yn dystiolaeth bwerus i gariad Duw sydd yn cael ei fynegi trwy ei bobl.

Cwestiwn yr wythnos

Pam fod addoliad ein heglwysi Ymneilltuol wedi datblygu i fod mor unffurf?

Diolch i Dr. Dafydd Tudur am anfon cyfeiriadau i mi am ddatblygiad canghennau/ Ysgoldai, Hen Gapel Llanuwchllyn.

Beibl

Yn fy nyletswydd boreol rwy’n parhau i astudio Llyfr yr Actau gyda chymorth esboniad gwych R. Kent Hughes.

Llyfrau

Darllen pigion o Hanes Hen Gapel Llanuwchllyn, (Bala, 1937), R. T.Jenkins

Wedi dechrau darllen “Tell me the dream again,” (Colombia, 2023), Tasha Jun.

Eisiau darllen

Hen Gapel Llanbrynmair, 1739–1939 (1939), Iorwerth C. Peate.

Scattered Servants, Unleashing the Church to bring life to the City, (DavicCook, 2018), Alan Scott.

Fideos a Gwefannau – Cadw’r gwenith a chwalu’r us.

Teledu Annibynwyr

Cant Cymru

Awgrymiadau ar gyfer cyfnod Sabothol

Ymweliadau bugeiliol – Awgrymiadau



Gadael sylw