Oedi 'torcalonnus' i gwpl allu teithio am driniaeth IVF

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Nicci a Kevin ButtonFfynhonnell y llun, Kevin Button
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nicci a Kevin ail rownd o driniaeth IVF y 2017

Mae cwpl sydd wedi bod eisiau teithio dramor am driniaeth IVF ers cyfnod clo cyntaf y DU yn dweud bod gorfod aros i'r rheolau teithio newid yn "dorcalonnus".

Enillodd Kevin a Nicci Button o Donyrefail, Rhondda Cynon Taf, driniaeth IVF am ddim yng Nghaliffornia yn 2020.

Maen nhw'n galw am fwy o gefnogaeth i bobl sy'n gobeithio cael triniaeth ffrwythloni dramor yn ystod y pandemig.

Dywed llywodraeth y DU bod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn daith hanfodol yn "cael ei farnu ar sail glinigol unigol".

Teithiau hanfodol yn unig sy'n cael eu cynghori dramor dan gyngor cyfredol y Swyddfa Dramor.

Dywed y cwpl eu bod yn ceisio cael plentyn ers dros bedair blynedd, ac maen nhw wedi cael triniaeth aflwyddiannus ddwywaith yn y DU.

Mae cyfyngiadau ar deithiau rhyngwladol a chyfnodau cwarantîn ar ôl dychwelyd i'r DU yn "rhwystr enfawr" i'w cynlluniau i ddechrau teulu, medd Mrs Button, sy'n 36 oed.

'Ras yn erbyn amser'

"Hira' yn y byd mae hyn yn mynd ymlaen, anodda' fydd ein siawns i'r driniaeth weithio," meddai.

"Yn 36, 37 fydd hi ddim yn hir nawr cyn y byddaf yn cael fy ystyried yn fam geriatrig. Mae'n ras yn erbyn amser nawr."

Ffynhonnell y llun, Kevin Button
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwpwl wedi cael triniaeth aflwyddiannus ddwywaith yn y DU

Dywedodd Mr Button eu bod "wedi gwirioni" ar ôl ennill triniaeth am ddim mewn cystadleuaeth gan y California IVF Fertility Center yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Ond bu'n rhaid iddyn nhw ganslo cynlluniau i deithio i'r Unol Daleithiau ym mis Mawrth, ac maen nhw bellach yn gobeithio mynd yno ym mis Mai.

Y prif faen tramgwydd, maen nhw'n dweud, yw bod triniaeth IVF ddim yn cael ei ystyried yn rheswm meddygol sy'n gwneud teithio'n hanfodol. O'r herwydd, byddai'n rhaid iddyn nhw hunan-ynysu ar ôl glanio mewn gwlad dramor ac wrth ddychwelyd i'r DU.

Bydde gofyn iddyn nhw deithio i Galiffornia ddwywaith o fewn chwe wythnos fel rhan o'r driniaeth, a fyddai'n golygu wyth wythnos o hunan-ynysu.

'Ddim yna i joio'

"Bydde dim digon o wyliau neu ddigon o wyliau di-dâl gyda ni, a gallen ni ddim fforddio cymryd gymaint o amser â hynny o'r gwaith," meddai Mrs Button.

Mae'r cwpl yn amcangyfrif y byddai'r daith a'r llety yn yr Unol Daleithiau'n costio rhwng £4,000 a £6,000. Ond maen nhw'n dweud y byddai'r un driniaeth yn costio hyd at £10,000 yn y DU.

"Dydyn ni ddim eisio mynd yno i joio," meddai Mrs Button. "Mae er mwyn dechrau teulu."

Dywedodd y dylai cyplau yn yr un sefyllfa gael mwy o gefnogaeth gan lywodraeth y DU, gan gynnwys cael brechiad coronafeirws yn gynt, addasu cyfyngiadau cwarantîn neu help ariannol i gadw rheolau hunan-ynysu.

Ffynhonnell y llun, Kevin Button
Disgrifiad o’r llun,

Priododd Kevin a Nicci Button yn 2019

Dywedodd prif weithredwr yr elusen Fertility Network UK, Gwenda Burns, bod y pandemig wedi gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn gymhleth i bobl sy'n dewis mynd dramor am driniaeth ffrwythloni.

"Yn y DU, mae cyfyngiadau teithio wedi dod i rym yn gymharol fyr rybudd, sydd wrth gwrs yn creu straen a chostau ychwanegol i'r bobl sy'n ceisio cadw apwyntiadau," meddai.

"Os maen nhw'n gallu teithio'n ddiogel, bydd cleifion hefyd angen cyfnod cwarantîn, sy'n gallu bod yn arbennig o ofidus ac unig ar adeg pan fo angen cefnogaeth fwy nag erioed."

Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio clinigau ffrwythlondeb yn y DU y gallai amgylchiadau lleol amharu ar driniaethau mewn rhai clinigau.

"Dylai cleifion gadw mewn cysylltiad gyda'u clinig sy'n gael eu diweddaru ynghylch unrhyw newidiadau i'w gwasanaethau," meddai'r Awdurdod Ffrwythlondeb Dynol ac Embryoleg.