Amlinellu cynllun cyflog byw i weithwyr gofal

  • Cyhoeddwyd
gweithiwr gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Llafur addo cynyddu tal gweithwyr gofal yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Mae rhoi cyflog byw i ofalwyr a phuro'r awyr yn rhan o gynlluniau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Wrth amlinellu amcanion ei lywodraeth dywedodd Mark Drakeford y byddant yn adeiladu Cymru "mwy teg" a "mwy gwyrdd".

Ymhlith yr addewidion eraill fydd codi 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel ar gyfer eu rhentu, a sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru.

Dywed gweinidogion y bydd newid hinsawdd yn "ganolog i bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud".

Disgrifiad o’r llun,

Creu Cymru "fwy teg, fwy gwyrdd a chryfach" yw'r nod, medd Mark Drakeford

Yn etholiad mis Mai fe wnaeth Llafur sicrhau 30 seddi - un yn fyr o fwyafrif ac felly bydd angen cefnogaeth o blith y gwrthbleidiau i basio deddfwriaeth a chyllidebau.

Dywedodd Mr Drakeford: "Fe fyddwn yn adeiladau Cymru fwy teg, fwy gwyrdd a chryfach lle bydd pawb yn chwarae eu rhan - dydyn ni ddim am i unrhyw un gael eu gadael y tu ôl."

Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o addewidion gafodd eu rhoi gan Lafur Cymru yn ystod etholiadau'r Senedd yn ddiweddar.

Byddai hynny yn golygu rhoi cyfle i bawb dan 25 oed i gael gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae addewid o gyfleoedd gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunan-gyflogaeth i bawb dan 25 oed

Dywed gweinidogion y byddant yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Hefyd mae sôn am wahardd y defnydd o blastig untro.

Bydd beirniaid yn cyfeirio at y ffaith fod yna addewid blaenorol eisoes i wneud hyn erbyn 2020 a heb ei wireddu.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies

Dyma gychwyn ar y chweched cyfnod yn olynol o lywodraeth dan arweiniad Llafur ers dechrau datganoli.

Dechreuodd y ddau flaenorol dan amgylchiadau na fyddai Llywodraeth Cymru wedi'u dewis. Toriadau i wariant oedd y cyd-destun yn 2011. Yn 2016, Brexit oedd yn dominyddu.

Ond mae'r cefndir y tro hwn yn fwy brawychus.

Does gan y llywodraeth ddim yr uchelgais sydd ei angen er mwyn cyrraedd y nod, meddai'r wrthblaid.

Ond, fel yn nhermau blaenorol o rym, mae diffyg mwyafrif Llafur yn y Senedd yn golygu y bydd angen siarad â phleidiau eraill i weithredu.

Beth yw cyflog byw?

Mae yna nifer o alwadau wedi bod am godiad cyflog i weithwyr gofal yn sgil eu gwaith yn ystod y pandemig.

Yn ystod yr ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd fe wnaeth Llafur addo y byddant yn talu "cyflog byw real" i weithwyr gofal.

Mae'r cyflog byw real yn uwch na'r cyflog byw cenedlaethol, ac yn cael ei fesur drwy ddefnyddio lefelau costau byw fel llinyn mesur.

Ar hyn o bryd y raddfa yw £9.50 yr awr.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nad oedd na unrhyw beth uchelgeisiol am y cynlluniau.

"Beth mae Cymru ei angen nawr yw llywodraeth fydd yn taclo diweithdra a rhestrau aros y gwasanaeth iechyd," meddai.

"Llywodraeth fydd yn mynd i'r afael â thlodi plant a'i achosion, a llywodraeth fydd yn datrys yr argyfwng tai gyda'r brys sydd ei angen, a llywodraeth fydd yn sicrhau newid positif a trawsnewidiol i bawb sy'n galw Cymru yn gartref.

"Ond does dim byd trawsnewidiol nac uchelgeisiol am raglen Llafur ar gyfer llywodraethu."

Pynciau Cysylltiedig