'Torcalonnus': Amazon yn dal i wrthod adolygiadau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Hyderus?Ffynhonnell y llun, Ceri Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gêm fwrdd ddwyieithog Hyderus? wedi gwerthu dros 4,000 o gopïau

Mae'n "dorcalonnus" fod cwmni Amazon yn parhau i wrthod adolygiadau Cymraeg, yn ôl perchennog gêm fwrdd boblogaidd.

Dywed Ceri Price fod nifer o gwsmeriaid wedi cwyno wrtho am nad oedd eu hadolygiadau Cymraeg yn cael eu derbyn ar y gêm fwrdd Hyderus?.

Mae'n dweud ei fod yn "siomedig ac yn rhwystredig" gyda'r sefyllfa, ond yn cydnabod fod y wefan yn "hollbwysig" i'w fusnes.

Mae Amazon yn dweud ei bod hi ond yn bosib i gwsmeriaid adael adolygiadau Cymraeg ar lyfrau Cymraeg.

'Rhwystredig'

"Ma' Amazon yn gwmni enfawr ac mae'n galed i gael trwyddo iddyn nhw i fixo rhywbeth fel hyn," meddai Mr Price, cyd-berchennog Confident Games.

"Ma' nhw wedi gadael i ni bostio [yr eitem] yn ddwyieithog, ond 'nath hynny gymryd sbel iddyn nhw.

"Ma' nhw wedi gadael i ni bostio fideo dwyieithog, ond oedden nhw'n dweud wrthon ni am hir bod ni angen subtitles a pethau fel 'ny.

"Ond gyda'r reviews, er mwyn bod ni'n gallu interacto gyda'r cwsmeriaid, ma' angen i reviews fod yn Gymraeg hefyd - mae yn rhwystredig."

Ffynhonnell y llun, amazon.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r adolygiadau dan sylw ar wefan Amazon

Mewn ymateb, dywedodd Amazon eu bod yn derbyn adolygiadau Cymraeg gan gwsmeriaid ar lyfrau Cymraeg, ond nid ar gynnyrch eraill.

Pan ofynnwyd pam oedd hynny, ni chafwyd ymateb gan y cwmni.

Y llynedd, cafodd polisi iaith y cwmni ei feirniadu ar ôl gwrthod cyhoeddi adolygiadau Cymraeg ar eitemau di-Gymraeg.

'Rhywbeth basic'

"Ma' Amazon yn gw'bod am hyn felly mae'n dorcalonnus bod nhw ddim wedi fixo fe yn barod," ychwanegodd Mr Price.

"Ni wedi clywed am bobl sydd wedi bod digon vocal i siarad amdano fe ond falle bod mwy wedi trial ac wedi methu.

"Ni jyst moyn nhw i fixo fe - dyle'r gallu i bostio yn Gymraeg fod yn rhywbeth basic.

"Maen nhw'n rili araf, cymryd wythnosau i gael ymateb. Mae'n broblem fach iawn iddyn nhw ond i ni mae'n bwysig iawn."

Ffynhonnell y llun, Ceri Price
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Price a'i gariad, Natalie, sydd y tu ôl i Confident Games - sydd bellach â fersiynau o'r gêm mewn chwe iaith

Dywed Mr Price fod y fersiwn ddwyieithog o'r gêm fwrdd wedi gwerthu bron i dair gwaith yn fwy na wnaeth y gêm Saesneg wreiddiol, Confident?, yn ystod ei blwyddyn gyntaf o werthiant yn 2018.

"Mae wedi bod yn real llwyddiant," meddai," ac wedi dangos bod galw am bethe' yn y Gymraeg a phethe' am Gymru," meddai Mr Price.

"Ar un adeg roedden ni'n gwerthu mwy yn y Gymraeg na gemau fel Trivial Pursuit a Who Wants to be a Millionaire?. Mae'r ymateb wedi bod yn absolutely brilliant."

Ond mae Mr Price, sy'n 32 oed ac o Lanelli, yn cydnabod fod llwyddiant y gemau bwrdd yn ddibynnol iawn ar y wefan.

"Heb Amazon dwi ddim rili'n meddwl y bydden ni'n bodoli fel brand," meddai.

"Fel arfer dyw siopau ddim mor agored i gemau newydd heb track record, felly mae Amazon yn hollbwysig."

Ffynhonnell y llun, ceri price

Mae'n awgrymu hefyd fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol i rai ieithoedd eraill.

"Ar rai cynhyrchion, mae Amazon yn dangos adolygiadau rhyngwladol mewn ieithoedd gwahanol gyda'r opsiwn i gyfieithu i'r Saesneg," meddai.

"Felly dylse fe ddim bod yn galed i dderbyn adolygiadau yn y Gymraeg am bob cynnyrch.

"Gwnawn ni barhau i geisio efo Amazon, ac os mae'n bwysig i'r cyhoedd, dylse nhw cysylltu efo Amazon hefyd.

"Y mwyaf o bobl sy'n cysylltu, y mwyaf y siawns bydda nhw'n gwneud rhywbeth amdani."

Pynciau Cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol