Trawiad y galon: Menywod â risg uwch o ddiagnosis anghywir

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Trawiad ar y galon: Rhaid i ferched 'wrando ar eu cyrff'

Mae menywod sydd â risg o ddioddef afiechyd y galon yn wynebu anfanteision oherwydd rhagfarn ddiarwybod ac anghydraddoldebau yn y system gofal iechyd, meddai elusen.

Yn ôl British Heart Foundation Cymru, dyw menywod ddim yn cael eu hystyried i fod wrth risg o drawiad ar y galon ac maen nhw'n fwy tebygol o gael diagnosis anghywir.

Dywedodd cardiolegydd, Lena Izzat, bod angen gweithredu er mwyn atal y risg o greu "epidemig afiechyd y galon".

Mae cynllun ar y gweill er mwyn sicrhau cydraddoldeb i fenywod ym mhob agwedd o ofal iechyd, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae 1,700 o fenywod yng Nghymru yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i drawiad ar y galon, ond mae gwaith ymchwil yr elusen yn awgrymu mai nifer fach sy'n hyderus wrth adnabod y symptomau.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun sy'n ymateb i anghydraddoldebau iechyd menywod, fel sydd yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr a'r Alban yn barod.

Dywedodd yr ymgynghorwr cardioleg, Lena Izzat, fod pethau fel diabetes, ysmygu a phwysedd gwaed uchel yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon i fenywod yn fwy na dynion.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Yn ogystal â hynny, mae pethau fel syndrom ofari polisistig, rhoi genedigaeth yn gynnar, pwysedd gwaed uchel a diabetes yn ystod beichiogrwydd a chael y menopôs yn gynnar i gyd yn ffactorau all gynyddu'r risg o ddatblygu problemau gyda'r galon, meddai.

Ond fe ychwanegodd mai anaml y mae'r rhain yn cael eu cysylltu gyda phroblemau gyda'r galon.

"Yn anaml y byddwn yn clywed pobl yn gofyn am y pethau eraill hyn, felly yn syml iawn, trwy wneud y rhain yn gwestiynau arferol i ofyn - naill ai gyda'r meddyg teulu neu tra bod nhw yn yr ysbyty - efallai bydd hyn yn helpu i atgoffa gweithiwr iechyd i daro golwg ar ei phwysedd gwaed a cholesterol."

Ychwanegodd fod angen gwella ymwybyddiaeth ymhlith menywod a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

"Mae menywod yn aml yn aros yn hirach cyn ffonio 999 ar ôl cael trawiad ar y galon ac mae hyn yn gallu lleihau'r siawns o oroesi," meddai.

"Mae menywod hefyd yn llai tebygol o dderbyn diagnosis mewn da bryd, ac ar ôl y trawiad, mae menywod yn llai tebygol o dderbyn cynnig o sesiynau adfer cardiac er mwyn gwella."

Dywedodd rheolwr polisi a materion cyhoeddus BHF Cymru, Gemma Roberts: "Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Ddatganiad Ansawdd Iechyd Menywod sy'n edrych ar fywyd unigolyn yn ei chyfanrwydd yn hytrach na chysylltu iechyd menyw gydag agweddau atgenhedlu yn unig."

'Roeddwn i mor ffit'

Cafodd Vera Price, o Gwm-y-glo ger Llanrug yng Ngwynedd, drawiad ar y galon am y tro cyntaf ym mis Medi 2021. Roedd hi'n cerdded o amgylch Llyn Padarn gyda ffrind ar y pryd.

Sylweddolodd ei ffrind ei bod hi'n ymddangos i fod allan o wynt wrth gerdded, er iddi fod yn fenyw ffit.

Gwrthododd Vera i'w ffrind ffonio ambiwlans a gofynnodd i'w gŵr, Dafydd, ddod i'w chasglu a'i chludo i'r ysbyty.

"Roedd o'n sioc. Fues i 'rioed feddwl bysa hynna'n digwydd i fi. O'n i mor ffit. O'n i'n gwneud bob dim o'n i fod i 'neud," meddai.

"Fe gymerodd hi tipyn bach o amser i fi ddod drosto fo ond dyna fo, dwi yma heddiw ac a lot i ddiolch i bawb a chario 'mlaen rŵan a gobeithio am y gorau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Roeddwn i yn cael rhyw boen bach ar draws fy mrest ond ro'n i'n rhoi o lawr i fwyta rhywbeth ac wedi cael indigestion a dyna oeddwn i'n meddwl trwy'r adeg.

"Yr unig beth fedra'i dd'eud ydy, gwrandewch ar eich corff. Os ydach chi'n cael rhyw boen yn y frest neu'n allan o wynt fel oedd wedi digwydd, cerwch at y meddyg a gwneud rhywbeth amdano fo.

"Ond mae pethau yma'n digwydd yn tydi. Dyna be' ydy bywyd, 'da chi'n meddwl 'dwi'n iawn, 'snam byd arna fi wedyn dyna fo'. Cerwch at eich meddyg os oes rhywbeth yn eich poeni chi."

Mewn datganiad dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cynhyrchu datganiad ansawdd iechyd menywod er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn ystyried anghenion menywod ac i sicrhau mynediad amserol a theg i wasanaethau diagnosis, triniaeth ac adferiad ym mhob agwedd o ofal iechyd yng Nghymru.

"Mae Cymru yn barod a datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau'r galon a bydden ni'n parhau i weithio gydag ein partneriaid a'r byrddau iechyd i wella gofal y bobl sydd â phroblemau gyda'u calonnau."

Pynciau Cysylltiedig