'Camgymeriad' sefydlu Corgi a'r National â chwmni Newsquest

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Huw Marshall mai camgymeriad oedd gweithio gyda chwmni Newsquest

Mae sylfaenydd dau wasanaeth newyddion Cymreig a ddaeth i ben wedi cyfnodau byr wedi dweud mai camgymeriad oedd gweithio gyda chwmni Newsquest.

Mae Huw Marshall yn cydnabod fod "gwersi wedi eu dysgu" wrth iddo sefydlu gwasanaeth newydd.

Y llynedd, daeth The National Wales i ben ar ôl 18 mis o fodolaeth, ac fe gaeodd Corgi Cymru lai na chwe mis ers lansio ar ôl sicrhau grant cyhoeddus.

Cafodd y ddwy fenter eu sefydlu gan Mr Marshall a Newsquest, cwmni sydd â'i bencadlys yn Llundain ac America.

Dywedodd Newsquest nad yw mentrau cyhoeddi bob amser yn llwyddo mewn "hinsawdd economaidd heriol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cau Corgi Cymru wedi bod yn "siomedig" ond eu bod yn "fodlon bod y broses dendro a gynhaliwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn gadarn, yn agored ac yn deg".

Ffynhonnell y llun, Talking Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwefan Talking Wales - menter newydd Huw Marshall - yn gofyn i bobl gyfrannu arian i lansio'r gwasanaeth newyddion

Mae Mr Marshall bellach yn gweithio ar fenter newydd o'r enw Talking Wales - gwasanaeth newyddion a materion cyfoes cyfrwng Saesneg sy'n fudiad cydweithredol "er budd y gymuned" fydd yn cyfuno platfformau radio a digidol.

Bydd yn cynnwys ap a gwasanaeth radio, meddai, fydd yn darlledu'n fyw ar faterion Cymreig am gyfnodau yn ystod y dydd.

Mae'n gofyn i bobl gyfrannu eu harian neu fuddsoddi trwy gyfranddaliadau er mwyn lansio'r gwasanaeth.

'Camgymeriad'

Pan ofynnwyd i Mr Marshall sut y mae modd cyfiawnhau gofyn i bobl am arian o ystyried y cyfnodau byr y bu ei ddau brosiect diwethaf yn rhedeg, dywedodd fod Talking Wales yn "gwbl wahanol".

"'Dan ni'n sôn am greu busnes lle'r bobl sydd yn berchen ar y cwmni," meddai wrth BBC Cymru Fyw. "Bo' ni ddim yn nwylo busnes mawr sydd efo pencadlys yng ngogledd America neu yn Llundain.

"O edrych yn ôl, oedd o yn gamgymeriad cydweithio hefo cwmni lle, yn y pen draw, diwedd y gân yw'r geiniog."

Dywedodd mai "pobl fydd yn berchen ar Talking Wales" ac ni fydd y pwyslais ar "yrru traffig 'nôl i wefannau".

"Trafod straeon o Gymru a straeon rhyngwladol o bersbectif Cymru a chanolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na swmp... llai o straeon ond mynd i mewn i fwy o ddyfnder."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gavin Thompson mai dwy swydd olygyddol gafodd eu colli o ganlyniad i gau Corgi a'r National

Pan gafodd Corgi Cymru ei sefydlu, cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau y byddai Newsquest yn derbyn grant o £100,000 y flwyddyn dros bedair blynedd.

Fe olygodd hynny y byddai gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 yn derbyn hanner eu swm blynyddol arferol.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan rai, gydag un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn poeni na fyddai modd cael gwasanaeth newyddion digidol "cyflawn" yn Gymraeg o rannu'r nawdd.

Ar y pryd, fe ddywedodd Golwg fod hynny wedi golygu "rhai diswyddiadau" o fewn eu gwasanaeth.

Ond mae Golwg360 bellach wedi sicrhau £330,000 o arian ychwanegol gan Gyngor Llyfrau Cymru yn sgil dod â Corgi i ben.

'Cau fi allan o'r sgwrs'

Dywedodd Mr Marshall fod £100,000, yng nghyd-destun sefydlu gwasanaeth newyddion newydd, yn "ddim byd - mae'n cyflogi dau neu dri o bobl".

Pan ofynnwyd iddo sut allai gyfiawnhau dweud hynny, o ystyried fod pobl wedi colli swyddi, dywedodd: "Dwi ddim yma i amddiffyn hynny. Penderfyniad Newsquest oedd hynna. Dim byd i 'neud hefo fi.

"Naethon nhw gau fi allan o'r sgwrs yn llwyr... 'naethon nhw ddod â'u perthynas nhw hefo fi i ben.

"Dyna pam 'dan ni'n trio creu rhywbeth [gyda Talking Wales] lle 'dan ni'n trio creu swyddi."

Ffynhonnell y llun, Corgi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr enw Corgi Cymru ei ddewis am ei fod yn "gi traddodiadol Cymreig... dyw'r corgi ddim yn ofni dim byd"

Mae bwriad gan Mr Marshall i sicrhau tua 13 o swyddi gyda'r fenter newydd a saith o'r rheiny'n swyddi i newyddiadurwyr.

Fe ofynnwyd iddo sut y byddai sicrhau swyddi hirdymor i newyddiadurwyr gyda Talking Wales.

"Dyna pam 'dan ni'n trio creu cynllun busnes a mae'r model busnes yn caniatáu i ni sicrhau fod yr arian yn mynd i fod yno, yn ei le, ar gyfer cyflogi pobl," dywedodd.

"Dyna pam 'dan ni'n gorfod codi'r arian o flaen llaw i sicrhau bod yr arian wrth gefn ar gyfer lansio y fenter."

'Tu ôl pethe' cyn cychwyn'

Dywedodd Mr Marshall fod angen £500,000 i lansio'r gwasanaeth newydd, mae'n gobeithio, ddechrau'r flwyddyn nesaf.

"Wrth edrych yn ôl ar bethe' fel The National a Corgi... faswn i wedi disgwyl i gwmni newyddion sylweddol [Newsquest] i fod wedi medru creu cynlluniau busnes gwell," meddai.

Ond fe gyfaddefodd fod model y gwasanaeth newyddion wedi cyfrannu at pam ddaeth y gwasanaethau i ben.

"Mae'r gynulleidfa wedi symud ymlaen, ac i ryw raddau, oedden ni tu ôl pethe' cyn cychwyn, jyst trwy lansio gwefan efo papur newydd yn achlysurol."

Ffynhonnell y llun, Newsquest
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd The National Wales - gwefan newyddion cyfrwng Saesneg oedd â phapur newydd hefyd - ei lansio yn 2021 cyn dod i ben yn 2022

Dywedodd Golygydd Rhanbarthol Newsquest yng Nghymru, Gavin Thompson, mai nod sefydlu'r ddau wasanaeth oedd "cryfhau tirlun cyfryngau cenedlaethol Cymru... ond weithiau dyw mentrau cyhoeddi newydd ddim yn llwyddo".

Fe ddywedodd bod gwasanaethau ar-lein y BBC yn cael "effaith anghymesur" ar y farchnad fasnachol gan ei gwneud hi'n "anoddach i gyhoeddwr annibynnol adeiladu model tanysgrifio".

Wrth ymateb i'r swyddi gafodd eu colli, dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Yn y diwedd, fe gafodd dwy swydd olygyddol eu colli o ganlyniad i gau [y ddau deitl].

"Roedden ni'n ddiolchgar i'r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth i lansio Corgi Cymru fel gwasanaeth newyddion iaith Gymraeg.

"Fe gafodd yr holl arian ei ddefnyddio ar gyfer darparu'r gwasanaeth yr oedd i fod i'w ddarparu.

"Dwi'n dymuno llwyddiant i Huw gyda'i fenter ddiweddaraf."

'Methu rhagweld y newid mewn amgylchiadau'

Dywedodd y Cyngor Llyfrau fod y penderfyniad i roi arian i Corgi Cymru wedi ei wneud â "didwylledd gan banel annibynnol fel rhan o broses dendro agored, gystadleuol".

"Gwnaed y penderfyniad yn seiliedig ar y ceisiadau a'r wybodaeth a gyflwynwyd ar y pryd ac roedd eu trafodaeth yn drylwyr ac yn seiliedig ar ddiwydrwydd dyladwy," meddai llefarydd.

"Roedd yn ddrwg gennym weld Corgi Cymru yn cau, ac ni allai'r panel fod wedi rhagweld y newid mewn amgylchiadau arweiniodd at y penderfyniad hwn."

Fe wnaethon nhw gadarnhau fod y swm o £70,000 o'r grant gafodd ei ddefnyddio tra'r oedd Corgi yn rhedeg er mwyn "talu am y staff a'r ddarpariaeth gwasanaeth hyd at fis Hydref 2022".

"Cynhaliwyd proses dendro agored dros y gaeaf i ddyfarnu'r £330,000 oedd yn weddill o'r grant, a bu Golwg360 yn llwyddiannus yn eu cais am yr arian ychwanegol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod cau Corgi Cymru wedi bod yn siomedig, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y broses dendro a gynhaliwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn gadarn, yn agored ac yn deg".

Ychwanegon mai'r "rhesymau dros ddod â'r gwasanaeth i ben oedd ffactorau allanol ac amgylchiadau newidiol y tu allan i reolaeth y Cyngor Llyfrau a Newsquest".