'Fe wnaeth yr ysgol roi lan, ond yma maen nhw'n credu'

  • Cyhoeddwyd
Elis Benham
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n teimlo fel pe bai fi'n gallu creu perthynas gyda disgyblion sydd wir angen y gefnogaeth," dywedodd Elis Benham

Cynnig model rôl gadarnhaol i fechgyn sydd heb gael hynny yn eu bywydau pob dydd yw beth mae Elis Benham yn gweld fel un o'i gyfrifoldebau pennaf.

Mae wedi cyrraedd diwedd ei flwyddyn gyntaf fel athro bwyd a maeth yn Uned Bryn y Deryn yng Nghaerdydd.

Dyma unig Uned Cyfeirio Disgyblion y brifddinas, ble mae 90 o bobl ifanc 14 i 16 yn cael eu haddysg ar ôl gorfod gadael ysgolion eraill oherwydd ymddygiad neu heriau emosiynol. 

Yn ôl yr arolygaeth ysgolion Estyn, mae yna gynnydd wedi bod yn y galw am ddarpariaeth addysg tu allan i ysgolion prif ffrwd ers y pandemig.

Cyn dysgu ym Mryn y Deryn roedd Elis wedi cael blas ar gefnogi rhai o'r plant mwyaf heriol mewn ysgol arferol.

"Dwi'n teimlo fel pe bai fi'n gallu creu perthynas gyda disgyblion sydd wir angen y gefnogaeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elis Benham bod yr ysgol yn ceisio dysgu sgiliau bywyd i'w disgyblion

Fajitas cyw iâr sydd ar y fwydlen yn y gegin ble mae tri o fechgyn 14 a 15 oed yn cael gwers.

Mae cael dyn yn eu dysgu yn helpu wrth herio syniadau rhai o'r bechgyn am sut i ymddwyn, meddai Elis.

"Mae llawer ohonyn nhw ddim â'r rhwydwaith cymorth tu fas i'r ysgol," meddai.

"Maen nhw ddim gyda role models falle yn y teulu neu ffrindiau... ac mae 'na lawer o heriau gwahanol. 

"Falle bod nhw tu ôl tipyn bach gyda gwybod sut i gyfathrebu mas tu fas yn y gymuned, felly ni'n trio cynyddu sgiliau nhw... sut i gael sgwrs sydd efallai'n fwy addas - pethau felly."

'Lle diogel i ddysgu'

Mae hanner y dysgwyr ar y safle yn yr uned ymddygiad - plant sydd wedi cael eu gwahardd o'r ysgol neu mewn perygl o orfod gadael.

Yr hanner arall yw uned Carnegie i bobl ifanc sydd wedi ymwrthod rhag mynd i'r ysgol oherwydd gor-bryder a heriau emosiynol ac iechyd meddwl eraill.

Ers tymor yn unig mae Amelia, 15, wedi bod yma ar ôl methu ymdopi yn ei hysgol flaenorol.

Disgrifiad o’r llun,

"Yma rwy'n teimlo bod 'na llawer mwy o le i fod pwy wyt ti eisiau," dywedodd Amelia

"Doedd addysg arferol ddim yn gweithio i fi... roedd e'n ormod i fi," meddai.

"Gormod o oleuadau, gormod o synau, gormod yn digwydd.

"Mae'n teimlo'n fwy tawel yma a'n lle llawer mwy diogel i ddysgu."

Mae hi'n bwriadu gwneud ei TGAU ac wedyn Safon Uwch. Ei diddordebau mawr yw canu ac actio, a'i gobaith yw dilyn gyrfa yn y byd theatr gerdd.

"Mewn ysgol prif ffrwd, rwy'n meddwl eu bod nhw'n hoffi myfyrwyr i fod yn un ffordd, a does 'na ddim lle i fod yn ti dy hun.

"Yma rwy'n teimlo bod 'na llawer mwy o le i fod pwy wyt ti eisiau bod a thyfu i mewn i beth wyt ti eisiau gwneud."

Pwyslais ar les a diogelwch

Ym Mryn y Deryn mae disgyblion yn cael eu dysgu mewn grwpiau llai, ac mae yna fwy o hyblygrwydd i amserlenni. 

Mae staff ar gael i ymateb i anghenion y bobl ifanc sy'n aml yn gymhleth.

Yn ôl y pennaeth, Fiona Simpson, mae gan bobl ragdybiaeth am Unedau Cyfeirio neu PRUs: "Mae pobl yn aml yn meddwl bod PRU yn ysgol i fechgyn drwg."

Dydy Unedau Cyfeirio Disgyblion ddim i fod yn ateb hir dymor i blant, ond gan mai pobl ifanc 14 a hŷn sy'n dod i Fryn y Deryn, prin iawn yw'r rhai sy'n dychwelyd i ysgolion prif ffrwd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fiona Simpson, pennaeth Bryn y Deryn, fod diogelu lles disgyblion yn hollbwysig i'w haddysg

Mae yna gynllun i ehangu'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni er mwyn darparu ar gyfer plant iau hefyd.

"'Dan ni'n cynnig addysg sy'n cynnig nifer o gymwysterau - TGAU, BTEC ac yn y blaen - ac mae hynny'n bwysig fel bod y dysgwyr yn gallu symud ymlaen i'r coleg, y gwaith maen nhw'n gobeithio gwneud yn y dyfodol," meddai Ms Simpson.

"Ond ar ben hynny 'dan ni'n rhoi pwyslais mawr ar les y dysgwyr yma achos os nad y'n nhw'n teimlo'n saff yn yr ysgol, dydyn nhw ddim yn gallu dysgu."

Mae gweithio ym Mryn y Deryn wrth gwrs yn gallu bod yn heriol, meddai. 

"Weithiau… mae'r teuluoedd yn ffeindio hi'n anodd i weithio'n llwyddiannus gyda'r ysgol am nifer o resymau - gan fod nhw wedi cael experience gwael gyda'r ysgol, neu fod gynnon nhw broblemau meddygol neu iechyd meddwl, ond 'dan ni'n gweithio'n galed iawn i sefydlu perthynas llwyddiannus rhwng yr ysgol a'r teulu.

"Er bod, weithiau, gweithio mewn ysgol fath a hyn yn gallu bod yn anodd o ddydd i ddydd, mae'r bobl ifanc sy'n dod yma yn ffantastig."

'Yma maen nhw'n credu ynddoch chi'

Dwy o'r newydd ddyfodiaid yw Amoree ac Aliyah, 15, a ddaeth yma yn sgil eu hymddygiad mewn ysgolion blaenorol.

"Mewn ysgolion prif ffrwd roedden ni'n cael ein gweld fel just yn ddrwg, ond mae 'na fwy iddi na hynny," meddai Amoree.

"Maen nhw'n rhyw fath o roi lan arnoch chi ond yma maen nhw'n credu ynddoch chi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aliyah [chwith]: "Mae ganddyn ni ein problemau, ond fe allwn ni weithio"

Dywedodd Aliyah: "Maen nhw'n cadw gwthio a gwthio ni fan hyn.

"Nawr, dy'n ni ddim yn cael ein gweld fel plant drwg. 

"Mae ganddyn ni ein problemau, ond fe allwn ni weithio."

'Llwyddiant i fi yw gweld cynnydd'

Mae Elis Benham a'i ddysgwyr wedi symud o'r gegin i'r gampfa ble mae'n rhedeg clwb gampfa sydd yn hybu sgiliau bywyd pwysig fel "disgyblaeth, gwthio'u hunain, canolbwyntio".

Fel rhan o'r cyfarwyddiadau i'r bechgyn mae yna ambell "dal ati" - Elis hefyd yw cydlynydd y Gymraeg ym Mryn y Deryn.

Disgrifiad o’r llun,

Elis yw cydlynydd y Gymraeg yr ysgol ac mae'n annog disgyblion i ddefnyddio'r iaith

"Llwyddiant i fi yw gweld cynnydd y disgyblion," meddai.

"Rhywbeth bach fel os maen nhw'n dweud 'diolch' pan maen nhw wedi gorffen gwers bwyd a maeth.

"Unrhyw beth sy'n bositif yn eu bywydau nhw falle dy' nhw ddim gyda yn eu bywydau tu fas yr ysgol - mae hynna'n arbennig." 

Pynciau Cysylltiedig