'Torcalonnus' meddwl am ein teulu sydd heb adael Wcráin

Dros yr wythnos ddiwethaf mae dros filiwn o bobl wedi ffoi o Wcráin - y mwyafrif at deulu a pherthnasau yng Ngwlad Pwyl.

Ond mae rhai cannoedd o Wcrainiaid yn byw yma yng Nghymru ac wedi treulio'r dyddiau diwethaf yn ceisio trefnu bod eu hanwyliaid yn medru teithio yma am loches.

Mae teulu yng Nghaernarfon, sy'n poeni am ddiogelwch eu teulu a'u ffrindiau sydd heb lwyddo i adael Wcráin eto.

Elen Wyn fu'n cyfarfod Nataliia a Dewi Roberts ar ran Newyddion S4C.