Dirwyo perchennog a golygydd papur newydd

  • Cyhoeddwyd
golygydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Thomas Sinclair y bydd yn apelio

Mae golygydd papur newydd y Ceredigion Herald wedi ei ddirwyo am gyhoeddi erthygl oedd yn debygol o ddatgelu enw dioddefwr trosedd rhyw.

Cafodd Thomas Sinclair, 37 oed, orchymyn i dalu dirwy a chostau o £3,650.

Dywedodd Sinclair o Aberdaugleddau, perchennog a golygydd y Ceredigion Herald, y bydd yn apelio.

Dywedodd y barnwr fod gweithred Sinclair wrth gyhoeddi'r erthygl wedi torri'r rheol sy'n sicrhau fod enw dioddefwr trosedd rhyw yn aros yn gyfrinachol am oes.

Ychwanegodd y gallai cyhoeddi gwybodaeth o'r fath olygu na fydd rhai dioddefwyr yn y dyfodol yn fodlon mynd at yr awdurdodau.

'Mater o gonsyrn'

Dywed yr erlyniad fod y papur newydd - drwy gynnwys manylion am y berthynas rhwng y dioddefwr a'r diffynnydd oedd wedi ei gael yn euog o foyeriaeth - wedi ei gwneud yn bosib i alluogi pobl i adnabod pwy oedd y ddynes dan sylw.

Roedd y diffynnydd yn yr achos hwn yn byw mewn pentref bach a byddai pobl eraill wedi gallu ei hadnabod wrth ddarllen yr erthygl.

Dywedodd y barnwr David Parson: "Mae amddiffyn dioddefwyr troseddau rhyw yn fater o gonsyrn mawr. Mae'n rhaid i'r llys fod yn ymwybodol o'r niwed seicolegol sydd wedi ei wneud i'r dioddefwr."

Roedd Sinclair wedi dadlau nad oedd hi'n debygol y byddai'r erthygl wedi arwain at adnabod y ddynes, oherwydd nifer bychan y darllenwyr i'w bapur.

Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd gan y golygydd ddyletswydd benodol i ddarllen pob erthygl yn y papur ac o bosib iddo ond darllen yr erthygl yn fras, os o gwbl, cyn iddi gael ei chyhoeddi.

Ar ôl yr achos dywedodd Sinclair y byddai'n apelio yn erbyn y dyfarniad gan ddweud fod y barnwr wedi dod i gasgliadau ffeithiol nad oedd yn synhwyrol a'i fod wedi gwneud camgymeriadau o ran y gyfraith.