Cyngor Powys yn prynu rhagor o dir ar gyfer claddu

  • Cyhoeddwyd
mynwentFfynhonnell y llun, Powys
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, dim ond digon o le ar gyfer y saith mlynedd nesaf sydd ym mynwent Llanandras

Mae Cyngor Powys wedi prynu rhagor o dir er mwyn diwallu anghenion claddu ar gyfer y 100 mlynedd nesaf.

Mae'r cyngor wedi prynu'r tir ger mynwent Llanandras am £47,000, ac fe fydd cynlluniau yn cael eu paratoi nawr i ddatblygu'r safle.

Ar hyn o bryd, dim ond digon o le ar gyfer y saith mlynedd nesaf sydd yn y fynwent.

Fe fydd y gwaith o ddatblygu'r safle yn costio £120,000, ond fe fydd y datblygiad hefyd yn ysgafnhau'r baich ar fynwentydd eraill yn yr ardal.

Roedd Cyngor Tref Llanandras eisoes wedi cael caniatâd cynllunio i ddatblygu'r safle.

Mae Cyngor Powys hefyd yn ystyried agor mynwent newydd ym Machynlleth ar dir yr ysgol gynradd y dre'.

Mae'r safle, ac un arall o sy'n eiddo i Gyngor Tref Machynlleth yng nghefn y Plas, wedi cael eu clustnodi fel safleoedd posib ar gyfer mynwent newydd.

Dim ond capiasiti ar gyfer dwy flynedd arall sydd gan yr unig fynwent yn dref.