'Angen hepgor asesiad budd-dal anabledd i bobl sâl iawn'

  • Cyhoeddwyd
Susan Hill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Susan Hill yn 63 oed pan fu farw

Mae teulu dynes a fu farw o glefyd Motor Niwron yn dweud na ddylai pobl sy'n dioddef o salwch angheuol fod yn gorfod cael asesiad budd-dal anabledd.

Roedd Susan Hill o Fargoed yn 63 oed pan fu farw - 18 mis wedi iddi gael gwybod ei bod yn dioddef o'r afiechyd.

Roedd hi wedi gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol i dalu am ofalwyr ac wedi gorfod cael "asesiad anodd" yn ôl ei gŵr.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud eu bod yn ystyried sut mae gwella'r broses.

Cyn ei salwch roedd Mrs Hill yn ddeietegydd i'r Gwasanaeth Iechyd ac roedd hi wedi arfer delio â chleifion oedd yn dioddef o glefyd Motor Niwron.

Wedi iddi ddechrau cwympo a phrofi nam ar ei hymennydd roedd hi wedi amau ei bod yn dioddef o'r cyflwr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Hill wedi galw am newid i'r asesiadau

Mae merch Susan Hill, Laura, hefyd wedi gorfod cael asesiad anabledd gan ei bod yn ddall ond dywed bod ei sefyllfa hi yn wahanol i'w mam gan bod ganddi hi amser i aros am yr arian - roedd amser ei mam yn brin.

Yn ystod ei hasesiad dywedodd Mr Hill bod ei wraig wedi gorfod aros ar un goes.

Dywedodd: "Roedd e'n brofiad israddol iawn i Sue."

Mae Laura Hill wedi trefnu deiseb yn galw am ddod ag asesiadau i bobl sy'n ddifrifol wael i ben.

"Be dwi'n gofyn amdano," meddai, "yw dim asesiad i bobl sydd â salwch terfynol - mae asesiad meddygol yn ddigonol"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Susan Hill yn credu ei bod yn dioddef o glefyd Motor Niwron cyn iddi gael gwybod yn swyddogol

Mae Taliad Annibyniaeth Personol yn cael ei roi i dalu am gostau ychwanegol a ddaw yn sgil salwch neu anabledd.

Os yw arbenigwyr yn dweud nad yw'r claf yn debygol o fyw am dros chwe mis mae modd cyflymu'r asesiad a does dim rhaid cael un wyneb yn wyneb ond dywed Mr Hill na chafodd ei wraig y dewis hwnnw.

Dywed Cymdeithas Clefyd Motor Niwron fod angen cyflymu y broses o gael budd-daliadau ar gyfer cleifion sâl iawn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau ei bod yn bosib i gleifion sydd â salwch terfynol gael budd-dal heb asesiad wyneb yn wyneb a bod modd cyflymu eu ceisiadau.

"Ry'n yn edrych," meddid,"ar sut mae gwella prosesau ond yn cyfamser byddwn yn parhau i weithio gydag elusennau megis y Gymdeithas Motor Niwron er mwyn cefnogi pobl ddifrifol wael."