'Torcalonnus' - Victoria yn tynnu allan o gynnal Gemau'r Gymanwlad 2026

Maes Criced MelbourneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i Faes Criced Melbourne gynnal seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na ansicrwydd am Gemau'r Gymanwlad 2026 yn Awstralia wedi i dalaith Victoria dynnu allan o'u cynnal.

Cafodd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (CGF) drafferth dod o hyd i ddinas addas cyn i Victoria wirfoddoli ym mis Ebrill 2022.

Ond ddydd Mawrth dywedodd arweinydd y dalaith fod y gost bellach wedi treblu ac yn “ormod” iddyn nhw ei hysgwyddo.

Yn ôl arweinydd y dalaith, Daniel Andrews, doedd o "ddim yn barod i wario biliynau o ddoleri ar ddigwyddiad chwaraeon deuddeg diwrnod".

Mae'r gemau yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, ond yn wahanol i'r Gemau Olympaidd mae Cymru a chenhedloedd eraill y DU yn cystadlu fel timau unigol yn hytrach nag o dan faner Prydain.

Ond os na chanfyddir dinas arall i'w cynnal, gallai'r gemau orfod cael eu canslo.

Yr unig dro i Gemau'r Gymanwlad gael eu canslo ers iddyn nhw ddechrau yn 1930 oedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn wreiddiol roedd y trefnwyr wedi amcangyfrif y byddai'r digwyddiad ar draws dinasoedd gan gynnwys Geelong, Bendigo a Ballarat yn costio A$2.6 biliwn [£1.4bn], ac roedd llywodraeth y dalaith wedi ei ddisgrifio fel hwb i'r rhanbarth.

Ond bellach roedd disgwyl i’r gystadleuaeth aml-chwaraeon 12 diwrnod gostio mwy na A$6 biliwn, meddai Mr Andrews, gan ychwanegu bod y ffigwr newydd “fwy na dwywaith y budd economaidd amcangyfrifedig” y byddai’n ei ddwyn i Victoria.

"Rwyf wedi gwneud llawer o alwadau anodd, llawer o benderfyniadau anodd iawn yn y swydd hon. Nid yw hwn yn un ohonyn nhw," meddai wrth gynhadledd i'r wasg.

"Mae hyn i gyd yn gost a dim budd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Aled Sion Davies ennill y fedal aur yn y cystadleuaeth taflu pwysau F42-44/61-64 i ddynion yng ngemau Birmingham 2022

Ond mae'r penderfyniad wedi ei ddisgrifio gan un o athletwyr amlycaf Cymru fel un "torcalonnus".

"Mae'n dorcalonnus, yn enwedig fel Athletwr o Gymru," meddai Aled Sion Davies ar raglen Radio Wales Breakfast fore Mawrth.

"Mae cynrychioli Cymru yn agos iawn at ein calonnau ac mae gwybod fod y gemau yn y fantol a phobl yn eu cwestiynu oherwydd y gyllideb... mae'n ddinistriol.

"Mae'r gemau i fod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a gobeithio y gallant eu gweld fel buddsoddiad."

“Wrth i ni fynd yn ôl i amseroedd arferol mae’n gymaint o gyfle i gynnal digwyddiad o safon byd eang ac mae’r buddion yn rhyfeddol.”

Pynciau Cysylltiedig