Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Prifwyl Ceredigion wedi’i gohirio eto, tan 2022.

Cymerwyd y penderfyniad anodd gan y bwrdd rheoli ymysg pryderon y bydd rhaid cwtogi ar y nifer o staff.

Y bwriad yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2022, gan symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2023 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.

Meddai llywydd llys yr Eisteddfod a chadeirydd y bwrdd rheoli, Ashok Ahir: “Yn naturiol, ry’n ni’n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y penderfyniad hwn unwaith eto, ond ry’n ni’n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir a synhwyrol i’r bwrdd rheoli’i gymryd, ac na fydd y cyhoeddiad heddiw’n syndod.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at ddod ynghyd yng Ngheredigion unwaith y bydd y firws wedi cilio, ac yn sicr, bydd Eisteddfod Ceredigion yn ŵyl i’w chofio a’i gwerthfawrogi bryd hynny.

“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a’n cymunedau ar draws y wlad a chadw’n ddiogel.”

Ychwanegodd y prif weithredwr, Betsan Moses: “Fe ddaeth yn gynyddol amlwg yn ein trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y misoedd diwethaf na fyddai modd cynnal Eisteddfod yn Nhregaron yn yr haf.

“Does neb yn fwy siomedig am hyn na ni, ac mae gorfod cyhoeddi hyn am yr eildro yn rhywbeth anodd iawn i orfod ei wneud.

“Fe fyddwn ni’n parhau gydag Eisteddfod AmGen, gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, ac rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n awyddus i sicrhau bod elfen gref o gystadlu’n rhan o’r arlwy eleni.

“Ry’n ni eisoes yn trafod ambell opsiwn cyffrous arall gyda phartneriaid, ac fe fyddwn ni’n sicr o rannu unrhyw gynlluniau unwaith y gallwn.”

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hynod bryderus ac anodd i bawb. Ond ar nodyn positif, mae’r ffordd mae grwpiau, sefydliadau ac unigolion wedi cydweithio er lles y Gymraeg a’n diwylliant wedi bod yn arbennig iawn.

“Ry’n ninnau wedi bod yn falch iawn o gefnogi nifer fawr o berfformwyr ac artistiaid yn ystod y cyfnod anoddaf bosibl drwy brosiect Eisteddfod AmGen.

Ychwanegodd: “Ry’n ni’n wynebu blwyddyn arall hynod o heriol yn ein hanes. Mae colli Eisteddfod arall yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol arnom ni fel sefydliad.

“Ry’n ni wedi gorfod dechrau ar broses ymgynghori gyda staff gan fod rhaid i ni leihau’r tîm i hanner ei faint er mwyn gallu goroesi’r cyfnod nesaf.

“Mae cyhoeddi hyn heddiw yn dorcalonnus i bawb sy’n rhan o’r Eisteddfod.”

Mae manylion ymarferol y penderfyniad wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, eisteddfod.cymru.