You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
www.clonc.co.uk

Rhifyn 290 - 60c

Chwefror 2011

Papur Bro ardal plwyfi: Cellan, Llanbedr Pont Steffan, Llanbedr Wledig, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanllwni, Llanwenog,

Llanwnnen, Llanybydder, Llanycrwys ac Uwch Gaeo a Phencarreg

Cyflwyno

arian ar ôl

Cadwyn

cyfrinachau

yr ifanc

rhedeg Tudalen 10

Tudalen 14

C.Ff.I. Llanwenog ar y brig

Yn y llun o’r chwith i’r dde Cerys Jones, Elfyn Morgans, Rhian Bellamy-

Powell, Pete Ebbsworth a Rhian Jones, swyddogion y Sioe.

Cafodd cinio blynyddol Sioe Gorsgoch a CFFI Llanwenog ei gynnal yng

Nhafarn Cefn Hafod. Siaradwr gwadd y noson oedd Pete Ebbsworth a chafwyd

noson dda yn ei gwmni. Roedd y sioe yn un llwyddiannus y llynedd eto ac o

ganlyniad cyflwynwyd mil o bunnoedd yr un i’r Uned Cemotherapi a’r Uned

Pelydr X a Sganio yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Yn anffodus methodd

cynrychiolydd o’r ysbyty ddod lawr i dderbyn y rhodd. Hoffai’r sioe ddiolch i

bawb am bob cefnogaeth.

Ras y Mast

- Sarn

Helen Tudalen 16

Aelodau Clwb Llanwenog wedi eu llwyddiant yn ennill y marciau uchaf fel clwb ar ddiwedd Cystadleuaeth Siarad

Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I. Ceredigion a gynhaliwyd yn Felinfach yn ddiweddar.

Ar ddiwedd Cwrdd Cwarter a gynhaliwyd yn Soar, Capel yr

Annibynwyr, Llambed cafodd Aneurin Davies, Tynffynnon y

fraint o dorri cacen i nodi diwedd ei gyfnod yn Llywydd Cyfundeb

yr Annibynwyr, Ceredigion. Bu’n gyfle hefyd i ddiolch iddo a

chydnabod ei waith diflino fel ysgrifennydd Capel Soar am gyfnod

o ddeng mlynedd ar hugain. Yn cadw cwmni iddo yn y llun mae’r

Parch Guto Prys ap Gwynfor a’r Parch Carys Ann, Ysgrifennydd y

Cyfundeb ynghyd â Huw Jenkins a Geraint Jones Lewis diaconiaid.
Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ceredigion a Sir Gâr

Gethin Hatcher, Llanwenog yn ennill tlws y

cadeirydd gorau dan 21oed.

Cyflwynwyd Cwpan arian i Ifor Jones,

C.Ff.I Llanllwni, Sir Gâr fel Unigolyn gorau’r

gystadleuaeth Darllen dan 14 oed.

Cyflwynwyd yn Neuadd Gymunedol Cwmann siec am £1,500 sef elw Ffair

Ram 2010 gan y swyddogion Eiddig Jones a Danny Davies, Ysgrifenyddion;

Eirios Jones, Cadeirydd, a Ronnie Roberts, Trysorydd i Sian Roberts Jones

(ail o’r dde) ar ran y Gymdeithas Motor Neurone Disease. Hefyd yn y llun

mae aelodau pwyllgor y sioe.

Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Sioned Davies, Llanwenog yn ennill Cwpan y

cadeirydd gorau dan 16oed.

Meinir Davies, Llanwenog yn ennill Cwpan y

diolchydd gorau dan 16oed.

Cyflwynwyd siec am £750 gan Craig Bibby a Darren Jones, Sainsbury’s i Richard Jones, Rheolwr

Cam-Fan, Llanbed. Dyma’r cyfraniad cyntaf gan Sainsbury’s i Cam-Fan, yr elusen leol sy’n cael ei

chefnogi ganddyn nhw eleni. Gwnaed y cyflwyniad ym mharti Nadolig Cam-Fan a ohiriwyd oherwydd

y tywydd gwael. Yn y llun hefyd gwelir staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae CLONC wastad yn chwilio

am bobl newydd i helpu.

Hoffech chi ysgrifennu erthygl

neu dynnu lluniau?

Hoffech chi weinyddu’r wefan?

Neu beth am waith dylunio?

Rydym yn chwilio am swyddogion

hysbysebu a swyddogion

gwerthiant.

Allech chi sbario awr y mis wrth

ymuno â’r criw ffyddlon sy’n

plygu Clonc?

Cysylltwch ag un o’r Bwrdd

Busnes er mwyn cynnig eich

gwasanaeth os gwelwch yn dda.
Pwy yw pwy? Beth yw beth?

Golygydd:

Chwefror a Mawrth: Elaine Davies, Penynant, Llanwnnen 480526

e-bost: golygydd@clonc.co.uk

Tîm Golygyddol: Elaine Davies, Dylan Lewis, Rhian Lloyd a Marian Morgan

Dylunydd: Nia Davies, Maesglas, Drefach 480015

Swyddog Dosbarthu Eifion Davies, Afallon, Drefach 480590

e-bost: bedwyr@btopenworld.com

Teipyddion Nia Davies, Maesglas, Drefach 480015

Joy Lake, Llambed

Gohebwyr Lleol:

Cellan Meinir Evans, Rhydfechan 421359

Cwmann Gwyneth Morgan, Llety’r Dderwen 422922

Cwmsychbant Mary Davies, Maesglas, Drefach 480015

Llanwenog/Drefach Mary Davies neu Eifion Davies

Ffaldybrenin/Ffarmers Elfyn Davies, Troed y bryn, Ffarmers 01558 650507

Gorsgoch Eiddwen Hatcher, Tafarn Cefnhafod 434238

Llambed Janet Evans, Haulfryn 422856

Llanfair Dan ac Aerwen Griffiths, Pengarn 493407

Llangybi a Betws Mair Spate, Tŷ Capel Maesyffynnon 493325

Llanllwni Dewi Davies, Glanafon 480218

Llanwnnen Meinir Ebbsworth, Brynamlwg 480453

Llanybydder Menna Jones, Ceginau Lifestyle 480257

Pencarreg Lynda Thomas, Dolgwm Uchaf 422270

Siprys

Daeth eto flwyddyn newydd.

Croesawn 2011 gan ddymuno i

holl ddarllenwyr Clonc fendithion

y flwyddyn newydd. Cawsom

Nadolig i’w gofio gyda’r eira wedi

amharu ar lawer o ddigwyddiadau a

drefnwyd. Do, cawsom ddigon i’w

fwyta a chwmni teulu a ffrindiau.

Mwyaf tebyg fod y rhan fwyaf

ohonoch wedi cael eich twrci i ginio

ddydd Nadolig. Clywais am un wlad

Ewropeaidd sydd â thraddodiad o

gael ceiliog i ginio dydd Nadolig a

chig mochyn ar ddiwrnod cynta’r

flwyddyn. Roedd y rheswm am hyn

yn ddiddorol. Pan fydd yr iâr allan

yn bwyta, mae’n crafu am fwyd

ac yn taflu’r pridd tua nôl. I bobl

y wlad honno, mae’r iâr yn cuddio

pechodau’r flwyddyn wrth daflu’r

pridd y tu ôl iddi. Mae’r mochyn ar

y llaw arall yn agor y tir o’i flaen ac

yn gwahodd y flwyddyn newydd a’i

drysorau. Mae’n hyfryd meddwl fod

yna resymau gwahanol dros bopeth.

Difrod Rhew.

Mae ’na reswm arall da y dyddiau

yma dros yrru yn ofalus. Mae tyllau

yn ymddangos yn yr heolydd bron

dros nos ac yn berygl i fodur ond

yn drychinebus i yrwyr ar ddwy

olwyn. Y peth rhyfedd yw fod llawer

o’r tyllau yma yn ymddangos yn yr

un man flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Natur y ddaear o dan yr hewl sy’n

cyfrif. Rwy’n cofio pan yn blentyn

am lori laeth yn mynd i drafferthion

ynghanol yr hewl wedi difrod eira.

Byddwch yn wyliadwrus a rhoi

gwybod i’r Cyngor os oes perygl yn

ymddangos yn agos i’ch cartre chi.

Diwedd blwyddyn.

Fel llawer o Gapeli ac Eglwysi’r

ardal, mae’n adeg dod ag

adroddiadau i sylw yr aelodau. Mae

cwrdd â chostau cadw ein haddoldai

ar agor yn gallu bod yn broblem.

Mae llawer yn disgwyl dros gan punt

yr aelod o leiaf i gadw gweinidog a

thalu am gostau’r adeilad. Mae can

punt yn swnio’n llawer o arian, ond

ydych chi’n sylweddoli faint mae

papur dyddiol yn ei gostio mewn

blwyddyn i chi? Does dim llawer o

newid nôl o £200 mewn blwyddyn.

Operâu Sebon

A ydych chi’n disgwyl gwylio a

mwynhau? Efallai mai portreadu’r

hyn sy’n digwydd yn y byd o’n

hamgylch y maen nhw yn ceisio

ei wneud. Ond i fi, mae pentyrru

problemau’r ‘Cwm’ i gyd i

25 munud yn diflasu dyn. Oes

’na rywrai yn byw yn hapus?

Diawch, oes ’na rywun yn byw

bywyd normal? Mae’n sicr fod

yna deuluoedd sy’n byw bywyd

‘naturiol’ o leiaf am gyfnod. Pa bryd

mae drwgweithredwyr yn cael ei dal

a’u cosbi? Mae ambell i gymeriad

yn cael tragwyddol heol i droseddu.

Dyna fe, ffuglen yw’r cyfan.

Ond, mae hyn yn fy atgoffa am y

plentyn oedd yn holi aelodau’r teulu

o ble’r oedd e wedi dod? Cafodd

atebion di-ri - o dan lwyn gwsberis

meddai un a’r llall yn sôn mai’r

crëyr oedd wedi dod ag e. Y plentyn

yn llanw’i ddyddiadur y noson

honno ac yn dweud nad oedd yr un

plentyn wedi’i eni’n naturiol yn ei

deulu ers canrifoedd! Ar y nodyn

yna, dewch i ni gael bach mwy o

fywyd ‘naturiol’ yn ein hoperâu

sebon, plîs.

Cloncyn

Bwrdd Busnes:

Cadeirydd Dylan Lewis, Tŷ Cerrig, Cwmann 422349

e-bost: cadeirydd@clonc.co.uk

Is-Gadeirydd Marian Morgan, Glasfan, Drefach 480490

Ysgrifenyddes Mary Davies, Maesglas, Drefach 480015

Trysorydd Nia Davies, Maesglas, Drefach 480015

e-bost: ysgrifennydd@clonc.co.uk

Ceidwad y Camera Janet Evans, Haulfryn, Llambed 422856

Ffotograffydd Tim Jones, Llainwen, Llambed 422644

Argraffwyr Gwasg Aeron, Aberaeron 01545 570573

Gwerthfawrogir gwaith pob gwirfoddolwr a sicrhaodd ymddangosiad y rhifyn hwn o Clonc.

Os hoffai eraill ymuno â’r tîm, cysylltwch ag aelod o’r bwrdd busnes. Mae cyfraniad pob un

yn bwysig.

• Dyma gyfeiriad gwefan Clonc: www.clonc.co.uk os am fwy o wybodaeth.

• Beth am ddod yn ffrind i Clonc ar wefan gymdeithasol facebook: www.facebook.com/clonc

• Sicrhewch newyddion eich ardal chi yn Clonc. Peidiwch â meddwl y bydd rhywun arall yn

gwneud. Mae’n rhy hwyr i feio neb os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn CLONC.

• Ewch â’ch newyddion at eich gohebydd lleol, neu ebostio golygydd@clonc.co.uk

• Gellir gadael newyddion tu ôl y cownter yn siop bapurau Caxton Hall, Llambed.

• E-bostiwch eich eitemau ar gyfer y dyddiadur i ysgrifennydd@clonc.co.uk

• Mae croeso i chi ddefnyddio eich camera eich hun. Defnyddiwn luniau o gamera cyffredin

lliw, a du a gwyn. Ni fyddwn yn dychwelyd lluniau os na fyddwch wedi gwneud cais am hyn

ar gefn y llun. Croesawn luniau digidol ar CD, cofbin USB, ac e-bost cadeirydd@clonc.co.uk

• Danfonwch lun o’ch ffôn symudol i 07837 447122 (bydd eich cwmni ffôn yn codi tâl am hyn).

• Gofynnwn am dâl o £5.00 am roi “Diolch” yn y papur.

• Gellir tanysgrifio i Clonc am £15 yn unig y flwyddyn. Cysylltwch â’r ysgrifenyddes.

• Nid yw’r golygydd o reidrwydd yn cytuno ag unrhyw farn yn y papur hwn.

Digwyddiadau

Crysau newydd Tîm Pêl-droed dan 11 oed Llanybydder yn cael eu

cyflwyno gan Huw Davies a Richard Morgan o gwmni ‘Davies & Morgan’.

Rhai o blant a staff Meithrinfa Gwdihws, Llanbed gyda Gareth Loughran,

gweithiwr cefnogi gyda chynllun Design to Smile. Cysylltwyd â Gwdihws

gan Eryl Daniels, cydlynydd Design to Smile a’u gwahodd i gymryd rhan

mewn prosiect peilot. Mae Gwdihws yn un o bedwar lleoliad cyn-ysgol

yng Ngheredigion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen beilot i hyrwyddo brwsio

dannedd. Mae’r plant y staff a’r rhieni wrth eu bodd yn cymryd rhan.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011
Dyddiadur ysgrifennydd@clonc.co.uk Enwau Lleoedd Lleol

CHWEFROR

7 Cynhelir Bingo Cylch Meithrin Llanllwni yn y Belle Llanllwni

am 8.00y.h.

14 Noson yng ngofal Mary Davies, Llywydd Merched y Wawr yn

Festri Shiloh Llanbedr Pont Steffan am 7.30y.h.

15 Clwb Cerddoriaeth Llambed yn cyflwyno Calvert & Turner ar y

Soddgrwth a’r Delyn yn Neuadd y Celfyddydau am 7.30y.h.

19 Disgo Sant Ffolant yn Neuadd yr Eglwys Maesycrugiau – dewch

am bwgi – Tâl mynediad £2. Elw tuag at Cylch Meithrin

Llanllwni.

21 Danfon newyddion CLONC i’r golygydd.

MAWRTH

1 Clwb Cerddoriaeth Llambed yn cyflwyno Rhys Watkins ar y

Ffidil yn Neuadd y Celfyddydau am 7.30y.h.

5 Sioe Ffasiynau gan ‘Duet’ ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant,

Llambed gyda phaned prynhawn. Elw tuag at MS.

14 Cinio Gŵyl Ddewi Merched y Wawr yng Ngholeg y Brifysgol

Llanbedr Pont Steffan.

16 Arwerthiant Blynyddol Capel Aberduar Llanybydder am 7.00y.h.

17 Eisteddfod yr Urdd Cylch Llambed Cynradd yn Neuadd Ysgol

Gyfun Llambed am 1:30y.p.

18 Eisteddfod yr Urdd Cylch Llambed Uwchradd yn Neuadd Ysgol

Gyfun Llambed am 1:30y.p.

26 Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd Cynradd Ceredigion ym Mhafiliwn

Pontrhydfendigaid.

28 Danfon newyddion CLONC i’r golygydd.

30 Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd Dawns ac Aelwydydd Ceredigion

ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

EBRILL

1 Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd Uwchradd Ceredigion ym

Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

2 Sêl Cist Car yn Ysgol Ffynnonbedr . Trefnir gan y Gymdeithas

Rieni ac Athrawon.

11 Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan yn ymweld a Chanolfan

Bwyd Cymru yn Horeb.

25 Danfon newyddion CLONC i’r golygydd.

27 Eisteddfod Capel y Groes i ddechrau am 1:30y.p. Croeso cynnes i

bawb.

MAI

7 Sêl Cist Car yn Ysgol Ffynnonbedr . Trefnir gan y Gymdeithas

Rieni ac Athrawon.

7 Eisteddfod Talgarreg. Am ragor o fanylion ar 01545 590383 neu

01545 590295.

9 Cyfarfod Blynyddol Merched y Wawr yn Festri Shiloh, Llanbedr

Pont Steffan am 7.30y.h.

23 Danfon newyddion CLONC i’r golygydd.

28 Rali C.Ff.I. Ceredigion ar fferm Pantydefaid, Prengwyn.

29 Cymanfa Ganu’r Rali.

MEHEFIN

4 Sêl Cist Car yn Ysgol Ffynnonbedr . Trefnir gan y Gymdeithas

Rieni ac Athrawon.

13 Taith Ddirgel Merched y Wawr yn Festri Shiloh, Llanbedr Pont

Steffan am 7.30y.h.

27 Danfon newyddion CLONC i’r golygydd.

GORFFENNAF

2 Sêl Cist Car yn Ysgol Ffynnonbedr . Trefnir gan y Gymdeithas

Rieni ac Athrawon.

Os ydych yn ymateb i hysbyseb

gan gwmni yn CLONC,

dywedwch wrthynt ymhle y

gwelsoch yr hysbyseb.

Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Hengeraint, Llaethliw a Gwerngabwd

Rhif Ffôn 01570 434 555 / 07973 420 664

CEIR - FANIAU - CERBYDAU 4x4

gan David Thorne

Hengeraint ac Allt Hengeraint yw’r ffurfiau a nodir ar fap yr Arolwg

Ordnans. Hengeraint, yn ogystal, a welais yn ddiweddar ar arwydd

Cyngor Sir Ceredigion yn ein hysbysu am gynllun i wella’r ffordd ger

Llannerchaeron.

Mae’r ffurfiau cynnar ar yr enw Hengeraint yn awgrymu’r ffurf

Hengerrynt sef hen + car + hynt, hynny yw, ‘hen ffordd gert’. Ail ystyr

i ‘cerrynt’, wrth gwrs, yw ‘symudiad dŵr’ neu ‘symudiad awyr’ ac

mae’r ystyr honno wedi datblygu dan ddylanwad y Saesneg ‘current’.

Gerllaw Hengeraint mae Llaethliw ‘o liw llaeth’, enw sy’n

ymdebygu i Llaethnant yn Llanymawddwy, Sir Feirionnydd. Mae’n

bosibl bod Llaethliw yn disgrifio un o ragnentydd Afon Mydr; mae

Mydr yn enw a allai ddisgrifio rhythm gyson llif yr afon. Posibilrwydd

arall yw cysylltu Mydr â ‘mudwr’ sef ‘un sy’n symud neu’n crwydro’.

Gerllaw Llaethliw mae Pont Siolop. Ar fap Arolwg Ordnans 1819

fe’i gelwir yn Pont Lleithliw ond ar fapiau cyfredol yr enw yw Pont

Sholop – enw sy’n codi anawsterau lu na allaf i eu datrys ar hyn o

bryd.

Mae Afon Mydr a Nant Eilin yn cwrdd ym Mydroilyn ac mae

Mydroilyn hefyd yn enw sydd heb ei esbonio’n llwyddiannus. Efallai

bod modd cysylltu’r ‘oilyn’ ym Mydroilyn ac yn Eilin â’r planhigyn

‘eilun (berllys)’ sef hedge parsley; digwydd ‘oilin’ yn amrywiad llafar

ar hwnnw. Ond mae’r cyfan yn ansicr.

Enw arall sy’n creu anhawster i mi yw Gwerngabwd rhwng Tynlofft

a Choedgleision ger Llangybi. Collwyd yr enw Gwerngabwd erbyn

hyn a’i ddisodli gan Pen-parc. Mae’n bosibl y gellid cysylltu’r elfen

‘cabwd’ ag un o amrywiol enwau de-orllewin Cymru ar y planhigyn

gardd cyffredin ‘Hen Wr’ neu Artimisia abrotanum - a rhoi’r enw

gwyddonol arno - sef ‘shiticabwd’ yng Ngheredigion a ‘jilicabwd’ yn

Sir Benfro.

Mae nant Brechan yn ymuno ag afon Dulais ger Melin Llangybi (a

aeth erbyn hyn yn fferm Maesyderi). Mae’n debygol mai amrywiad

ar yr enw personol Brychan yw Brechan – os felly mae’n enghraifft o

enw person wedi’i fabwysiadu’n enw ar afon.

Rydym ar dir sicrach yn achos rhai enwau eraill yn y rhan hon o

Geredigion. Mae Yr Aifft yn cyfeirio’n ffigurol at wlad Pharo a’r

awgrym a wneir yw ei fod mewn man anhygyrch neu bellennig. Yr

hen enw ar Plas-newydd ger Cross Inn (Pennant), yn ogystal, oedd Yr

Aifft.

Mae Ffoscabej ger Henfynyw yn teilyngu dwy frawddeg fer.

Bresych a ddynodir gan yr ail elfen. Yr un elfen a geir yn y Drofa

Gabej, sef enw ar dro ar lwybr troellog afon Camwy ym Mhatagonia.

Ferm yw Caebral rhwng Ffos-y-ffin a Llwyncelyn’ Ystyr ‘bral’ yw

clwt ac fe’i defnyddir yn aml i olygu ‘dernyn, llain o dir’; mae’n

elfen sy’n digwydd yn gyffredin mewn enwau caeau ym mhlwyfi

Llanwenog, Llanwnnen a Llannarth. Yn Llannarth hefyd ceir Parc

Bralog. Lluosog ‘bral’ yw ‘bralau’ a cheir Bralau yn Llangeler a

Chefnbralau yn Llanboidy.

Bydd Esgair-ceir, Penrhiwllan a Phenrhiw-pâl yn cael sylw y tro

nesaf.

Gwasanaethu ac atgyweirio o bob math

a pharatoi eich car ar gyfer MOT

* Teiars o bob math * Olew * Filteri * Batris * Brêcs *

Am bopeth i’ch car, dewch yma aton ni

Tanrhos, Cwrtnewydd, Llanybydder Ceredigion, SA40 9YN
* Meigryn

Colofn y C.Ff.I.

Sir Gâr

Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg 2011

Ddydd Sadwrn 15fed Ionawr cynhaliwyd

Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I Sir Gâr

yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Bu yna gystadlu brwd

trwy gydol y dydd.

Darllen

Daeth Betsan Jones, Betsan Evans ac Ifor Jones, C.Ff.I

Llanllwni yn 2ail. Cyflwynwyd Cwpan arian i Ifor Jones,

C.Ff.I Llanllwni fel Unigolyn gorau’r gystadleuaeth.

Fe fydd Menna Williams, C.Ff.I Llanfynydd, Nia

Eyre, C.Ff.I Llanfynydd, Ifor Jones, C.Ff.I Llanllwni

yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yng

nghystadlaethau Cymru ddiwedd Mis Mawrth.

Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid sef Crissley Jones,

Menna Davies a Helen Phillips am eu gwaith caled

ac i Ysgol Nantgaredig am leoliad mor addas ar gyfer

y gystadleuaeth. Diolch yn ogystal i Bîff Organig

Gwartheg Duon Cymreig - Fferm Tyllwyd am noddi’r

diwrnod.

Ceredigion

Wedi cyfnod tawelach nag arfer i’r clybiau a’r sir

oherwydd y tywydd gaeafol, mae’r bwrlwm wedi

dechrau unwaith eto wrth i ni ddechrau blwyddyn brysur

iawn yn 2011. Dyma’r flwyddyn y bydd mudiad Clybiau

Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn dathlu ei ben -blwydd yn

70 oed a bydd llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn

ystod y flwyddyn a hanner nesaf - gobeithio bod pawb

yn barod am y cyffro!

Cwis y sir

Cynhaliwyd cystadlaethau cwis iau y sir a’r cwis dan

26 cyn y Nadolig. Y cwis iau yng ngofal y Swyddogion

Bro, a chwestiynau’r cwis dan 26 yn cael eu gosod

gan Lywydd y Sir, Mrs Bronwen Morgan. Dyma’r

canlyniadau:

Cwis Iau: 1af Llangeitho, 2il Bryngwyn, 3ydd

Llangwyryfon. Cwis amaethyddol: 1af Llanwenog,

2il Llangeitho, 3ydd Troedyraur. Cwis Cyffredinol:

1af Talybont, 2il Mydroilyn, 3ydd Llangeitho. Cwis

Diogelwch ar y ffyrdd (a nodwyd â gwobr ariannol

gan y Cyngor Sir - diolch iddyn nhw): Cydradd 1af

Caerwedros a Llanddeiniol, Cydradd 3ydd Mydroilyn a

Llanddewi Brefi. Cwis dan 26 ar ddiwedd y dydd: 1af

Llangeitho, 2il Talybont, 3ydd Llanwenog

‘Just a minute’

Cynhaliwyd cystadleuaeth newydd i ni fel sir ganol

Ionawr yn ystod un o’r nosweithiau Tafarn y Mis rydym

yn eu trefnu - sef cyfle i aelodau dros 18 oed o bob cwr

o’r sir ddod i gymdeithasu mewn tafarn ar nos Wener.

Y gystadleuaeth anffurfiol honno oedd ‘Just a Minute’ -

cystadleuaeth Saesneg lle’r oedd gofyn i bawb fod mewn

timoedd o 3 a siarad am funud ar bwnc, heb wybod beth

oedd y pwnc hwnnw ymlaen llaw. Cafwyd llawer iawn

o hwyl yng ngofal yr aelodau hŷn (a rhai dros oedran

aelodaeth!), a phob hwyl i Enfys Hatcher o Lanwenog,

Harri Davies o Fydroilyn a Caryl Haf o Landdewi Brefi

a gafodd eu dewis yn fuddugwyr a

nhw fydd yn ein cynrychioli ar lefel NFYFC.

Siarad Cyhoeddus Cymraeg

Cafwyd diwrnod prysur iawn ddydd Sul 23 Ionawr

2011 pan aeth siaradwyr cyhoeddus o glybiau ar draws

y sir i Felinfach i gystadlu. Clwb Llanwenog ddaeth i’r

brig eleni gyda 76 o bwyntiau, gyda Phontsian yn agos

ar eu hol yn ail, a Llangeitho’n cipio’r trydydd safle.

Cafwyd niferoedd rhyfeddol o gystadleuwyr eleni - gyda

15 tîm yn cystadlu yn y seiat holi dan 26 oed, ac 20 tîm

yn yr adran ddarllen dan 14 oed. Anhygoel! Dyma’r

canlyniadau a’r aelodau fydd yn cynrychioli’r sir ar lefel

Cymru ddiwedd mis Mawrth:

Dan 26 - Tîm: 1af Troedyraur, 2il Llanwenog, 3ydd

Caerwedros. Cadeirydd: 1af Lowri Evans, Troedyraur.

Siaradwr: 1af Catrin Haf Jones, Mydroilyn, 2il Cerys

Jones Llanwenog, 3ydd Trystan Jones, Caerwedros.

Dan 21 - Tîm: 1af Lanwenog, 2il Llangeitho, 3ydd

Pontsian. Cadeirydd: 1af Gethin Hatcher Llanwenog,

Siaradwr: 1af Enfys Hatcher Llanwenog, 2il Elin Jones

Llanwenog, Cydradd 3ydd Dafydd Morgan Pontsian a

Carwyn Davies Llangeitho

Dan 16 - Tîm: 1af Llanwenog, 2il Pontsian, 3ydd

Llanwenog a Llangeitho. Cadeirydd: 1af Sioned Davies

Llanwenog, Siaradwr: 1af Meleri Morgan Llangeitho,

Diolchydd: Meinir Davies Llanwenog.

Dan 14 - Tîm: 1af Pontsian, 2il Lledrod, 3ydd

Dihewyd. Cadeirydd: 1af Elen Davies Pontsian,

Darllenydd: 1af Nest Jenkins Lledrod, 2il Catrin Davies

Pontsian.

Clwb 200 Rhagfyr

1af - C.Ff.I. Llanddewi Brefi. 2il - Helen Hopkins,

C.Ff.I. Blaenpennal. 3ydd - C.Ff.I. Llanddeiniol

Clwb 200 Ionawr

1af - Dafydd a Delyth, Ystrad Dewi, Llanddewi Brefi.

2il - Eilir ac Enid Jenkins, Haulfryn, Mydroilyn. 3ydd

- C.Ff.I. Llangwyryfon

Hanner awr adloniant

Dyma’r drefn y bydd y clybiau yn ymddangos ynddo

yn ystod hanner tymor mis Chwefror – pob lwc i bawb!

Mae tocynnau ar werth o’r swyddfa yn Aberaeron o 7.30

ddydd Mercher 9 Chwefror.

Nos Lun: Felinfach, Llanddeiniol, Mydroilyn

Nos Fawrth: Troedyraur, Penparc, Llanwenog

Nos Fercher: Talybont, Caerwedros, Tregaron

Nos Iau: Llanddewi Brefi, Pontsian, Llangeitho

Nos Wener: Bro’r Dderi, Trisant.

Dyddiadau i’ch dyddiaduron

21-25 Chwefror – Cystadleuaeth Hanner Awr

Adloniant y Sir, Theatr Felinfach

4 Mawrth – Dawns Dewis Swyddogion y Sir –

Tyglyn Aeron

12+13 Mawrth - Gwledd o adloniant C.Ff.I. Cymru,

Theatr y Grand, Abertawe

18 Mawrth – Chwaraeon Dan Do y Sir,

Llanddewi Brefi *dyddiad wedi’i aildrefnu*

21 Ebrill - Cinio’r Cadeirydd

CEGIN GWENOG

Abernant, Llanwenog

Gwasanaeth arlwyo cyflawn ar

gyfer pob achlysur

Bwyd Priodas

Bwffe

Te Angladd

Digwyddiadau Maes

Bwydlenni unigol i ateb eich gofynion

chi - boed yn fawr neu’n fach

Mair Hatcher

01570 481230 / 07967 559683

www.clonc.co.uk Chwefror 2011
Eglwys Santes Gwenog

Oherwydd y tywydd gaeafol

– ac fel y mwyafrif o’n capeli

ac eglwysi – bu’n rhaid gohirio

gweithgareddau tymor y Nadolig.

Braf oedd cynnal y Plygain ar y 7fed

o Ionawr, gyda’r Parch Suzy Bale

yn cymryd y rhannau arweiniol.

Dyma’r Plygain olaf i’r Parchedig

Ganon Aled Williams ei threfnu

wedi ei ymddeoliad yn Deon Bro.

Talwyd teyrnged iddo am ei waith

brwdfrydig a chydwybodol dros

lawer o flynyddoedd gan y Deon

Bro newydd sef y Parch Phillip Wyn

Davies, ficer Tregaron. Canwyd

carolau yn null traddodiadol y

Plygain gan bartïon o chwech o

Eglwysi’r Ddeoniaeth. Braf oedd

cael Eglwys orlawn a phawb wedi

mwynhau y gwasanaeth a’r lluniaeth

fu’n dilyn yr Oedfa. Diolchwyd i

wragedd yr eglwys am baratoi’r

bwyd, ac i Mrs Pauline Roberts-

Jones am ei gwasanaeth wrth yr

organ.

Bu aelodau ‘Clwb Cerdded

Llambed’ dan arweiniad Kay Davies

yn ymweld â’r Eglwys wrth iddynt

gerdded un o lwybrau cyhoeddus

y Plwyf. Braf oedd eu croesawu a

chafwyd orig hapus yn eu cwmni.

Ar y 12fed o Ionawr bu

Cymdeithas Hŷn Llanwenog yn

cynnal eu cyfarfod misol yn yr

eglwys. Braf oedd cael eu croesawu

hwythau hefyd. Cydymdeimlwn yn

fawr â Chadeirydd y Gymdeithas,

Mrs Dilwen George yn ei

phrofedigaeth o golli ŵyr annwyl yn

ddiweddar.

Cyn diwedd y flwyddyn daeth

cyfres o ddarlithoedd ar ‘osod

blodau’ i ben. Diolchwyd yn fawr

i Nicola, Siop Flodau Cascade

Llambed am ei pharodrwydd i’n

hyfforddi.

Llongyfarchiadau i Sioned Davies,

y Cartws, Prengwyn am basio

arholiad Piano Gradd 5, dan nawdd

Coleg Brenhinol Llundain.

Ar y 24ain o Chwefror, cynhelir

Noson Cwis gyda chaws a gwin i

ddilyn yn yr Eglwys Fach. Mynediad

yn £5.00; croeso cynnes i bawb.

Byddwn yn trosglwyddo £300 i

Ambiwlans Awyr Cymru ym mis

Ebrill, arian a godwyd mewn raffl yn

y Te Fictoraidd ym Mis Tachwedd.

Braf yw gweld Mrs Viria Jones,

Gellideg yn parhau i wella wedi

ei llawdriniaeth, a hefyd Mrs Mali

Evans, Rylwyn a fu’n derbyn

triniaeth dros gyfnod hir.

Ein cydymdeimlad dwysaf

â phawb sydd wedi dioddef

profedigaeth yn ddiweddar.

Clwb 100 Tachwedd

£15.Mrs Margaret Thomas,

Llechwedd

£10.Mrs Megan Jones, Rhandir

£5. Ken Davies, Rhydyfodrwydd

Clwb 100 Rhagfyr

£15. Alan Mellor, Rhiwson Isaf

6 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Drefach a Llanwenog

£10. James Fillery

£5. Parch Suzy Bale,Y Ficerdy

Bonws Nadolig o £5 yr un i –

Lilian Davies; Amila Evans;

Iwan Brain ac Emilia Murphy.

Ysgol Llanwenog

Hoffai pawb yn Ysgol Gynradd

Wirfoddol Gymorthedig Llanwenog

ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i

holl ddarllenwyr Clonc!

Bu diwedd y flwyddyn 2010 yn

gyfnod cyffrous iawn yn yr ysgol.

Daeth Siôn Corn i ymweld â ni yn

ein Groto arbennig. Diolch yn fawr

i’n staff cynorthwyol, sef Ms Enfys

Morgan, Mrs Nia Evans a Mrs

Angharad Hull am addurno’r ystafell

mor hardd. Braf iawn oedd cael

croesawu rhai o blant Ysgol Feithrin

Drefach i’n plith hefyd i fwynhau’r

hwyl a’r dathlu. Cawsom Ginio

Nadolig blasus tu hwnt a baratowyd

gan ein cogyddes weithgar, Eleri

Davies.

Braf iawn yw cael croesawu

tri disgybl newydd sef Hannah

Ayonoadu, Tyler Walker a Luke

White i ddosbarth y Babanod. Rwy’n

siŵr y byddant yn hapus iawn yn ein

plith. Croesawn hefyd Miss Ruth

Davies yn ôl yn Athrawes Fro.

Yn ystod mis Rhagfyr y llynedd

cynhaliwyd Cystadleuaeth Cogurdd

yn yr ysgol. Cawsom brynhawn

hyfryd o goginio a blasu a bu Mrs

Mair Hatcher yma yn beirniadu’r

gystadleuaeth. Canmolwyd safon

y coginio yn uchel ganddi. I’r brig

daeth Katie Brown, yn ail Ffion

Evans ac yn drydydd Osian Davies.

Hoffai’r ysgol ddymuno gwellhad

buan i Mr Leighton Williams a fu

yn yr ysbyty yn ddiweddar. Bu Mr

Williams yn dysgu Celf i’r Adran Iau

yn ystod tymor yr hydref.

Cynhaliwyd gweithdy radio yn

Ysgol Llanwenog yn ystod y mis

pan ddaeth disgyblion blynyddoedd

5 a 6 Ysgol Llanwenog a Llanwnnen

ynghyd i greu rhaglen radio a oedd

yn cynnwys elfennau o sgriptio,

recordio a pherfformio. Mae’r

rhaglen yn werth ei chlywed. Diolch

yn fawr iawn i Mr Marc Griffiths am

gynnal y diwrnod hwylus yma gyda

ni a dymunwn yn dda iddo gyda’r

fenter.

Trist yw nodi bob Mrs Liz Mills

yn ymddeol o’i swydd fel athrawes

yn yr ysgol hon. Trefnir tysteb

iddi yn werthfawrogiad am dros

ugain mlynedd o wasanaeth i Ysgol

Gynradd Llanwenog. Os dymunwch

gyfrannu, cysylltwch â ni yn yr ysgol

ar 01570 480382. Byddwn yn parhau

i dderbyn cyfraniadau tan ddechrau

mis Mawrth.

Cylch Meithrin Gwenog

Bu’r plantos bach ar drip cyn y

Nadolig i weld sioe o’r enw ‘Hosan

a Stori’ gan Gwmni Drama Arad

Goch yn eu canolfan newydd yn

Aberystwyth. Cawsom groeso

Dyma rai o’r disgyblion yn paratoi rhaglen radio gyda Mr Marc Griffiths

yn y gweithdy a gynhaliwyd yn Ysgol Llanwenog yn ddiweddar.

cynnes iawn yno gan bawb. Diolch

hefyd i Ysgol Llanwenog am ein

gwahodd i ymuno â nhw. Diolch

yn fawr iawn hefyd i’r sawl a fu’n

helpu wrth i ni baratoi ar gyfer ein

harolwg gan yr asiantaeth CSSIW.

Roedd yr arolygwr yn hapus iawn

â’r cyfleusterau a’r holl brofiadau

amrywiol ac heriol rydym yn

eu darparu ar gyfer y plant ac

felly edrychwn ymlaen yn awr at

groesawu arolygwyr ESTYN atom

eleni.

C.Ff.I Llanwenog

Aeth nifer o aelodau’r clwb i

wylio Pantomeim Felinfach. Roedd

yn braf gweld Gwawr Hatcher, aelod

gweithgar o’r clwb yn cymryd rhan

yn y panto. Cafodd pawb noson o

chwerthin iach.

Roedd ein llywyddion Elfyn a

Sharon Morgans, Glwydwern wedi

trefnu noson o gwis a gêmau yn

Ysgol Llanwenog, roedd pawb wedi

joio yn eu cwmni.

Cynhaliwyd ein Dartiau Twrci

blynyddol yng Nhafarn Cefnhafod,

Gorsgoch. Gan fod yr eira yn

disgyn yn drwm, daeth tua deugain

o gystadleuwyr. Ar ôl noson frwd

o gystadlu Gethin Hatcher a Llyr

Davies gipiodd gwobr yr aelod

gorau a Lee oedd yn fuddugol yn y

categori agored. Llongyfarchiadau i

chi gyd!

Rhaid oedd gohirio dyddiad

cyntaf y Canu Carolau oherwydd

yr eira trwm ond serch hynny

penderfynwyd ein bod am fynd

i ganu Noswyl y Nadolig. Aeth

pedwar grŵp ohonom o amgylch y

plwyf a diolch i bawb am y croeso

cynnes a gawson. Casglwyd swm

arbennig iawn o £920. Bydd £150

yr un yn cael ei drosglwyddo i

Ganolfan y Bont ac Uned Sensori

Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan.

Croesawyd pawb yn ôl i’r clwb

ddechrau’r mis drwy gael Noson

o Grefftau yng nghwmni Eluned

Davies, Bryniau, Dihewyd. Rwy’n

siŵr fod pawb wedi dysgu rhywbeth

newydd.

Daeth diwrnod cystadleuaeth

gyntaf y Sir am 2011, sef y Siarad

Cyhoeddus Cymraeg. Diwrnod

llawn o gystadlu brwd oedd yn cael

ei gynnal yng Nghampws Theatr

Felinfach. Fe wnaeth y clwb yn

arbennig o dda. Dyma’r canlyniadau

Adran Darllen 14 oed neu

iau - Cadeirydd - Iwan Evans

3ydd. Adran Iau 16 oed neu iau

- Cadeirydd - Sioned Davies 1af;

Siaradwr - Gwawr Hatcher 2il,

Carwyn Davies a Sioned Hatcher

cydradd 3ydd. Diolchydd :- Meinir

Davies 1af. Cipiodd Llanwenog A,

sef Meinir Davies, Sioned Davies a

Sioned Hatcher wobr y tîm gorau a

daeth Llanwenog C yn drydydd gyda

Emma Newton-Jones, Sioned Fflur

Evans a Gwawr Hatcher.

Adran Ganol 21 oed neu iau

- Cadeirydd :- Gethin Hatcher.

Siaradwr :- Enfys Hatcher 1af, Elin

Jones 2il. Cipiodd Llanwenog wobr

y tîm gorau yn yr adran yma hefyd

gyda Gethin Hatcher, Elin Jones ac

Enfys Hatcher.

Adran Hyn 26 oed neu iau

Cadeirydd :- Enfys Hatcher cydradd

2il. Siaradwr :- Cerys Jones 2il

Daeth llwyddiant i’r tîm yma

hefyd wrth gipio’r ail wobr;

aelodau’r tîm oedd Enfys Hatcher,

Cerys Jones, Helen Howells ac

Arwel Jenkins.

Ar ôl yr holl ganlyniadau daeth

Clwb Llanwenog i’r brig ac ennill

Tarian Brynhogfaen am y Clwb

Buddugol. Llongyfarchiadau mawr

i bawb! Hoffai’r holl aelodau

ddiolch yn fawr iawn i bawb am

eu cefnogaeth a’u help. Pob lwc i’r

holl aelodau a fydd yn cynrychioli

Ceredigion yn Llanfair ym Muallt

ddechrau mis Mawrth.

Noson ‘Siôn a Siân’ a gafodd ei

chynnal yng Nghefn Hafod y nos

Lun ddilynol. Cafwyd nifer o barau

yn ateb cwestiynau am ei gilydd.

Diolch i Geraint Hatcher am fod yn

gwis feistr. Carwyn a Sioned Fflur

oedd y cwpwl perffaith!
Drefach a Llanwenog Cwrtnewydd

Cydymdeimlo

Cydymdeimlir yn ddwys â

Mary, Gareth, Nia, Dylan ac Elen,

Maesglas ar golli mam, mam yng

nghyfraith a mam-gu annwyl sef Mrs

Margaret Rowlands, Felinfach a fu

farw rhai dyddiau cyn y Nadolig yng

Nghartref Maes-y-felin, Drefach.

Adref

Braf yw gweld Gareth Davies,

Maesglas adref ac o gwmpas y lle

unwaith yn rhagor ar ôl iddo dreulio

rhai diwrnodau yn Ysbyty Tywysog

Phillip, Llanelli yn derbyn triniaeth.

Diolch

Dymuna Mary, Gareth, Nia, Dylan

ac Elen, Maesglas ddiolch am bob

arwydd o gydymdeimlad, boed yn

gerdyn, blodau, llythyron, galwadau

ffôn yn dilyn eu profedigaeth lem yn

ddiweddar.

Hefyd, hoffai Gareth ddiolch am y

consyrn a ddangoswyd tuag ato pan

fu yn yr ysbyty ddechrau 2011.

Swydd Newydd

Dechreuodd Nia Davies, Maesglas

swydd newydd ym mis Ionawr fel

Cynorthwy-ydd y Cyfnod Sylfaen

yn Ysgol Gynradd Felinfach.

Dymuniadau gorau i ti a gobeithio

y byddi di’n hapus yn dy swydd

newydd.

Y Gymdeithas Hŷn

Eglwys Llanwenog oedd man

cyfarfod y Gymdeithas ar y 12fed o

Ionawr, a chroesawyd pawb yno gan

Irene Jones, yr Is-gadeirydd.

Cydymdeimlwyd â Dilwen George

yn ei phrofedigaeth lem o golli

ŵyr ym mis Tachwedd, ac â Eifion

Davies, wedi iddo yntau golli ei

frawd dros gyfnod y Nadolig.

Dymunwyd wellhad i Sally Jones,

Brynhyfryd wedi ei salwch, ac i

Olive Davies a Ray Thomas yn dilyn

eu damweiniau.

Siaradwraig wadd y diwrnod

oedd Anthea Jones, Stryd y Coleg,

Llambed, sy’n Weithiwr Cymorth

gyda “Gofal a Thrwsio Ceredigion”.

Asiantaeth yw hon sy’n hyrwyddo

annibyniaeth i bobol dros eu 60

er mwyn eu galluogi i aros yn eu

cartrefi yn hytrach na gorfod mynd i

ysbyty neu gartref henoed. Ariannir

yr Asiantaeth yma gan y Cynulliad,

Cyngor Sir Ceredigion a Cantref.

Wedi derbyn cais, bydd gweithiwr

yn dod i’r tŷ i asesu’r cymorth sydd

ei angen ac yn cynnig cyngor am

ffynonellau posib i ariannu’r gwaith,

gan roi help gyda’r dasg enbyd o

lanw ffurflenni cais.

Diolchwyd yn gynnes i Anthea gan

Yvonne Davies; mae’n dda gwybod

fod yna rywrai lleol i droi atynt pan

fo angen cyngor, a chafwyd llawer

iawn o wybodaeth ddefnyddiol.

Mwynhawyd paned a phice bach

wedi eu paratoi gan wragedd yr

Eglwys, a diolchwyd yn gynnes

iddynt gan Mair Williams.

Bydd y cyfarfod nesaf ar Chwefror

y 9fed yn Festri Capel y Groes,

pan fydd y Parch. Dyfrig Lloyd,

Llanddewi Brefi yn dod i’n diddanu.

Diolch

Dymuna Eifion a’r teulu, Afallon

Drefach, ddiolch am bob arwydd o

gydymdeimlad a dderbyniwyd wedi

marwolaeth ei frawd, Evan Tom.

Bu’r teulu yn byw am gyfnod yn

Llety’r Wennol, Cwrtnewydd.

Cylch Meithrin, Drefach.

Cynhaliwyd stondin gacennau yn

y mart yn Llanybydder ddechrau mis

Rhagfyr. Er gwaetha’r tywydd oer,

cafwyd bore llwyddiannus dros ben.

Cafwyd parti Nadolig yn y cylch,

a chyn diwedd y bore daeth Santa ag

anrheg i bob un o’r plant.

Daeth gwahoddiad o Ysgol

Llanwenog i’r plant ymweld â groto

Santa. Cawsom groeso cynnes iawn

gyda diod a mins peis blasus.

Pob hwyl i Elan Jenkins a Ryan

Parsons yn eu hysgolion newydd.

Croeso cynnes i’r cylch i Luke

Rees a Roland Weedon, ac hefyd

i Miss Llinos Beynon sydd wedi

ymuno â ni yn y cylch. Gobeithio y

byddi di’n hapus yn ein plith.

Mark Williams AS; Yr Arglwydd Elystan Morgan, a oedd yn cadeirio’r

lansiad; Lisa Francis, Cadeirydd Ie dros Gymru – Ceredigion; Richard

Meirion Griffiths, Gwesty’r Richmond) ac Elin Jones AC

Ysgol Cwrtnewydd

Blwyddyn Newydd dda a braf yw

cael croesawu pawb yn ôl i’r ysgol

ar ôl gwyliau’r Nadolig! Mae pawb

wedi cael saib hyfryd, ac erbyn hyn

yn barod am dymor prysur iawn.

Croeso cynnes i Elan Jenkins i’r

dosbarth babanod ac i Morgan James

i’r dosbarth Iau.

Ar ôl noson lwyddiannus yn ein

cyngerdd Nadolig trosglwyddodd

yr ysgol £382.00 i Ward Steffan yn

Ysbyty Glangwili.

Braf oedd croesawu cyn ddisgybl,

Marc Griffiths, yn ôl i’r ysgol.

Bu Marc yn brysur gyda phlant

blwyddyn 3, 4, 5 a 6 yn cynllunio a

creu rhaglen radio. Cafodd y plant

ddiwrnod llawn cyffro a diolchwn i

Marc am roi cyfle gwych fel hyn i’r

plant. Cewch wrando ar y rhaglen

drwy gyfrwng gwefan yr ysgol.

Cynhaliwyd clwb cyntaf yr Urdd

yn 2011 lle bu’r plant yn gwneud

gweithgareddau amrywiol o’u dewis.

Cofiwch os ydych am ddefnyddio

cyfleusterau yr ysgol, rhowch alwad

ar 01570 434273.

Beca a Hanna fu’n mynychu

gweithdy Celf a Chrefft gyda’r Urdd

yn ddiweddar.

Clwb 100 Rhagfyr 2010

1af – Briallt Williams, Hafod y

gors, Gorsgoch. 2ail – Nanna Jones,

Garth, Cwrtnewydd. 3ydd – Gareth

Richards, Llain, Rhydlewis. 4ydd

– Arthur Roberts, 12 Glyn Bedw,

Rhoslefain. 5ed – Cerys Pollock,

Brynmeddyg, Cwmsychbant

Ionawr 2011

1af – Olwen Roberts, 12 Glyn

Bedw, Rhoslefain. 2ail – Rosie

Davies, Croesmaen, Llanfihangel ar

Arth. 3ydd – Delyth Richards, Llain,

Rhydlewis. 4ydd – John a Mary

Jones, Penrheol, Cwmsychbant.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Ifor ac Eluned

Jones, 5 Cae Sarn, ar enedigaeth eu

merch fach, Esyllt Megan.

Pen-blwydd Arbennig

Dathlodd Rob Long, Llysalaw ei

ben-blwydd yn 40 oed yn ystod mis

Ionawr. Gobeithio eich bod wedi

mwynhau eich diwrnod!

Diolch

Dymuna teulu’r diweddar Getta

Evans, Melrose ddiolch yn gynnes

am bob arwydd o gydymdeimlad

a ddangoswyd iddynt yn eu

profedigaeth. Diolch am y llu

cardiau, rhoddion a’r cyfraniadau

a dderbyniwyd tuag at Meddygfa

Ceris Morgan

yn trin gwallt yn eich cartref

Torri a sychu, steilo a lliwio,

cwrlo a gosod gwallt ar gyfer

achlysuron arbennig.

Prisau rhesymol.

Ffoniwch: 07738 492613

Cwmann

ond yn barod i deithio’r ardal.

WD Lewis A5 ad 11/11/10 23:38 Page 1

Melin Mark Lane Mill

Llanbedr Pont Steffan/Lampeter

Ceredigion SA48 7AG

Tel: 01570 422540

Fax: 01570 423644

www.wdlewis.co.uk

Hefyd yn/Also at:

Broneb Stores

Pumsaint, Llanwrda

Tel: 01558 650215

Teifi, Llandysul. Diolch i feddygon

Meddygfa Teifi a diolch yn arbennig

i Staff Cartref Maes-y-felin am

eu gofal. Diolch hefyd i’r trefnwr

angladdau, Cenfil Reeves, Talgarreg

am ei drefniadau graenus a gofalus

ac i Jill Tomos am ei gwasanaeth

hithau.

Cydymdeimlad

Ddiwedd 2010 daeth y newyddion

trist am farwolaeth Vernon Griffiths,

Fferm y Cwrt yn dilyn salwch blin.

Cydymdeimlir yn ddwys iawn gyda’i

briod Gill a’r teulu oll yn eu galar. Fe

fu’r angladd yng Nghapel y Bryn ac

yno hefyd y daearwyd ei weddillion.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011
Arholiadau Telyn

Llongyfarchiadau i Mari Elen

Lewis, Ty Cerrig ar lwyddo gydag

anrhydedd yn ei harholiad Telyn,

Gradd 1. Llongyfarchiadau hefyd

i Lowri Elen, Glennydd, Llambed

ar basio’i harholiad Gradd 5 gydag

anrhydedd. Mae Mari a Lowri

yn cael eu dysgu gan Georgina

Cornock-Evans.

Sefydliad y Merched Coedmor

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y

flwyddyn o Sefydliad y Merched

Coedmor ar Ionawr 3ydd yng

Nghanolfan Cwmann. Croesawodd

y Llywydd Mrs Noeleen Davies yr

aelodau gan ddymuno Blwyddyn

Newydd Dda i bawb.

Cyflwynodd ein gwestai am

y noson sef Guto Gwilym, un

o ieuenctid gweithgar yr ardal.

Bu Guto allan ym Mhatagonia

ym mis Hydref am bythefnos

gyda chriw o 27 o aelodau Urdd

Gobaith Cymru. Ar ddiwedd

ymweliad yr Urdd arhosodd Guto

am gyfnod pellach tan ddechrau

mis Rhagfyr a threulio’r amser yn

Nhalaith Chubut yn gwneud gwaith

gwirfoddol. Treuliodd ran fwyaf ei

amser yn Nhrevelin yn yr Andes.

Bu’n cynorthwyo yn yr Ysgol

Gymraeg, yn helpu mewn nifer o

ddosbarthiadau Cymraeg, o oed

meithrin hyd at oedolion. Treuliodd

peth o’i amser yn cerdded ar hyd

Cwm Hyfryd yng nghwmni Merched

y Wawr Trevelin.

Cafwyd hanes diddorol a

brwdfrydig o’r amser a gafodd yn

y Gaiman a Threlew yn y Dyffryn,

a Threvelin ac Esquel yn yr Andes.

Roedd hanes ei ymweliad a’r

mwynhad amlwg a gafodd ym

Mhatagonia yn ddigon i annog y

gwrandawyr i gyd feddwl am wneud

taith i’r Ariannin!

Diolchwyd iddo yn gynnes iawn

gan Ann Lewis. Enillwyd y raffl fisol

gan Dilys Godfrey. Helena Gregson

ac Ann Lewis oedd yn gyfrifol am

wneud y te

Bydd y cyfarfod nesa ar Chwefror

7fed pan fydd Elaine Davies, Nanna

Ryder a Menna Jones yn aelodau

o banel fydd yn trafod pynciau

amrywiol a diddorol. Croeso cynnes

i bawb.

Ysbyty

Gwellhad buan i Mrs. Davies,

19 Heol Hathren, sydd yn Ysbyty

Glangwili ac i bob un arall sydd

wedi bod yn anhwylus dros y

misoedd oer diwethaf.

Cydymdeimlo

Estynnwn gydymdeimlad ag

Erina Jones a’r teulu, Cae Coedmor

ar farwolaeth ei mam Mrs. Dilys

Jones, Cae dash (gynt) a chwaer

yng nghyfraith i Mrs. Phyllis Jones,

Cilgell.

Cwmann

Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Clwb 125 Mis Rhagfyr

1. Mr D. Herberts, Dolfor,

Cwmann, 84, 2. Mr S. Mason, 21

Treherbert, Cwmann, 3. Mrs E.

Warmington, Falkland, Bryn Rd,

Lampeter, 85, 4. Mrs Y. Jones,

Tanybryn, Cwmann, 87, 5. Mrs M.

Thomas, Brondeify, Cwmann, 66,

6. Mrs B. Luker, 17 Treherbert,

Cwmann, 2, 7. Mrs E. Brown,

Cae Ram, Cwmann, 37, 8. Mrs

E. G. Lloyd, 14 Heol Hathren,

Cwmann, 43, 9. Mr Gwynfor Lewis,

Bronwydd, Bridge St, Llanbed, 105,

10. Mrs Rosa Lloyd, 8 Heol Hathren,

Cwmann, 92.

Clwb 250 Mis Rhagfyr

1. 15, Canon a Mair Richards,

Maesteify, Cwmann, 2. 20, Delyth

a Emyr Jacob, Frondeg, Pencarreg,

3. 210, Mrs M. Jones, Glanhelen,

North Rd, Llanbed, 4. 37, Mrs Joyce

Evans, Rhos Inn, Parcyrhos, 5. 6,

Ann Douch, Maestroyddin Fawr,

Harford, 6. 190, Mr a Mrs. Kidby,

Erwaun, Parcyrhos, 7. 104, Seren

Ling, 35 Heol Hathren, Cwmann,

8. 49, Maureen Evans, Brynmaen,

Cwmann, 9. 7, Terence Watkins, 4

Heol Hathren, Cwmann, 10. 29, Julie

Davies, 3 Nantyglyn, Cwmann.

Clwb 125 Mis Ionawr

1. Gwen Jones, Derymore,

Cellan, 13, 2. Lena Williams, 39

Heol Hathren, 98, 3. D. Gilbey, 48

Hel Hathren, Cwmann, 4. Meinir

Harries, Bryn-yr-Efar, Pennant, 5.

Les a Marjorie, Golwg-y-Dyffryn,

Cwmann, 67, 6. Glesni Thomas, 1

Heol Hathren, Cwmann, 57, 7. Chris

Lloyd, 7 Heol Hathren, Cwmann,

147, 8. Ann Davies, Brynteify,

Cwmann, 56, 9. Ceinwen Evans,

Felinfach, Cwmann, 28, 10. Jean

Thomas, 4 Cwrt Deri, Cwmann.

Clwb 250 Mis Ionawr

1. 28, Gwyn Williams, Wyngarth,

2. 113, Mrs. Davies, 37 Heol

Hathren, 3. 64, David Davies,

Glenview, Pencarreg, 4. 225, W.

Randell, Blaencwm, Cwmann,

5. 131, Mrs. D. Harries, 21 Heol

Hathren, 6. 92, Adrian Davies,

Hafod, Lôn Ram, 7. 190, Mr a Mrs.

Kidby, Erwain, 8. 109, Emyr Jones,

Araul, Cwmann, 9. 116, Mair James

(c/o Phylis Smith), 10. 199, L. King,

Tafarn Jem.

Rhifyn mis Mawrth

Yn y Siopau

Mawrth 3ydd

Erthyglau i law erbyn

Chwefror 17eg

Newyddion i law erbyn

Chwefror 21ain

Y Ganolfan Cynllunio Iaith

Uned 2-4, Parc Busnes Aberarad,

Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr,

SA38 9DB

Annwyl ddarllenwyr,

A oes gan eich darllenwyr brofiad

o’r gwasanaeth iechyd neu’r

gwasanaeth gofal cymdeithasol y

bydden nhw’n barod i’w rannu? A

oedd hi’n hawdd derbyn gwasanaeth

yn Gymraeg neu a oedd rhwystrau?

Pa effaith gafodd hynny arnyn

nhw? A oedden nhw’n hapus â’r

gwasanaeth, neu a oes ganddyn

nhw negeseuon am y ffordd

y gellid gwella’r ddarpariaeth

Gymraeg? Dyma’r cwestiynau y

mae Llywodraeth y Cynulliad a

Chyngor Gofal Cymru yn awyddus

i gael atebion iddyn nhw ac

maen nhw wedi comisiynu tîm o

ymchwilwyr o’r Ganolfan Cynllunio

Iaith i wneud y gwaith. Yma yn

y Ganolfan rydyn ni’n awyddus i

Capel Aberduar Llanybydder

Oherwydd y tywydd garw gorfu

i Gapel Aberduar, fel llawer capel

arall, ohirio’r oedfa Nadolig.

Penderfynwyd ei chynnal ar yr

unfed ar bymtheg o Ionawr a daeth

cynulleidfa luosog ynghyd i ddathlu

geni’r Iesu yng nghwmni ieuenctid

y capel. Cerys Jones fu yn arwain

ac yn ddolen gyswllt yn ystod y

gwasanaeth. Cyflwynwyd yr emynau

gan Elin Evans, Dewi Davies, Rhian

Jones, Ann Milcoy, Rhodri Evans a

Christopher Jacob gyda Rhiannon

Lewis wrth yr organ. Cafwyd

darlleniadau gan Llyr Davies, Elin

Evans ac Arwel Jenkins. Offrymwyd

gweddïau gan Rhian Milcoy a Lowri

Wilson. Cafwyd neges bwrpasol

iawn gan ein gweinidog, y Parch

Jill Tomos, a bu hefyd yn gweini

wrth fwrdd y cymun. Diolchodd yn

gynnes iawn i bawb a fu yn cymryd

rhan yn yr oedfa. Ar ôl yr oedfa fe

wnaeth pawb droi am y festri am

baned a sgwrs wedi ei baratoi gan y

chwiorydd. Diolch iddynt hwythau

hefyd. Hyfryd oedd cael clywed yr

hen, hen hanes unwaith eto a dathlu

gyda’n gilydd er bod yr ŵyl wedi bod.

Diolch

Llongyfarchiadau i Donald a

Julia Jenkins, Bedlwyn, Felinfach

ar ddathlu eu priodas aur yn

ddiweddar. Eu dymuniad oedd rhoi

unrhyw arian a dderbynient ar yr

achlysur at elusen. Yn ganlyniad i

hynny, cyflwynwyd £500 at gangen

Llambed a Llanybydder o Ymchwil

y Cancr. Diolch yn fawr iddynt a

phob dymuniad da i’r dyfodol.

Dymuna teulu y diweddar Mrs

Eirwen Jenkins, Glaneinon ddiolch i

bawb am bob arwydd o gydymdeimlad

a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn

eu profedigaeth gan golli mam, mamgu

a hen fam-gu annwyl.

Gwerthfawrogir yn fawr yr

Gohebiaeth

siarad â defnyddwyr gwasanaeth neu

ofalwyr a all ddweud wrthon ni sut

brofiad gawson nhw, boed hynny’n

ganmoliaeth neu’n gŵyn. Rydym

yn awyddus iawn i glywed am

brofiadau sy’n ymwneud â phlant,

pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd

meddwl (yn cynnwys dementia), ac

â phobl ag anableddau dysgu.

I wybod mwy am yr ymchwil a

sut i gymryd rhan, mae croeso mawr

i ddarllenwyr gysylltu ag Elaine

Davies yn y Ganolfan Cynllunio

Iaith ar 01239 711668 neu elaine.

davies@iaith.eu. Caiff pob cyswllt

a chyfraniad eu trin yn hollol

gyfrinachol. Edrychaf ymlaen yn

fawr at glywed gan unrhyw un sydd

â diddordeb i gymryd rhan cyn dydd

Gwener, Chwefror 11.

Yn gywir

Elaine Davies ar ran y tîm

ymchwil

Llanybydder

ymweliadau, galwadau ffôn,

rhoddion, blodau a chardiau a

dderbyniwyd. Diolch yn arbennig

am y cyfraniadau tuag at Nyrsys y

Gymuned. Diolch yn ogystal i Mr

Robert Davies am darparu lluniaeth

ar ddiwrnod yr angladd ac i Mr

Gwilym Price, ei Fab a’i Ferched am

drefnu’r cyfan gydag urddas.

Dymuna Lena Williams, Hafan

y Waun, Aberystwyth ddiolch

i’w theulu a’i ffrindiau sydd wedi

ymweld â hi yn gyson yn ystod y

flwyddyn diwethaf ac hefyd am yr

anrhegion dros y Nadolig. Rwyf yn

gwerthfawrogi hyn yn fawr.

Arholiadau Cerdd

Llongyfarchiadau i’r canlynol

ar basio eu harholiadau cerdd dan

nawdd y Coleg Cerdd Brenhinol:

Piano Gradd 1 – Elin Davies,

Tyngrug-Isaf [anrhydedd]

Ysgrifenedig Gradd 2 – Rhys

Davies, Tyngrug-Isaf [anrhydedd],

Gradd 3 – Sioned Fflur Evans,

Glantrenfach; [teilyngdod]; Gradd 5

– Sioned Davies, Y Cartws.

Sacsaffôn Gradd 7 – Gareth

Davies, Llys Enwyn [anrhydedd].

Cydymdeimlo

Cydymdeimlir yn ddwys a theulu’r

diweddar Haydn Evans, Delhi, a fu

farw yn sydyn yn ystod mis Ionawr.

Rhodd

Bu Myra Morris, Awelon,

Rhydybont yn dathlu pen-blwydd

arbennig yn yr Hydref. I ddathlu,

penderfynodd drefnu noson ynghyd

â Dorian Davies, Drefach yn y Clwb

Rygbi yn Llanybydder i godi arian

at gangen Llanybydder o Diabetes

UK Cymru. Bu nifer o fechgyn yn

siafio’u gwallt ac yn rhoi wacs ar

eu coesau a chael eu noddi i wneud

hynny. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd

siec am £2,600 i’r elusen. Diolch yn

fawr i bawb a fu ynghlwm â’r noson.
Gweithdy Llechi Cymreig, Enwau Tai, Dillad,

Llyfrau, Cds, Dvds, Anrhegion ac Oriel

Sianti

Uned 2 Monumental Works,

Stryd y Fro, Aberaeron

gyferbyn a Banc y Natwest

0 1 5 4 5 5 7 1 5 1 0

w w w . s i a n t i . o r g

Mae Toriad Taclus

Wedi newid siop

Mae ar Heol Caerfyrddin

Ger y Sgwâr Top

Ruth Thomas

a’i Chwmni

Cyfreithwyr

19 Stryd y Coleg, Llambed

Ffon: 423300 Ffacs: 423223

mail@ruththomassolicitors.co.uk

yn cynnig pob

gwasanaeth cyfreithiol

Apwyntiadau hwyr neu

yn eich cartref

Bwyd cartref ardderchog nos Iau, Gwener a Sadwrn.

Cwrw traddodiadol. Croeso i awyrgylch Gymreig

gan Berian a Beverley Wilkins a’u merched.

Llangybi a Betws

Ysgol Y Dderi

Croeso cynnes iawn i’r plant newydd a ymunodd â ni ddechrau’r tymor sef,

Kimberly, Dion, Sara, Beau, Shay, Poppy a Conner.

Cafwyd cwmni Sara Jones, myfyrwraig o Goleg Y Drindod am dridiau

ddechrau’r tymor. Bu Sara yn arsylwi yng nghyfnod allweddol 2.

Mae gwersi Ffrangeg wedi ailddechrau ar nos Iau. Diolch i Bernadette am

eu dysgu.

Bu Liam Newitt ac Elinor Griffiths yn cynrychioli’r ysgol ym mhwyllgor

Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn Neuadd Goffa Aberaeron ar y 19eg o Ionawr.

Bu disgyblion blwyddyn 4 ar ymweliad â ffatri ddŵr potel Tŷ Nant yn rhan

o thema’r tymor sef ‘Bwyd a Ffermio’.

Cafwyd diwrnod bendigedig ar Fferm Bwlchwernen gan blant y Cyfnod

Sylfaen. Dysgwyd llawer am ffermio organig a sut i wneud caws a chafwyd

cyfle i flasu caws arbennig Yr Hafod. Diolch o galon i Becky Holden am y

croeso twymgalon ac i Sam Holden ac Iona Davies am ei chynorthwyo.

Croesawyd Cwmni Theatr Bypedau Cymru atom fore Gwener 21ain o

Ionawr. Roedd plant y Cyfnod Sylfaen wedi mwynhau perfformiad ‘Cwilt

Siôn’ yn fawr gan ddysgu am hanes y tŷ unnos.

Dathlwyd Diwrnod Santes Dwynwen wrth gynnal disgo ar y cyd â’n clwb

ôl ysgol ‘Clwb Mes Bach’. Diolch i’r swyddogion ac i staff yr ysgol am eu

cymorth.

Mae plant y Dderi bellach yn arbenigwyr wrth adnabod adar eu cynefin

wedi iddynt dreulio amser yn gwylio adar yn rhan o brosiect Little Schools

Big Bird Watch. Diolch i Mr Roger ac i Mr Ian Morris am eu cymorth.

Dymunwn ddiolch i Mrs Nerys Southgate sydd wedi bod yn rhan o’n tîm

dysgu ers mis Medi ac estynnwn groeso cynnes yn ôl i Mrs Hayley a fydd

yn ailgydio yn ei dyletswyddau’r mis yma.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Dorian a Louise Hicks ar enedigaeth eu plentyn cyntaf

anedig ddydd Nadolig, sef Owen Lewis - ŵyr i Geoffrey a Denise Hicks,

Pwllglas - cefnder i Ceris, Bronwen a Lily.

Merched y Wawr y Dderi

Dymunodd y Llywydd flwyddyn newydd dda i bawb a chroesawyd y

gwesteion yn gynnes iawn i gyfarfod cyntaf 2011. Cawsom noson ragorol

iawn yng nghwmni Eifion ac Yvonne Davies. Hanes Llambed oedd y testun

a diddorol iawn oedd gweld a chlywed am y newidiadau oedd wedi digwydd

yn y Stryd Fawr, llawer ohonom yn cofio fel yr oedd y stryd yn edrych dros

hanner can mlynedd yn ôl. Rhoddwyd pleidlais wresog o diolch am noson o

hanes diddorol gan Jen Mathias.

Cydymdeimlwyd ag Iris Quan yn ei phrofedigaeth ar golli chwaer

yng nghyfraith. Rhoddwyd y raffl gan Gwyneth a Deborah Jones ac fe’i

henillwyd gan Irene Lewis a Mair Spate. I ddiweddu y cyfarfod cawsom

baned o de a bisgedi wedi eu rhoi gan Gwyneth Evans ac Irene Lewis.

Bydd y cyfarfod nesaf ar Chwefror 16eg gyda darlith ar y diweddar Islwyn

Ffowc Ellis gan y Bon. Rheinallt Llwyd. Croeso i aelodau newydd ymuno.

Hamdden

Ddydd Gwener cyntaf y flwyddyn fe aeth yr aelodau am ginio Calan

i’r Castle Green ac yno y cawsom wledd fendigedig yn ein disgwyl a

chwmni diddan. I ddiweddu y cyfarfod canwyd rhai carolau adnabyddus â

Rowena Williams yn cyfeilio. Rhoddwyd pleidlais o ddiolch am y croeso, y

gwasanaeth a’r bwyd blasus gan Maisie Morgans ac hefyd i’r cyfeilydd. Fe

fydd y cyfarfod nesaf yn Ysgol y Dderi ar Chwefror 4ydd am 2 o’r gloch pan

fydd Mrs Judith Jenkins yn arddangos cardiau cyfarch a gemwaith. Croeso i

aelodau newydd ymuno.

Cydymdeimlo

Estynnir cydymdeimlad dwys â Mrs

Mary Jones, Hafan wedi colli ei gŵr,

Myrddin. Hefyd i Dafydd a theulu

Ffosyffin wedi iddo golli ei fam cyn y

flwyddyn newydd.

Gwellhad Buan

Gwellhad buan iawn i Mr Lyn Jones

wedi iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty

yn ddiweddar.

Priodas Dda

Llongyfarchiadau i Wayne a Hannah

Jarman wedi eu priodas yn ddiweddar.

Penblwyddi Arbennig

Cellan

Cyfarchion pen blwydd hwyr hefyd

i Ann a Bleddyn, Cnwcyfallen wedi

iddynt ddathlu eu pen blwyddi yn 60

dros y misoedd diwethaf - ‘bys pas’

amdani nawr!

Ac hefyd i Andrew Morgan, Yr Hen

Reithordy ar gyrraedd ei ben blwydd

yn hanner cant.

Neuadd y Mileniwm

Cofiwch am y noson ffilmiau

reolaidd yn Neuadd y Mileniwm dros

yr wythnosau nesaf. Gallwch fynd ar

y wefan am fwy o wybodaeth: www.

cellanmillenniumhall.co.uk

Llanfair

Gwellhad Buan

Braf yw clywed fod Eleri Quan,

Sŵn yr Afon, adref ac yn gwella ar ôl

ei llawdriniaeth yn ysbyty Bronglais

yn ddiweddar. Mae yn lwcus dros

ben fod ganddi ddwy nyrs fach dda

i edrych ar ei hol mor ofalus heb

anghofio, wrth gwrs, y gwas mawr

a’r gwas bach.

Canu Carolau

Gan fod yr eira mor ddwfn ar

hewlydd y mynydd nid oedd yn

bosib mynd allan i ganu ar y nos

Lun, er mawr siom i’r grŵp a ddaeth

ynghyd. Mentrwyd allan o amgylch

y pentre a lawr Heol Llanfair ar y

nos Iau, gan gloi’r noswaith nol yn

y neuadd gyda chawl i’n cynhesu a

phawb wedi mwynhau. Rhoddwyd

yr arian a gasglwyd i gyd i elusen Tŷ

Hafan.

Diolch yn arbennig i Gwyneth,

Noyadd, am y cawl blasus dros ben

ac i bawb a ddaeth â mins peis.

Parti Nos Galan

Cafwyd noson arbennig o ddathlu

a chymdeithasu gyda llawer iawn

wedi dod ynghyd ar noson neilltuol o

oer, gyda’r rhan fwyaf wedi cerdded

i’r neuadd.

Roedd y bwyd yn fendigedig fel

arfer gyda phawb wedi cyfrannu a’r

gerddoriaeth addas, diolch i Lesley,

yn tynnu pawb i ddawnsio hyd

oriau mân y bore. Diolch i bawb a

gyfrannodd i wneud y noswaith yn

un mor llwyddiannus.

Gwasanaeth Carolau

Roedd yn siom fawr i lawer

o bobol y pentre pan gafodd y

gwasanaeth carolau ei ganslo

oherwydd y tywydd. Diolch i’r rhai

a oedd wedi trefnu’r gwasanaeth ac

i’r rhai a oedd wedi cytuno cymryd

rhan.

Ffair Nadolig

Er gwaethaf y tywydd oer a’r eira

cynhaliwyd ein ffair Nadolig gyda

thua saith o fyrddau yn gwerthu

cymysgedd o nwyddau Nadoligaidd.

Fel menter newydd roedd yn braf

cael Seb, Tynant, yno yn gwerthu

tryffls siocled wedi eu cynllunio a’u

gwneud ganddo. Antur newydd a

phawb wedi dwlu arnynt.

Bowlio

Cynhaliwyd noson agoriadol y

bowlio yn y neuadd ar nos Sadwrn,

Ionawr 15fed, gyda dros ddeg

ar hugain wedi dod i chwarae.

Trefnwyd y chwaraewyr mewn timau

a’r holl beth wedi ei drefnu gan Al

Heron, Siop Llanfair. Pan nad oedd

y timau’n bowlio, trefnwyd gêmau

eraill iddynt fel dominos, cardiau ac

yn y blaen. Bydd noson debyg y cael

ei chynnal bob yn ail nos Sadwrn

hyd at ddiwedd mis Mawrth. Croeso

cynnes i bawb

www.clonc.co.uk Chwefror 2011
Ras Hanner Marathon Caerdydd

Cyflwynwyd siec o £3,000 i Uned Anghenion Arbennig ac Awtistig Y

Myrddin gan deulu a ffrindiau un o’r disgyblion, Glyn Jones. Gweler yn

y llun Gwyneth Richards yn cyflwyno siec i’r Prifathro, Mr Julian Parker.

Rhedodd Gwyneth yn ras hanner marathon Caerdydd yn ddiweddar.

Casglwyd noddwyr gan deulu a ffrindiau, yn cynnwys rhieni disgyblion yr

Uned a chynhaliwyd stondin gacennau. Derbyniwyd dros £2,200 yn ogystal

â £750 oddi wrth Marian Jones a Banc Barclays drwy’r cynllun punt am

bunt. Diolch yn fawr iawn iddynt ac i bawb am eu cyfraniad.

Yn y llun - Plant - Glyn & Luned Jones. Chwith i’r dde:- Julian Parker,

Ann Jones, Jean Evans, Gwyneth Richards, Marian Jones, Eirlys Jones &

Justin Jones

Dyweddïo

Estynnwn ein cyfarchion i Gareth

Thomas, Bryndolau a Kelly Davies o

Dregaron ar eu dyweddïad ddiwedd

y flwyddyn, a dymunwn iddynt bob

hapusrwydd yn y dyfodol.

Anrhydedd

Mae un o drigolion y pentref

newydd cael ei enwi yn un o’r

rheolwyr safle gorau yn y Deyrnas

Gyfunol. Cyfeiriwn at Barrie Jones,

Sŵn y Nant sydd yn gweithio

i gwmni adeiladu Redrow, ac

sydd wedi cael ei anrhydeddu

â sêl rhagoriaeth gan y Cyngor

Cenedlaethol Adeiladu Tai, gan ei

roi ymysg y rheolwyr safle gorau ym

Mhrydain. Mae Barrie yn gweithio

i Gwmni Redrow ers 10 mlynedd,

ac nid dyma’r tro cyntaf iddo

dderbyn canmoliaeth am ei waith.

Mae eisoes wedi derbyn pedair

dyfarniad am ansawdd, ac yn awr,

dwy Sêl Rhagoriaeth am ei waith.

Llongyfarchiadau, a phob dymuniad

da am y dyfodol.

Neuadd Bro Fana

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol

y Neuadd ym mis Tachwedd, ac

etholwyd y swyddogion canlynol

am 2010 – 2011: Llywydd – Ethel

Davies, Llys Helen; Cadeirydd

– Judy Jenkins, Llys Awel; Isgadeirydd

– Irfon Davies, Ailfana;

Trysorydd – Liz Thomas, Penywaun;

Ysgrifennydd – Elfyn Davies,

Troed y bryn. Swyddogion y

Clwb Cefnogwyr yw Iris Evans,

Maesuchaf ac Eirwen Thomas,

Ty’nrheol.

Daeth aelodau Cyngor y Neuadd

a’u partneriaid ynghyd ar nos Wener,

yr 17eg o Ragfyr yn Y Drovers’

Arms ar gyfer cinio blynyddol y

Cyngor, a hynny er gwaethaf y rhew

10 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Ffarmers Clwb Clonc

a’r eira. Cafwyd noson hwylus dros

ben, gyda thipyn o sbri yn y cwis

blynyddol a drefnwyd gan Ethel a

Judy. Diolch iddynt hwy, ac i Ben

a’i staff am noson hyfryd.

Yn anffodus, bu’n rhaid canslo y

Cyngerdd a’r Noson Garolau a oedd

i’w cynnal y nos Sul cyn y Nadolig

oherwydd y tywydd eithafol. Yn

wir, gwnaeth y tywydd effeithio

ar nifer o weithgareddau yn ystod

mis Rhagfyr a dechrau Ionawr.

Bellach, mae trefniadau ar y gweill

ar gyfer nifer o ddigwyddiadau

dros y misoedd nesaf. Cynhelir

Rasys Parlwr yn Y Drovers ar nos

Sadwrn, y 26ain o Chwefror a Bwffe

a Chyngerdd i ddathlu Gŵyl Ddewi

ar nos Wener, y 4ydd o Fawrth yn

y Neuadd. Bydd Cwmni Drama’r

Cudyll Coch yn ymweld â ni yn y

gwanwyn, ar nos Sadwrn yr 16eg

o Ebrill (nodir fod y digwyddiad

yma wedi newid o’r 22ain o Ebrill).

Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur!

Da dweud fod y gwaith o ailleoli

y Parc Chwarae wedi dechrau,

gyda’r offer i gyd bellach yn ei le. Y

cam nesaf yw codi’r ffens a gosod yr

arwyneb diogelwch. Rhaid diolch i’r

criw o wirfoddolwyr parod a fu wrthi

yn paratoi y safle a gosod yr offer;

i’r merched a ddarparodd fwyd ar eu

cyfer, ac i drigolion yr ardal am eu

cefnogaeth barod.

Fe sylwch wrth yrru heibio’r

Neuadd fod paneli solar PV wedi

eu gosod ar y to. Pwrpas y paneli

yma yw cynhyrchu trydan ar gyfer

defnydd y Neuadd, gydag unrhyw

drydan ychwanegol yn cael ei fwydo

i mewn i’r grid cenedlaethol. Roedd

y Neuadd yn un o rhyw ddeuddeg

o adeiladau cyhoeddus yn Sir

Gaerfyrddin i dderbyn cyllid i osod

y paneli dan gynllun ‘Cymunedau

Di-Garbon’ Ynni Sir Gâr. Cafodd

y gwaith ei wneud gan Gwmni

Thermal Earth o Gapel Hendre.

Diolchwn i bawb sydd wedi bod

ynghlwm wrth ddatblygu y prosiect

yma.

Ffair Grefftau Pumsaint

Er gwaetha’r tywydd, cynhaliwyd

y Ffair ar y 26ain a’r 27ain o

Dachwedd ond yn anffodus dim

ond ychydig iawn o bobl a fedrodd

ddod i fwynhau’r croeso gwresog,

cwpaned, mins peien a thipyn o sbri.

Roedd y crefftau ar werth o’r safon

uchel arferol. Llifodd y cyfraniadau

ariannol a’r gwobrau raffl i mewn.

Diolch i bawb am eu haelioni, a

thrwy hynny, bydd Ymgyrch Canser

y Fron Cymru ar ei hennill o £750.

Os gwelwch yn dda, cofnodwch yn

eich dyddiadur newydd ddyddiadau’r

Ffair nesaf – 25ain a 26ain o

Dachwedd 2011.

Pencarreg

Chwefror 2011

£25 rhif 179 :

Mrs Hannah Evenden,

10 Heol y Waun, Capel Dewi.

£20 rhif 212 :

Llion Herbert,

4 Cysgod y Coed, Cwmann.

£15 rhif 199 :

Mrs Doreen Harries,

21 Heol Hathren, Cwmann.

£10 rhif 54 :

Osian Davies,

Fronheulog, Llanwenog.

£10 rhif 401:

Jac Rees,

Maesllwyd, Cwmsychpant.

£10 rhif 321 :

Mrs Mair Jones,

Brynsiriol, Llanllwni.

Taith Gerdded Plwyfolion Pencarreg

Cafodd aelodau Clwb Cerdded Plwyf Pencarreg daith arbennig ar ôl y

rhew a’r eira dan arweiniad Dr Lloyd Jones. Man cychwyn y daith flynyddol

oedd Llwynfallen ar droed Mynydd Pencarreg, ac yna cerdded am fferm

Rhydowen a heibio olion fferm Llwyncuan oedd tua 113 erw yn ôl cyfrifiad

1871.

Wrth gerdded trwy glos Rhydowen, gwelwyd olion lle bu rhod ddŵr ar

bynfarch sydd erbyn hyn yn cael defnydd arall, sef dyfrio’r gwartheg. Cael

hanes wedyn am fwthyn Rhydowen Fach ac wedi ychydig ymchwil deall

mai dynes a’i mab oedd yn byw yno ac mai gwniyddes Latai oedd hi; does

dim sôn am yr hen gawr erbyn hyn.

Yna, aed ymlaen ar hyd y llethrau o dan fferm Derlwyn a mynd am bentref

Pencarreg, heibio hen ffermydd Tai Cwm a Fronfelen a gweld golygfa

arbennig o Ddyffryn Teifi. Llwybr y Plwyfolion cynnar fwy na thebyg oedd

hwn i fynd i addoli yn Eglwys St Patrig ac yn ddiweddarach i’r plant fynd i’r

ysgol. Mae’r Eglwys yn dyddio nôl i 1377.

Gwelwyd ôl traed nifer o adar a chreaduriaid yn yr eira a oedd yn parhau

yn y cysgodion ac enghreifftiau arbennig o ysgubau’r wrach ar y fedwen.

Wrth ymlwybro tuag at Bencarreg, cafwyd golygfa hollol newydd o Lyn

Pencarreg yn gorwedd yn dawel islaw gyda thrwch o rew arno, gan nad oes

dŵr yn llifo mewn nac allan ohono.

Braf oedd cael cerdded drwy un o’r ffermydd y bu rhaglen Dai Jones Cefn

Gwlad yn ymweld â hi cyn cyrraedd pen y llwybr ger hen ysgoldy Pencarreg

sydd erbyn hyn yn dŷ gwerthfawr. Agorwyd yr ysgol yn 1877 a’i chau yn

1969.

Cerdded yn ôl wedyn ar yr hewl heibio Blaenmas, Blaencarreg a dwy fferm

Blaenbydernyn, a mwy na thebyg heibio olion Rhosyduon Tower, plasty

ysblennydd ar ffurf castell a oedd yn eiddo i Syr William de Crespugny yn y

ddeunawfed ganrif.

Diolch i’r cerddwyr selog am gerdded llwybrau’r Plwyf. Os byddwch

yn cerdded y llwybr hwn, byddwch yn barod i fynd dros sticlau; yr unig

anhawster yw diffyg cyfarwyddiadau ger y sticlau.
C.FF.I Llanllwni

Yn ystod yr holl dywydd gaeafol

a gafwyd adeg y Nadolig fe wnaeth

y clwb lwyddo i fynd allan i ganu

carolau drwy’r cyfan. Aethom o

amgylch yr ardal ddwy noson i

ganu a chodi arian tuag at Feddygfa

Llanybydder. Diolch i bawb a

wnaeth gyfrannu at yr achos.

Ddydd Sadwrn 15 Ionawr 2011

cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad

Cyhoeddus Cymraeg y Sir yn Ysgol

Gynradd Nantgaredig. Yn cystadlu

yn y tîm siarad cyhoeddus dan 16

roedd Owain Davies (Cadeirydd),

Ifor Jones (Siaradwr) a Betsan Evans

(Diolchydd). Llongyfarchiadau i

Owain am gael ei ethol yn eilydd

i’r tîm a fydd yn mynd ymlaen i

lefel Cymru. Yn y gystadleuaeth

ddarllen i aelodau dan 14 oedd

Betsan Evans, Betsan Jones a Ifor

Jones wnaeth gynrychioli’r clwb a

llongyfarchiadau i Ifor am gipio’r

wobr am y darllenydd gorau ac

yntau hefyd yn rhan o dîm Sir Gâr

ar lefel Cymru. Llongyfarchiadau i

Betsan Evans am gael ei hethol yn

eilydd i’r tîm hefyd. Diolch i bawb

a fuodd yn hyfforddi’r ddau dîm ar

gyfer y diwrnod.

Ar hyn o bryd mae’r clwb yn

brysur iawn yn paratoi ar gyfer

cystadleuaeth Hanner Awr Adloniant

y Sir a fydd yn cael ei chynnal

ddiwedd mis Chwefror.

Cylch Ti a Fi Llanllwni

Croeso cynnes i famau / tadau,

mamgus a thadcus, gofalwyr a

phlantos bach alw draw am baned a

chlonc. Mae cyfle i ymlacio tra bod

y rhai bach yn mwynhau chwarae

â’r teganau, peintio a llawer mwy

bob bore dydd Iau o 9 -11 yn Ysgol

Gynradd Llanllwni. Cewch gyfle

i gael cyngor a chyfarwyddyd gan

wasanaethau fel Twf a’r Ymwelydd

Iechyd gan bod yna westeion yn

galw heibio’n aml.

Melinau Gwynt Llanllwni

Yn dilyn cais gan rai o drigolion

y pentref ddiwedd mis Tachwedd,

hwylusodd Cyngor Cymuned

Llanllwni y broses o alw cyfarfod

cyhoeddus yn Neuadd y Gymuned

Llanllwni. Pwrpas y cyfarfod oedd

trafod y cais cynllunio arfaethedig

gan gwmni Renewable Energy

Systems (RES) i osod 21 tyrbein

gwynt ar Fynydd Llanllwni, Mynydd

Llanfihangel Rhos y Corn a Mynydd

Llanybydder.

Cadeiriwyd y cyfarfod hwyluso

gan y Cynghorydd Sir, Linda Davies

Evans. Roedd Rhodri Glyn Thomas

AC a’r Cynghorydd Peter Hughes

Griffiths, arweinydd yr wrthblaid ar

Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn

bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr

lleol amryw fudiadau cadwriaethol

ac amaethyddol.

Trwy benderfyniad unfrydol

ffurfiwyd Achub Mynydd Llanllwni,

Grwp Gweithredu i wrthwynebu’r

cynllun dan gadeiryddiaeth John

Jones, Hengae, Llanllwni. Mae

ganddo flog wythnosol yn y

Carmarthen Journal. Gellir cysylltu â

John am wybodaeth bellach ar 01559

395309 johnallanjones@yahoo.co.uk

Ers ei ffurfio mae’r mudiad

wedi cwrdd yn wythnosol yn

Neuadd y Gymuned ac wedi gweld

cynnydd cyson yn yr aelodaeth a’r

mynychwyr. Mae croeso, bob amser,

i ragor o gyfeillion yr achos.

Erbyn hyn mae cais cynllunio

wedi ei gofrestru (E/23947) gyda’r

Cyngor Sir am 21 o dwrbeini gwynt

ar dir amaethyddol ac ar rostir

mynydd agored sy’n dir y goron

yng nghyffiniau Bryn Llywelyn,

Llanllwni. Mae’r cais cynllunio

am dwrbeini 127m/418 troedfedd

o uchder. Mae’r cais yn cynnwys

agor llwybrau newydd ar draws y

mynydd, lledu ffyrdd gwledig, agor

ffosydd i osod ceblau ynghyd ag

adeiladu gorsafoedd newidyddion.

Yr adeilad uchaf yn Llanllwni

ar hyn o bryd yw tŵr eglwys y

plwyf. Mae hwnnw’n 59 troedfedd

o uchder. Bydd y twrbeini felly 7

gwaith yn uwch na thŵr eglwys

Llanllwni. Er mwyn i bawb

sylweddoli beth yn union a fwriedir

mae delwedd wedi’i chreu o dŵr

yr eglwys a chyda chaniatâd y

golygydd cewch weld hwnnw yn

CLONC mis nesaf.

Os byddwch yn gwrthwynebu

trwy lythyr, dylid nodi rhif y cais

(sef E/23947) yn y llythyr a’i

anfon at Eifion Bowen, Cyngor Sir

Caerfyrddin, 40 Stryd Spilman,

Caerfyrddin, SA31 1LQ.

Dosbarth Cadw’n Heini gyda Joan

o J s Workout

Mae yna groeso i chi ymuno

â ni rhwng 8 – 9 bob nos Wener

yn Neuadd Gymunedol Eglwys

Llanllwni Maesycrugiau. Mae’r

dosbarth yn amrywio yn wythnosol

ac mae ar gyfer pob lefel o ffitrwydd

– ry’n ni’n cael tipyn o hwyl; £3.50

yw cost pob sesiwn.

Ffair Nadolig

Er gwaethaf y tywydd, bu Ffair

Nadolig Cylch Meithrin Llanllwni

yn Neuadd yr Eglwys ar brynhawn

dydd Sadwrn 27ain o Dachwedd

yn llwyddiant mawr. Cafwyd

arddangosfa wych a syniadau hyfryd

sut i baratoi cardiau gan Rosanne

Joynson. Roedd yna amrywiaeth o

stondinau yn cynnwys gemwaith,

cynnyrch cartref, cardiau, nwyddau

a llyfrau Cymraeg a gêmau i blant

a chacennau. Gwnaeth y plant

fwynhau cael eu hwynebau wedi eu

paentio gan Meriel a diolch iddi am

ei hamser ac am weddnewid y plant

yn gymeriadau lliwgar. Diolchwn i

bawb a gefnogodd y ffair; i Llywydd

y Ffair, y Parch Suzy Bale am ei

chyfraniad hael ac i bawb am eu

Llanllwni

Tîm pêl rwyd Ysgol Llanllwni a ddaeth yn ail yn Nhwrnament Pêl Rwyd

yr Urdd cylch Llambed. Cawsant dipyn o lwyddiant gan ennill dwy gêm ond

colli yn y gêm derfynol.

Aelodau’r tîm oedd Rhian G, Rhian T, Jasmine, Mair, Rebecca, Sinead a

Carys. Da iawn chi, ferched.

cyfraniadau i’r stondinau a’r raffl.

Gwnaeth plant yr ysgol ganu yn

hyfryd i gloi’r prynhawn. Wrth gwrs,

ma rhaid cofio diolch i Santa am alw

draw gyda’i anrhegion i’r plant ac i

Siop y Pentre a’r Co-op yn Llanbed

am gyfrannu’r siocled.

Disco St Ffolant

Croeso cynnes i blantos mawr

a bach yr ardal i ddod am bwgi

yn Neuadd Gymunedol Eglwys

Llanllwni - Maesycrugiau ar y 19eg

o Chwefror. Bydd yna luniaeth

ysgafn a gwobrau i’w hennill.

Bydd yr elw yn mynd tuag at Gylch

Meithrin Llanllwni.

Ysgol Llanllwni

Croeso i Tomos Thomas a

Christopher Lovell atom. Maent

wedi setlo yn nosbarth y babanod

ac yn hapus ymhlith eu ffrindiau

newydd.

Hoffwn ddiolch i gartref yr henoed

‘Cwm Aur’ yn Llanybydder am y

gwahoddiad a’r croeso a gawsom

pan aethom i ganu carolau yn ystod

eu diwrnod agored cyn y Nadolig.

Diolch am y rhoddion a gafodd pob

plentyn cyn mynd adre.

Diolch hefyd i bawb a roddodd

arian yn ein bocsys pan aethom o

gwmpas y pentref i ganu carolau gan

godi £139 tuag at gronfa Adran Urdd

yr ysgol.

Rydym yn dymuno’n dda i Mrs

Moira Jones, un o staff yr ysgol sydd

wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn

ddiweddar. Gobeithio eich gweld

nôl cyn hir.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r

Cyngor Cymuned am y rhodd ariannol

o fil o bunnoedd at gronfa’r ysgol.

Bingo Cylch Meithrin Llanllwni

Cynhelir Bingo Cylch Meithrin

Llanllwni ar nos Lun y 7ed o

Chwefror yn y Belle Llanllwni, i

ddechrau am 8yh. Bydd yna wobrau

ardderchog i’w hennill a lluniaeth

ysgafn ar gael.

Gwellhad

Braf iawn yw croesawu Nancy

Evans, Llannerch adref ar ôl cyfnod

yn ysbyty Glangwili. Pob dymuniad

da i’r dyfodol.

Hefyd danfonwn ein cofion at Mrs

Mari Gaveston Knight, Honnington

Hall yn dilyn ei hanffawd gartref yn

ddiweddar.

Dymunwn yn dda hefyd i Mrs

Lilian Griffiths, Ffynnonddrain

sydd ar hyn o bryd yng Nghartref

Argel, Tre Ioan, Caerfyrddin ar ôl

iddi dreulio peth amser yn Ysbyty

Glangwili adeg y Nadolig.

Diolch

Dymuna Elfryn a Julie, Delfryn

ddiolch i bawb am y cardiau a’r

anrhegion a gawsant ar enedigaeth y

mab bychan.

Pwyllgor yr Henoed

Cyn y Nadolig bu aelodau’r

Pwyllgor yn brysur yn dosbarthu

rhodd o £10 i bob un yn y plwyf

sydd wedi cyrraedd 70 mlwydd oed.

Eleni yr oedd 91 yn deilwng o’r

rhodd, gyda’r gobaith eu bod wedi

cael rhyw bleser ychwanegol dros y

Nadolig.

Y mae yn mynd yn fwy anodd

bob blwyddyn codi’r arian ac mae’r

diolch yn fawr am gyfraniadau o

£100 yr un oddi wrth Teulu Cross

Roads, Tom Bowen, Pwllglas a

Tommy a Margaret Davies, Tegfan

Garage. Yn ychwanegol cafwyd

punt y pen [£91] gan Gyngor Sir

Caerfyrddin, heb anghofio yr elw

o tua £1200 a wnaed o’r Bingo a’r

Raffl a gynhaliwyd yn yr Hydref.

Y mae’r ychydig aelodau sydd ar y

pwyllgor erbyn hyn yn bensiynwyr

eu hunain a gwneir apêl unwaith eto

am ragor i ymuno â’r Pwyllgor er

mwyn cadw’r traddodiad i fynd.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 11
Cylch Cinio

Mae cyfarfod mis Rhagfyr a’r

wledd draddodiadol yn achlysur

cofiadwy a roedd y cyfarfod eleni

yn bleserus iawn ym mhob ystyr. Y

gwestai a groesawyd yn gynnes iawn

gan y Llywydd, y Cyng. Hag Harris

oedd Ms. Meri Huws, Is-Ganghellor

(Arloesi, Cymuned a Sgiliau)

prifysgol newydd Y Drindod Dewi

Sant.

Cyflwynodd y siaradwraig

ei hunan fel “crwydryn” gan

gyfeirio yn gyntaf at ei magwraeth.

Symudodd ymlaen i sôn am

gyfnodau yn ei gyrfa a dylanwadau

o bwys iddi. Fe’i penodwyd i’w

swydd bresennol o Brifysgol Cymru,

Bangor ble roedd yn Ddirprwy Is-

Ganghellor rhwng 1999 a 2008. A

hithau yn enedigol o Gaerfyrddin,

yr oedd yn falch iawn dychwelyd i’r

sir. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd

Bwrdd yr Iaith yn 2004.

Y nod a’r weledigaeth ar gyfer

y dyfodol i’r brifysgol newydd

oedd hanfod ei chyflwyniad. Mae’r

cydweithio a’r cynllunio ar y cyd

gyda cholegau addysg bellach yn

siroedd y De Orllewin a sefydlu

cysylltiadau agos gyda Phrifysgol

Metropolitanaidd, Abertawe, yn

gamau pwysig ymlaen at wireddu’r

weledigaeth. Pwysleisiodd

hefyd natur y cyfleoedd sydd ar

gael drwy’r Brifysgol - gwaith,

astudio, cyfleoedd dysgu hyblyg

a dwyieithog, ehangu mynediad

i fyfyrwyr, ymchwil, hybu

datblygiadau yn y gymuned a

datblygu cyrsiau newydd. Eisoes

bu’n cynnal trafodaethau gyda

chynrychiolwyr busnes y dref

ynglŷn â’r hyn y gall y brifysgol

ei gynnig. Bellach, ymysg nifer

o ddatblygiadau cyffrous, mae

cynlluniau i sefydlu canolfannau

hyfforddiant yn Llambed mewn

meysydd megis gofal a iechyd yng

nghefn gwlad ac, yn y flwyddyn

newydd, Academi Treftadaeth.

Y Bnr. John Phillips a gynigiodd

bleidlais o ddiolch. Pwysleisiodd

bod y datblygiadau i’w croesawu

o safbwynt y dref a’r gymuned, y

Gymraeg a dwyieithrwydd.

Yr Is-Lywydd, Y Bnr. Elfan

James oedd â gofal am gyfarfod

cyntaf y flwyddyn newydd ar

6ed Ionawr a’r siaradwr gwadd a

groesawyd yn gynnes iawn ganddo

oedd y Bnr. John Glant Griffiths

MBE. Yn enedigol o Langeitho

ond bellach yn byw yn Lledrod,

fe anrhydeddwyd Mr Griffiths yn

2002 am ei wasanaeth i’r Comisiwn

Coedwigaeth.

“Rhyfeddod y goedwig oddi

mewn ac o amgylch” oedd thema ei

sgwrs, ac yntau yn feistr ar y testun,

cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei

gwmni. Gyda’i gasgliad gwych o

sleidiau, fe’n tywyswyd ganddo yn

gyntaf o amgylch mynachlog Ystrad

Fflur, ardal coedwig Pantyfedwen,

12 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Llanbedr Pont Steffan

a chawsom ambell hanesyn, megis

stori am y gŵr dienw a gladdwyd

yno.

Ymlaen at Stad yr Hafod wedyn,

rhan o diroedd Ystrad Fflur ers

talwm. Ddiwedd y 18fed ganrif

daeth yn eiddo Thomas Johnes ac

ef oedd yn gyfrifol am ddylunio’r

Stad yn y dull pictiwrèsg. Bellach,

Partneriaeth Cadwraeth yr Hafod

sydd â gofal am y stad ac am y

gwaith adfer sy’n digwydd yno.

Pleser oedd cael ein tywys ar hyd

y rhwydwaith o lwybrau coetir a

sefydlodd Thomas Johnes a gweld

sut y ceisiodd sicrhau golygfeydd

gwahanol o’r tirwedd unigryw.

Mae atyniadau’r Stad yn hynod: y

coedwigoedd, rhaeadrau, pontydd,

yr hen stablau, yr eglwys, yr hen

rewgell unigryw a bellach, y

cyfleusterau i ymwelwyr, y cyfan yn

tystio i gampwaith Thomas Johnes.

Diolchwyd i’r siaradwr gan

Y Bnr. Ceri Davies a gyfeiriodd

ato fel hanesydd, naturiaethwr a

gwarchodwr y bywyd Cymreig.

Gyrfa Chwist

Cartref Hafan Deg Nos Fercher

y 5ed o Ionawr cynhaliwyd Gyrfa

Chwist yng Nghartref Hafan

Deg gyda Gwendoline Jones,

Llanybydder yn arwain a Gwen

Davies, Llanwnnen wrth law.

Enillwyr fel a ganlyn – Dynion:

1af – Peter Jones, Llambed, 2il

– Dai Davies, Pensinrig, Cellan,

3ydd – Maggie Vaughn, Brohenllys,

Felinfach. Merched: 1af – Jean

Evans, Ciliau Aeron, 2il – Nana

Davies, Stryd Newydd, Llambed,

3ydd – Catrina Davies, Aberaeron.

Carden Miniature: Dynion – Ray

Jenkins, Llanybydder, Merched:

Gwen Davies, Llanwnnen.

Bwrw Allan – Enillwyr: Maggie

Vaughn, Felinfach a Mary Davies,

Maesnewydd, Cwmsychbant, Ail

– Beryl Roach, Brohenllys, Felinfach

a Gwendoline Jones, Llanybydder.

Enillwyr 19 Ionawr fel a ganlyn

– Dynion: 1af – Maggie Vaughn,

Brohenllys, Felinfach, 2il – Ray

Jenkins, Llanybydder, 3ydd – Mai

Williams, Tregaron, Merched: 1af

– Nana Davies, Stryd Newydd,

Llambed, Cydradd 2il – Margaret

Jones, Pentrebach, Llambed a

Catrina Davies, Aberaeron. Carden

Miniature: Dynion – Edward

Lockyer, Hafan Deg, Merched

– Dilwen Roderick, Llambed.

Bwrw Allan: Enillwyr – Brian

James, Trelech a Gwendoline

Jones, Llanybydder, Ail – Beryl

Roach, Brohnellys, Felinfach a Mai

Williams, Tregaron. Bydd Gyrfaoedd

Chwist mis Chwefror ar nos Fercher

2il a’r 16eg. Croeso cynnes i bawb.

Llwyddiant

Yn dilyn eu llwyddiant yn

cipio’r wobr gyntaf yn Eisteddfod

Genedlaethol yr Urdd Llanerchaeron

mae aelodau Côr Ysgol y Wern,

Caerdydd dan hyfforddiant Mair

Long, gynt o Haulfryn, Maesyllan

wedi cael profiadau gwych. Bu’r

plant yn rhan o’r canu cefndir

ar sengl Nadolig neb llai na Gio

Compario sy’n adnabyddus i bawb

ohonom rwy’n siŵr – cynhyrchwyd

gan yr enwog Warner Brothers.

Yn ogystal â hyn cawsant gyfle

arbennig hefyd i ymddangos yn y

fideo a gynhyrchwyd mewn stiwdio

anhygoel. Roedd hwn yn brofiad

cyffrous a bythgofiadwy i’r plant

a’u harweinydd. Yna i goroni’r

cyfan bu’r côr yn perfformio gyda

Wynne Evans sy’n portreadu Gio

mewn cyngerdd Nadolig, gyda

Chôr Caerdydd hefyd yn cymryd

rhan. Ym mis Ionawr lansiwyd

Mesur y Gymraeg a basiwyd gan

y Cynulliad yn Rhagfyr, a hynny

yn Ysgol y Wern gyda’r dirprwy

Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a’r

Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred

Jones yn bresennol. Cafodd y côr yr

anrhydedd a’r pleser o ddiddanu’r

pwysigion. Yn ddiweddar,

cynhaliwyd cystadleuaeth gorawl

i ysgolion cynradd Cymraeg a

Saesneg Caerdydd a’r fro. Cipiwyd

y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth

arbennig iawn gan Ysgol Y Wern

a derbyniodd y côr ganmoliaeth

aruchel am ddatganiadau swynol,

hynod gerddorol a disgybledig iawn.

Llongyfarchiadau calonnog i Mair

a’r côr ar eu llwyddiant a phob

dymuniad da iddynt i’r dyfodol.

Mae’r côr ar hyn o bryd yn paratoi

ar gyfer cyngerdd yn Neuadd Dewi

Saint i godi arian at Barnardos.

Diolch

Dymuna Mrs Nel Phillips, 19

Ffynnonbedr ddiolch yn gynnes

iawn i bawb am y llu cardiau a’r

anrhegion a dderbyniodd ar achlysur

ei phen-blwydd arbennig. Diolch o

waelod calon i chi gyd.

Llwyddiant Cerddorol

Llongyfarchiadau i Hanna James,

Ynysfaig, Stryd Newydd ar ei

llwyddiant yn pasio arholiad piano

Gradd 4 dan nawdd Coleg Brenhinol

Llundain. Pob dymuniad da i ti i’r

dyfodol.

Cydymdeimlad

Estynnir cydymdeimlad dwysaf

â’r teuluoedd i gyd sydd wedi colli

anwyliaid yn ystod y misoedd

diwethaf.

Gwellhad Buan

Da yw clywed bod Mrs. Catherine

Thomas, Hafdre, Stryd Fawr, yn

gwella yn dilyn llawdriniaeth yn

Ysbyty Glangwili. Mae Catherine

yn treulio ychydig wythnosau yn

Hafandeg ac yn gobeithio mynd

adre cyn bo hir. Pob dymuniad da i

chi oddi wrth eich ffrindiau i gyd yn

Llambed.

Noddfa

Er gwaetha’r anawsterau daeth

cynulliad teilwng ynghyd i ddathlu

Gŵyl y Geni nos Iau 23 Rhagfyr

yng nghwmni aelodau’r Ysgol Sul

gyda chymorth ieuenctid Noddfa,

Caersalem a Bethel. Anghofiwyd

am yr oerni y tu allan a llwydwyd

i greu awyrgylch hyfryd a chynnes

i’r gwasanaeth wrth ymlwybro i

Fethlehem ar lafar ac ar gân a phob

un o’r 24 a oedd yn cymryd rhan yn

cyflawni eu gwaith yn ardderchog.

Roedd cymeriadau’r geni i gyd yn

serennu ac yn wledd i’r llygad ac i’r

glust. Hefyd cafwyd ymweliad gan

Siôn Corn a bu’n hael iawn eleni eto.

Diolch hefyd i Alun ac Eifion am eu

rhoddion o ffrwythau i’r plant yn ôl

eu harfer. Hyfryd oedd clywed Janet

a chriw o’r plant yn sgwrsio â Hywel

Gwynfryn ar raglen Terwyn Davies

ar Radio Cymru. Bu’r plant hefyd

yn canu nifer o garolau. Ymwelodd

Hywel â Noddfa yn ystod ei daith

trwy Gymru a chafwyd llawer

o hwyl yn ei gwmni. I ddechrau

blwyddyn newydd o weithgareddau

bu aelodau’r Ysgol Sul yn diddanu’r

Henoed yn Hafandeg. Roedd

y preswylwyr wrth eu bodd yn

gwrando ar adloniant amrywiol a

safonol. Wrth ddiolch, roedd Mrs

Dilys Megicks, y Pennaeth, yn uchel

iawn ei chanmoliaeth am gyfraniad

y plant a oedd wedi rhoi pleser

mawr i’r Henoed. Cyn troi tuag

adre hyfryd oedd cymdeithasu tra’n

mwynhau diod a danteithion ysgafn.

Ar Sadwrn 15 Ionawr bu’r plant a’u

rhieni ynghyd ag ambell Fam-gu yn

y Panto yn Neuadd y Celfyddydau,

Aberystwyth. Roedd Cinderella

yn gynhyrchiad gwych llawn hwyl

a sbri a’r cyfan mor broffesiynol.

Cafwyd cyfathrebu arbennig rhwng

y criw a’r gynulleidfa a’r plant yn

ymateb mor frwdfrydig. Roedd y

set yn hynod o drawiadol a lliwgar

iawn ac roedd hiwmor y ddwy

chwaer salw yn eu gwisgoedd

anhygoel yn peri i ni gyd fod yn ein

dyblau trwy gydol y perfformiad.

Roedd pawb o’r lleiaf at yr hynaf

wedi joio mas draw. Dymuna Janet

ddiolch yn wresog am yr anrhegion a

dderbyniodd oddi wrth yr Ysgol Sul

a datgan ei gwerthfawrogiad diffuant

i’r aelodau am eu ffyddlondeb,

i’r bobl ifanc am eu teyrngarwch

ac i Llinos a’r rhieni i gyd am eu

cydweithrediad parod a’u cymorth

mawr. Yr ydym yn parhau i gwrdd

ar nos Wener o 4 hyd 5 o’r gloch ac

mae’r amser newydd yn gyfleus i

bawb ac yn sicrhau dyfodol Ysgol

Sul Noddfa. Trefnir rota ar ddechrau

bob tymor ac mae’r mamau ac

ambell dad hefyd yn cymryd eu

tro i helpu yn wythnosol. Mae’r

trefniadau yma yn llwyddiant mawr.

Edrychwn ymlaen at dymor arall o

gydweithio hapus.

Dyddiadur: 3 Ebrill Oedfa’r Ifanc

– Noddfa, 5 o’r gloch, 10 Ebrill
– Rihyrsal Bedyddwyr cylch Caio a

Llambed – Salem Caio 3.30, 8 Mai

– Rihyrsal y Bedyddwyr cylch Caio

a Llambed – Caersalem 2.00, 15 Mai

– Cymanfa Ganu Bedyddwyr cylch

Caio a Llambed – Noddfa, 2.30 a

6.00.

Merched y Wawr Cangen

Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch

Cafodd Merched y Wawr Cangen

Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch

noson ddiddorol iawn yng nghwmni

eu gŵr gwadd, Mr. Donald Morgan,

Llanrhystud yng nghyfarfod mis

Rhagfyr. Estynnodd y Llywydd

Mrs. Mary Davies, groeso cynnes

i Donald, ac hefyd i westeion

Cangen Cylch Aeron a oedd wedi eu

gwahodd i’r noson i fwynhau gweld

Donald yn gosod blodau Nadolig.

Mae Donald yn adnabyddus fel

gosodwr blodau o fri ac mae ganddo

siop flodau yn Llanrhystud, sef

‘Siop y Bedol’. Fe ddechreuodd

Donald osod blodau yn ifanc pan

oedd tua 15 oed. Yn ystod y noson

fe dalodd deyrnged i’w hyfforddwyr

am ei helpu i ddysgu’r grefft. Dros

y blynyddoedd mae wedi ennill

mewn nifer fawr o sioeau lleol a

hefyd mewn sioeau mawr fel Ffair

Aeaf Llanelwedd a sioe flodau fawr

Chelsea. Cafwyd noson ddiddorol

iawn a bu Donald yn arddangos a

chynllunio thema wahanol mewn

pedwar trefniant trwy ddefnyddio

blodau a phlanhigion mewn modd

artistig a chreadigol. Cafodd yr

aelodau fwynhad mawr wrth weld

y trefniadau prydferth a bu pedair

o’r aelodau yn ffodus iawn i ennill

trefniant blodau yr un yn y raffl a

dynnwyd ddiwedd y noson. I gloi’r

noson cafwyd bwffe bys a bawd

a diod blasus wedi eu paratoi gan

aelodau’r pwyllgor. Diolchodd

croesawraig y noson, Mrs. Eryl

Jones i Donald am ddod a diddori

yr aelodau â’i arddangosfa wych.

Diolchodd hefyd i’r aelodau a

oedd wedi paratoi’r bwyd a’r diod,

a dymunodd Nadolig Llawen a

Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Diolchodd Bethan Lloyd ar ran

Cangen Aeron. Yng nghyfarfod y

gangen ddiwedd y noson diolchodd

Mary i’r aelodau a oedd wedi bod yn

canu carolau yng nghartref Henoed

Hafandeg ac i’r aelodau a oedd wedi

bod yn cystadlu yn y Ffair Aeaf.

Enillydd y raffl misol oedd Mrs.

Glesni Thomas. Wrth gloi’r cyfarfod

dymunodd Mary Nadolig Llawen a

Blwyddyn Newydd Dda i’r aelodau.

Croesawodd y Llywydd Mrs.

Mary Davies yr aelodau yn ôl i

gyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd

yn Ionawr 2011 ac estynnodd

longyfarchiadau i Dilwen,

Margaret ac Ann a’u teuluoedd ar

enedigaeth wyrion a wyres newydd,

a dymunodd ben-blwydd hapus

i Noleen. Enillydd y raffl misol

oedd Gwynfil. Ar ôl y cyfarfod

Llanbedr Pont Steffan

croesawodd Mary y gwestai am y

noson sef Mrs. Janice Thomas sydd

yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth

Genedlaethol yn Llanerchaeron.

Mae’n Rheolwr Gwasanaethau

Ymwelwyr ac yn byw yng Nghiliau

Aeron gyda’i gŵr Iwan a’u tri

phlentyn. Bu Janice yn rhoi hanes

Llanerchaeron a gwelwyd bod

yr holl waith wedi ei gyflawni’n

safonol iawn ac wedi golygu bod

Llanerchaeron wedi ei adfer i’w

ysblander gwreiddiol. Ddiwedd

y noson rhoddodd Mary bleidlais

o ddiolch i Janice am ddod a

diddori’r aelodau trwy ddangos yr

holl waith da a gyflawnwyd gan

yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Eiliwyd Mary gan Mrs. Dorothy

James ac ategodd yr hyn roedd

Mary wedi ei ddweud a sôn pa mor

ffodus yr ydym i gael lle diddorol a

hyfryd fel Llanerchaeron ar stepen

y drws. Diolchodd Mary hefyd i’r

aelodau a oedd wedi paratoi’r te a’r

bisgedi hyfryd. Bydd y cyfarfod

nesaf ar y 14 o Chwefror gyda noson

yng ngofal y Llywydd, Mrs. Mary

Davies.

Urdd y Benywod Brondeifi

Cafwyd noson agored hwylus

ar nos Iau, Tachwedd 25ain gan

“Cathod Ceitho”. Fe’u croesawyd

a’u cyflwyno gan ein Llywydd

Beti Evans. Parti o naw o ferched

a’u cyfeilydd Howard Morse yw’r

rhain. Ffurfiwyd y grŵp o ardal

Llangeitho tua saith mlynedd yn ôl

gan Howard a Meima Morse ar ôl

iddynt ddychwelyd o’r Rhondda i

bentref genedigol Meima. Cawsom

ein diddanu gyda chaneuon

traddodiadol, adroddiadau digri

a sgetsys doniol. Gorffennwyd y

noson yn hwyliog gyda phawb yn

canu “Moliannwn”.

Talwyd diolchiadau gwresog ac

addas iawn gan Gwenda Davies. ac

enillwyd y raffl gan Mary Davies.

Cymdeithas Hanes

Daeth cynulleidfa dda i’r Hen

Neuadd i gyfarfod mis Ionawr gyda

llawer o wynebau newydd eto ac

fe’u croesawyd gan Selwyn Walters,

y Cadeirydd. Roedd y cyfarfod hwn

yn cael ei gynnal drwy gyfrwng

y Gymraeg, gyda Sian Jones yn

cyfieithu ar y pryd i’r di-Gymraeg.

Andrew Jones, Felindre oedd

siaradwr y noson a chafwyd orig y

tu hwnt o ddiddorol yn ei gwmni.

Thema’r noson oedd ‘Felindre a’i

gysylltiadau trefol’. Gyda chymorth

ei wraig Pat yng ngofal y cyfrifiadur,

gwelwyd lluniau o’i gyndeidiau

a fu’n byw ar y fferm, ynghyd â’r

goeden deuluol, honno’n mynd

nôl at deulu’r Cilgwyn yn yr ail

ganrif ar bymtheg. Daeth nifer o’r

disgynyddion yn bobl flaenllaw yn

nhre Llambed.

Yma yn 1908 y ganwyd Arnold

Davies, sylfaenydd busnes

cyfreithwyr yn y dre. Yma hefyd y

ganwyd Arnold Rees, yr arwerthwr.

Roedd yna gysylltiad teuluol â T.L.

Davies, sylfaenydd Gwasg Caxton.

Ar daflen arwerthiant yn Felindre

yn 1907, gwelwyd amserau’r trenau

er mwyn i’r prynwyr fedru cyrraedd

mewn pryd gydag enwau’r ceffylau

a’u tras mewn catalog. Cawsom

glywed bod rhai hyrddod wedi cael

eu gwerthu i Ddwyrain yr Affrig.

Roedd gan Martin Jones, gwas

yn y Felindre o 1934 hyd at 2000,

ddiddordeb mawr mewn tynnu

lluniau, a gwelwyd nifer ohonynt

gan Andrew. Roedd lluniau o sioe

a mart Llambed, a’r cymeriadau a

oedd yno, yn amlwg iawn. Gwelwyd

y tu fewn i siopau Nun Davies,

Megick’s, siop a garej Cwmann,

garej Auto Services - lle saif y

Co-op yn awr- ynghyd â llawer o

gymeriadau’r dref sydd bellach

wedi mynd. Ond diolch bod cofnod

ohonynt mewn llun.

Caed ymateb da gan y gynulleidfa,

llawer yn cofio aml i berson a

welwyd ar y sgrin, a chafwyd cryn

ddyfalu pwy oedd ambell un arall.

Diolchwyd yn ddidwyll iawn i

Andrew a Pat gan Selwyn Walters.

Pwysleisiodd eto bwysigrwydd

cofnodi a chadw mewn cof hen

hanes Llambed a’r fro. Diolchodd

hefyd i Sian am y gwasanaeth

cyfieithu.

Bydd y cyfarfod nesaf nos Fawrth,

Chwefror 15fed , yn Adeilad

Caergrawnt, pan fydd Loveday

Lewes Gee yn siarad am Llanllŷr.

Croeso cynnes i bawb.

Capel Brondeifi

Ar ôl cyfnod o dywydd caled

iawn a effeithiodd ar lawer iawn o’n

gwasanaethau mae’n braf dod nôl i

drefn eto.

Yn anffodus bu i’r festri

ddioddef oherwydd y tywydd

rhewllyd ond gobeithir y bydd y

gwaith adnewyddu yn dechrau

yn ystod yr wythnos nesaf ac y

bydd defnydd llawn ohoni eto yn

fuan. Diolch i bawb a fu wrthi yn

cynorthwyo gyda’r gwaith clirio

pan ddarganfuwyd y broblem ac i’r

contractwyr am eu sylw buan yn

delio gyda’r gofynion brys. Diolch

hefyd i Delyth Jones am gynnig

defnydd o’r Pantri i gynnal yr Ysgol

Sul dros dro.

Bu llawer o lwyddiannau ymysg

aelodau a chysylltiadau’r capel yn

ddiweddar a llongyferchir pawb ar

eu llwyddiant boed mewn sioeau,

yn y gweithle neu yn academaidd.

Braf oedd clywed Gwion, mab

Trefina ac Eirian, yn cymryd rhan

drwy weddïo ar y radio fore’r

Nadolig yn y gwasanaeth o gapel Y

Priordy, Caerfyrddin a braf hefyd

yw clywed am lwyddiant Clive

Evans, Brynmaen sydd wedi derbyn

swydd fel Rheolwr Prosiectau gyda

Chyngor Norwich. Pob lwc gyda’r

swydd newydd, Clive.

Mae’n galonogol cofnodi fod

Siop y Smotyn Du wedi bod yn

eithaf prysur ers ei hagor ym mis

Tachwedd a hoffem ddiolch i bawb

sydd wedi cefnogi yn ystod y cyfnod

hwn ac am y sylwadau caredig a’r

balchder fod y siop wedi ailagor.

Bu gwerthiant y llyfr ‘Hiwmor

Pregethwr’ yn anhygoel o uchel dros

Gymru - yr ail uchaf yn ystod mis

Tachwedd ac mae wedi sicrhau elw

sylweddol o £500 i goffrau’r siop.

Cydymdeimlir yn fawr iawn â Mrs

Phyllis Jones, Cilgell yn ei siom o

golli ei chwaer yng nghyfraith, Mrs

Dilys Jones, ddechrau’r flwyddyn

ar ôl dioddef cystudd hir. Nid yw

Phyllis Jones ei hun yn mwynhau

yr iechyd gorau ar hyn o bryd a

dymunir gwell

iechyd iddi yn fuan iawn. Yr un

yw’r dymuniad i Mrs Betsi Jones,

8 Maesyfelin sydd wedi bod yn

yr ysbyty ers rhai misoedd ond yn

gwella yn raddol yn Ward Padarn,

Glangwili; i Mrs Gwenda Wilson

(chwaer David Morgan) sydd ar hyn

o bryd mewn ysbyty yn Llundain, ac

i bawb arall hefyd sydd yn dioddef

mewn unrhyw fodd.

Mae rhai o’r swyddogion wedi

gwneud arolwg o’r fynwent ac wedi

adrodd yn ôl i’r capel gan ddynodi

fod nifer fechan o’r cerrig beddau

angen eu sefydlogi ac eraill heb

unrhyw gofnod wedi ei osod arnynt.

Bwriedir cysylltu â’r teuluoedd

perthnasol yn ystod y misoedd nesaf

i drafod y materion yma.

Mae’r Negesydd diweddara wedi

ymddangos, a’r Sul olaf ym mis

Ionawr bydd y gwasanaeth am 10.00

y bore; ar y 6ed o Chwefror am 2.00

yng nghwmni’r Parch Alun Wyn

Dafis ac yna ar y 13eg o Chwefror

am 10.00 y bore gyda’r Gweinidog

yn gwasanaethu.

Llanwnnen

Merch fach

Llongyfarchiadau i Heulwen a

Barry Evans, Ffrwd ar enedigaeth

merch fach ar ddechrau mis Ionawr,

chwaer fach i Cadi a Mari.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 13
Enw: Nia Milcoy

Oed: 23

Pentref: Olmarch

Gwaith: Swyddog Adnoddau

Dynol, Dunbia,

Llanybydder

Partner: Stephen Morris

Teulu: Mab blwydd oed o’r enw

Joshua.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Chwarae yn Afon Teifi ym

mhentre Llanwnnen ar wyliau

haf!

Hoff raglen deledu pan oeddet

yn blentyn.

Art Attack.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn

blentyn.

Galw pawb sydd yn hŷn yn “Chi”

a dweud “helo” wrth bawb bob

tro.

Y CD cyntaf a brynest di

erioed?

Spice Girls.

Pan oeddet yn blentyn, beth

oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu?

Milfeddyg!

Beth oedd y peth ofnadwy wnest

ti i gael row gan rywun?

Eistedd gyda’r moch ar ffarm

mam-gu pan oeddwn yn 3 oed.

Y peth mwyaf rhamantus a

wnaeth rhywun i ti erioed?

Prynu set o emau Aur Clogau ar

fy mhen-blwydd.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Pan wyf gyda Joshua a phan wyf

yn merlota ar gefn y ceffylau ar

ddiwrnod hela Tregaron!

Beth yw dy lysenw?

Milcoy!!

I ba gymeriad enwog wyt ti’n

debyg?

Cameron Diaz!

14 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Cadwyn Cyfrinachau

Y peth gorau am yr ardal hon?

Pawb yn serchog ac yn helpu ei

gilydd.

Y peth gwaethaf am yr ardal

hon?

Parcio yn Llambed!

Pa iaith wyt ti’n ei defnyddio

gyntaf?

Cymraeg.

Sut fyddet ti’n gwario £10,000

mewn awr?

Prynu car newydd!

Pryd lefaist ti ddiwethaf?

Diwrnod pen-blwydd cyntaf

Joshua.

Pryd est ti’n grac ddiwethaf?

Pob dydd pan wyf yn rhedeg yn

hwyr i’r gwaith ac mae car smala

tu blaen!

Beth oedd y celwydd diwethaf i

ti ddweud?

Pan brynes ddilledyn newydd a

dweud wrth ’nghariad mod i wedi

ei gael ers blwyddyn!

Am beth wyt ti’n breuddwydio?

Ennill y Loteri.

Beth oedd yr eiliad falchaf i ti’n

broffesiynol?

Cael fy swydd bresennol.

Ac yn bersonol?

Pan gefais fy ngradd.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n

bert?

Digon o make up!

Beth yw’r cyngor gorau a

roddwyd i ti?

Dyw bywyd byth yn berffaith.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd.

Pan gefais Joshua.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gonest, ffrind a ffyddlon.

I blant dan 8 oed

Beth yw barn pobl eraill

amdanat ti?

Gonest.

Pa gar wyt ti’n gyrru?

Twp!

Beth yw dy hoff air?

No way!

Beth yw dy hoff wisg?

Cardigan hir, leggins a bŵts.

A’th hoff adeilad?

Hen dŷ ffarm mam-gu fach.

Beth yw dy ddiod arferol?

Baileys ac iâ.

Beth wyt ti’n ei ddarllen?

Home magazines!

Beth yw dy hoff arogl?

Coco Chanel.

Sut wyt ti’n ymlacio?

Mynd i’r bath hefo cylchgrawn a

gwydraid o win.

Sawl ffrind sydd gennyt ti ar

Facebook?

Tua 200.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy

ffôn symudol?

Gwawr Jones – Meysydd!

Beth fyddet ti’n ei achub petai’r

tŷ’n llosgi’n ulw?

Lluniau’r teulu a fy handbags i!

Pa gerddoriaeth yr hoffet ti yn

dy angladd?

Telyn.

Ble fyddi di mewn deng

mlynedd?

Yn berchen siop esgidiau yn

Llambed.

Testun Cyfrinachau’r rhifyn nesaf:

Rhodri Williams, Cellan

Atebion Swdocw

mis Rhagfyr:

Llongyfarchiadau

i John D Evans,

Rampant Lion,

Capel Dewi; a

diolch i bawb arall

am gystadlu: Ron

Jones, Penbryn,

Llanbed; Shirley

Walker, Heol-y-Gaer,

Llanybydder; P Buckley, Bryntegwel, Llanbed a

Joan Stacey, Tynwaun, Ffaldybrenin.
O’r Cynghorau Bro

Cyngor Bro Llanllwni

Cadeirydd: Emyr Evans; Clerc: Eirlys Davies; Gohebydd y Wasg: Dewi

Davies; Cynghorydd Sir: Linda Evans

Cyfarfu’r Cyngor ar 10 Ionawr 2011 yn Neuadd Gymundol Llanllwni

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.

Croesawyd y Cwnstabl Rhydian Jones i’r cyfarfod, ac er nad oedd unrhyw

achosion penodol wedi codi o fewn y plwyf, cafwyd trafodaeth fywiog am

y toriadau arfaethedig yng nghyllid yr heddlu â’r posiblrwydd o gau gorsaf

Pencader. Cyfarwyddwyd y Clerc i ysgrifennu at Awdurdod yr Heddlu

yn datgan pryder y Cyngor Bro am ddyfodol plismona cymunedol ac am

ddyfodol Swyddfa Pencader.

Derbyniwyd amcangyfrif y o £900.50 am y gwaith cyfreithiol o

drosglwyddo’r Cae Chwarae i ofal y Cyngor Bro. Penderfynwyd symud

ymlaen â’r gwaith. Cadarnhawyd bod Tom Jones wedi archwilio’r maes

chwarae â’r adnoddau yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Roedd y gwaith wedi ei gwblhau. Cadarnhawyd gan Linda Evans bod

cyflymdra o 30mya yn mynd i gael ei osod o riw Gwarallt heibio i’r ysgol,

cyn bo hir. Cadarnhawyd gan Linda Evans bod y postyn fflachio yn mynd i

gael ei osod yn ei le priodol yn y dyfodol agos.

Cadarnhawyd gan Linda Evans, bod swyddogion y Cyngor Sir i ymweld

â’r safle arfaethedig ddiwedd mis Ionawr neu ddechrau mis Chwefror.

Roedd Statmatrix wedi cysylltu â’r Clerc yn nodi y bydd cyfarfod i’r

Cynghorau Cymuned ddydd Iau 3 Chwefror 2011 yn Brechfa. Byddai

manylion pellach yn dilyn. Wedi trafodaeth fanwl penderfynodd y

Cynghorwyr ymateb i’r cynlluniau arfaethedig ar Fynydd Llanllwni cyn y

dyddiad cau ar 26 Chwefror 2011.

Penderfynwyd cefnogi Ysgol Gynradd Llanllwni, Eisteddfod Genedlaethol

Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru, CFFI Sir Gâr,

Macmillan, Pwyllgor Henoed Llanllwni.

Byddai’r Clerc yn cysylltu er mwyn sicrhau bod y bocs postio ger

Blaencwmdu yn cael ei ailosod.

Byddai’r Clerc yn cysylltu â’r Cyngor Sir i nodi cyflwr drwg hewl Pont y

Rheilffordd - Gwarcwm – Ffynnonddrain.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb ac am eu brwdfrydedd

dros y plwyf.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 14 Mawrth 2011.

CROESAIR DIWRNOD Y LLYFR 2011

Cynhelir Diwrnod y Llyfr eleni ar 3 Mawrth, ac mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu croesair arbennig ar

gyfer holl bapurau bro Cymru. Bydd gwobrau o docynnau llyfrau gwerth £30 yr un ar gael i DRI

enillydd lwcus a bydd papurau bro’r tri enillydd yn derbyn siec o £50 yr un. Felly, dyma gyfle i

dderbyn gwobr bersonol a chefnogi’ch papur bro yr un pryd!

AR DRAWS

1 Enw record gan Edward H. Dafis ar glawr

llyfr Non (2, 5, 1, 7)

8 Llyfr gan Hilma Lloyd Edwards, _ _ _ _ _ yn y

Tŷ (5)

9 Llyfr bwrdd gan Charlotte Stowell, Samuel

yn Helpu _ _ _ (3)

10 D J Donci Bonc yw enw’r anifail hwn yn Bili

Boncyrs a’r Planedau (4)

13 Enw cyntaf awdur Drwy Lygad y Camera (3)

14 Nofel wedi’i lleoli ym Mhen Llŷn, ‘Ac yna

Clywodd _ _ _ y Môr’ (3)

16 Hunangofiant John Meredith (2, 3, 5)

18 Enw cyntaf awdur testun Llyfr y Ganrif a

gyhoeddwyd yn 1999 (4)

21 Awdur 36 ar draws (4, 3)

23 Drama gomedi gan Tony Llewelyn, _ _ _ _ a

Rhemp (4)

25 Un o gampweithiau John Davies (5, 5)

28 Hunangofiant yr actores Buddug Williams, Y

Ferch o’r _ _ _ (3)

30 Cai Gafodd y _ _ _, llyfr i blant bach gan Tony

Ross (3)

32 Nofel gan Angharad Tomos, _ _ _ _’n Gwawrio (4)

33 Yr Allwedd _ _ _ , nofel gan Eurgain Haf (3)

34 Enw cyntaf awdur Cymru ar Blât (5)

36 Llyfr am ferch o ardal y Bala a rwyfodd ar

draws dau gefnfor (2, 3, 10)

I LAWR

1 Nofel gyffrous gan Gwyn Llewelyn, ‘_ _ _ _ _

yng Ngruddiau’r Rhosyn’ (2, 3)

2 Enw cyntaf Prifardd o Benllyn, awdur y

gyfrol Cynefin (5)

3 a 35 Enw’r gyfres deledu a esgorodd ar gyfrol

ddifyr Teithiau Dewi Pws – Fo a Fi gyda’i Help

Hi (3, 3)

4 Cyfrol o storïau byrion, _ _ _ _ Gaeaf a

Storïau Eraill gan Kate Roberts (4)

5 Gair olaf teitl nofel rymus gan Llwyd Owen a

gyhoeddwyd yn 2006 (6)

6 Enw cyntaf awdur nofel anarferol Dyn yr

Eiliad (4)

7 Cyfenw awdur Am y Tywydd – Dywediadau,

Rhigymau a Choelion (5)

11 Cyfrol gan Alun Ifans, _ _ _ _ Sir Benfro – 24

o Deithiau Hudol (4)

12 Enw cymeriad yn Y Jaguar Glas Tywyll, nofel

gan Elgan Philip Davies (5)

15 Cyfrol gan Jerry Hunter a enillodd iddo

Fedal Ryddiaith 2010 (7)

ENW

CYFEIRIAD

ENW’R PAPUR BRO

1 2 3 4 5 6 7

8 9

10 11 12 13

14 9 15

11 12 16 17

18 19 15 16 20

25 26

21 22

6

23 24

27 21 23 28 29

30 26 31 25 32

33 34 29 35

Anfonwch y croesair at: Croesair Papur Bro, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion,

SY23 2JB, erbyn 30 Ebrill 2011. Gofalwch nodi eich enw a’ch cyfeiriad ac enw’ch papur bro lleol.

36

17 Nofel wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol

gan William Owen Roberts (1, 3)

18 Casgliad o storïau byrion gan Fflur Dafydd,

_ _ _ y Locustiaid (3)

19 Enw cyntaf Brenhines Powys y ceir ei hanes

gan Gwenan Mair Gibbard – un o Lyfrau

Llafar Gwlad (4)

20 Un o gylchgronau bywiog yr Urdd (3)

22 Nofel gan Gareth F. Williams, _ _ _ _ _ heb

Elin, enillydd gwobr Tir na n-Og 2007 (5)

24 Astudiaeth o nodwedd arbennig o’r traddodiad

barddol gan R. M. Jones, _ _ _ _ a’i Gyfeillion (4)

26 Enw cyntaf golygydd Telyn Fyw a

gyhoeddwyd yn 1996 (6)

27 Aeth Bethan Gwanas yn ôl i’r lle hwn (5)

28 Teitl nofel rymus gan Michael Morpurgo,

_ _ _ _ _ Rhyfel (5)

Cofiwch mai un llythyren yw DD, FF, LL

29 Ffoadur o wlad Laxaria sydd hefyd yn enw

ar nofel gan Mihangel Morgan (5)

30 Haf _ _ _ _ gan Angharad Tomos, llyfr a

gyhoeddwyd yn 2010 (4)

31 Cyfrol ddifyr gan y diweddar Gwyn Erfyl,

_ _ _ _ Ddirgel Ffyrdd (4)

35 Gweler 3 i lawr.

Gall chwilio gwefan www.gwales.com

eich helpu gyda’r atebion

Cyngor Tref Llambed

Maer: Rob Phillips; Clerc: Eleri Thomas; Cynghorydd Tref a Sir: Robert

(Hag) Harris; Cynghorydd Sir: Ivor Williams

Cyfarfu’r Cyngor ar 25 Tachwedd 2010 yn Neuadd yr Eglwys, Llanbedr

Pont Steffan.

Croesawyd yr aelodau i gyfarfod Cyngor y Dref gan y Maer.

Cafwyd cyflwyniad diddorol gan Mr Michael Freeman, Curadur

Ceredigion sy’n gyfrifol am yr adran arddangos yn Llyfrgell y Dref.

Nodwyd y byddai Hanes Llambed yn barod iawn i gynorthwyo i drefnu

arddangosfeydd cyson, safonol a blaengar ar gyfer y dref ar y safle yn y

dyfodol.

Plismona Nodwyd bod yr heddlu yn archwilio Parc yr Orsedd yn ofalus

gyson wedi iddynt dderbyn adroddiadau bod gwydr ar y parth chwarae.

Roedd post sy’n eiddo i Gyngor y Dref wedi’i ddifrodi ar y Comins ac

roedd yr heddlu’n ymchwilio.

Goleuo strydoedd. Yn ystod y flwyddyn roedd rhai goleuadau stryd

wedi’u diffodd i arbed ynni. Ond yn dilyn rhai digwyddiadau roedd rhai

ohonynt wedi’u ailgynnau ar gais yr heddlu. Byddid yn cadw llygad barcud

ar y sefyllfa tua’r dyfodol.

Ystyriwyd cais am seddi cyhoeddus ar y Stryd Fawr ond cyn symud

ymlaen byddai’r heddlu’n adrodd ar weithredu gwrthgymdeithasol yn yr rhan

hon o’r dref.

Gwelliannau i Sgwar Harford. Roedd pethau’n symud yn eu blaen ond

roedd trafodaethau eto i’w cynnal gyda rhai rhanddeiliaid.

Cyfarfod ag Arweinydd Cyngor Ceredigion a Phrif Weithewdwr y Cyngor.

Yn wyneb y toriadau, nodwyd mai blaenoriaethau Cyngor Ceredigion oedd

Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Priffyrdd, Adran y Prifweithredwr,

Adran Gwasanaeth Amgylcheddol a Thai. Trafodwyd yn ogystal gwella

diogelwch ar Lôn Picton a Mount Walk; problem trafnidiaeth yn Rhes

Harford; ail-lunio’r fynedfa i Faes parcio’r Rookery: cynlluniau ar gyfer

Neuadd Fictoria; adolygu trefniadaeth etholiadol Ceredigion.

Buwyd yn trafod gwelliannau i Stryd y Felin. Nodwyd bod cynllun peilot

Ysgol 3-19 Llambed, yn mynd yn ei flaen yn hwylus ac y byddai cyfle i’r

gymuned leisio barn yn y Flwyddyn Newydd.

Diolchwyd i’r Lleng Brydeinig am bob cymorth ar Sul y Cofio. Bydd yr

apêl i drwsio’r difrod a wnaed i’r cerrig beddi ym mynwent yr eglwys ar agor

am gyfnod eto, cyn trosgwyddo’r swm a gasglwyd i’r ficer.

Cyngor Bro Pencarreg

Cadeirydd: Dannie Davies; Clerc: Eric Williams; Cynghorwyr Sir: Fiona

Hughes, Eirwyn Williams.

Cyfarfu’r Cyngor ar 10 Ionawr 2011 yn Neuadd Sant Iago, Cwmann

Nid yw’r Cyngor wedi cael gwybod gan Adran Gynllunio’r Sir pryd y

cynhelir cyfarfod safle yn Braichesmwyth. Mae Cyngor Bro Pencarreg yn

awyddus i wybod ac i fod yno i ddangos cefnogaeth i’r cynllun.

Mynegwyd pryder nad oedd dim gwelliant wedi digwydd i’r pafin cul ger

Lleinau, Cwmann, er bod addewyd wedi ei wneud y byddai’n cael ei wneud

y llynedd.

Roedd gwasanaeth y Cadoediad eleni yng ngofal y Parch William Strange

a’r Canon Wynzie Richards, gydag aelodau o’r Ffermwyr Ifanc yn cymryd

rhan. Roedd tyrfa dda yno fel arfer ac roedd clod mawr i’r gwellianau i’r

Ardd Goffa. Roedd y Cyngor yn hapus iawn â chrefftwaith y crefftwr lleol.

Derbyniwyd y canlynol: Cyflysterau i’r Anabl yn Nhafarn y Ram; adeilad i

gadw gwartheg a defaid yn Tan y foel Cwmann; cryfhau’r wifren drydan sy’n

rhedeg ger hen linell y rheilffordd o 11kv i 33Kv. Nid oedd gwrthwynebiad

i’r ceisiadau.

Derbyniwyd holiadur am ein syniadau am bolisi y Sir i greu mwy o

safleoedd i deithwyr a sipsiwn. Mae pedair safle ar gael ar hyn o bryd. Bydd

mwy o drafod ar y pwnc hwn y mis nesaf.

Derbyniwyd llawer o geisiadau am gymorth ariannol; penderfynwyd eu

trafod yng nghyfarfod mis Mawrth.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 7fed Chwefror 2011

Alltyblaca

Diolch

Dymuna Dilwen George a’r teulu ddiolch i bawb am bob arwydd o

gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn dilyn marwolaeth ei hŵyr Aled

yn ddiweddar. Diolch hefyd am y cyfraniadau er cof amdano, at ‘Ymchwil

Leukaemia.’ Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 15
Bu rhaid newid dyddiad ras y mast o fis Dachwedd i ddechrau Ionawr

eleni oherwydd yr eira. Roedd yr ras yn dechrau o ganolfan gwyliau

Blaenwern, Llanybydder gyda chwech deg saith o redwyr. Carwyn Thomas

o glwb Sarn Helen yn ennill mewn 41 munud 17 eiliad, 2il Daniel Hooper

Sarn Helen 44 munud 24 eiliad, 3ydd Mark Thomas Cardigan RC 44 munud

38 eiliad. Dynion 40 1af Glyn Price Sarn Helen 44 munud 50 eiliad, 2il

Michael Davies Sarn Helen 46 munud 29 eiliad, 3ydd Jonathan Jones

Carmarthen Harriers 48 munud 43 eiliad. Davie Powell Aberystwyth AC

enilloedd y categori 50 a 2il Richard Marks Sarn Helen 50 munud 27 eiliad.

3ydd Graham Spencer Mercia 51 munud. Anna O’Neil oedd y cyntaf nol

yn ras y menywod 35 53 munud 37 eiliad, 2il Nicola Quinn Emlyn Runners

55 munud 39 eiliad, 3ydd Alyson Hayes Cardigan RC 58 munud 07 eiliad.

1af menywod agored Megan Thomas TROTS 57 munud 40 eiliad, 2il Sian

Roberts Jones Sarn Helen 60 munud 13 eiliad, 3ydd Caryl Davies 61 munud

22 eiliad. 1af menywod 45 Helen Walker Ingli Runners 50 munud 36 eiliad,

2il Jane Wilkins Cardigan RC 64 munud 13 eiliad, 3ydd Lorraine Dyde

Pembrokeshire Harriers 79 munud 05 eiliad. Yn ras y beicwyr John Lloyd

MTB Mountain enilloedd mewn 45 munud 12 eiliad, 2il Eric Rees Sarn

Helen 49 munud 45 eiliad, 3ydd Daniel Colman Pembrokeshire Harriers 50

munud 44 eiliad. Enillwyd y tim gan Sarn Helen Carwyn Thomas, Glyn

Price a Sian Roberts Jones.

Aled Sion Jones Aberystywth AC enilloedd ras y plant o dan 11, 5 munud

27 eiliad, 2il Thomas Willoughby Sarn Helen 6 munud 7 eiliad, 3ydd Robert

Jenkins Sarn Helen 6 munud 14 eiliad a 1af yn ras y merched Rachel Priddey

Sarn Helen 6 munud 12 eilid, 2il Grace Page Sarn Helen 6 munud 34 eiliad,

3ydd Heledd Jenkins Sarn Helen 7 munud 37 eiliad. Caitlin Page Sarn Helen

enilloedd y ras dan 16, 11 munud 55 eiliad, 2il Ffion Quan Sarn Helen 12

munud 48 eiliad, a 1af bechgyn Iwan Evans Sarn Helen12 munud 26 eiliad a

2il Kaya Hooper 15 munud 56 eiliad.

Cyflwynwyd gwobr yr ‘inter clubs’ a’r ennillwyr o glwb Sarn Helen oedd

Michael Davies, Glyn Price, Tony Hall, Gareth Jones a Dee Jolly, a thim y

menwyod a’r dynion.

Aberystwyth 10K 2il Glyn Price 35 munud 41 eiliad, 14 – G ethin Jones

38 munud 50 eiliad, 18 – Richard Marks 39 munud 14 eiliad, 24 – Huw

Price 40 munud 31 eiliad, 32 – Eric Rees 41 munud 19 eiliad, 48 – Mark

Dunscombe 42 munud 43 eiliad, 85 – Sian Roberts-Jones 47 munud 51

eiliad a 230 – Allen Watts 1 awr 42 munud 27 eiliad.

Ddydd Sul bu Caitlin Page yn cystadlu ar drac NIAC yng Nghaerdydd

mewn ras 800 medr Campwriaeth Cymru; daeth yn drydydd yn y rhag-ras

mewn 2 munud 39 eiliad (PB), ac roedd ei hamser yn rhagorol i gael rhedeg

yn y ras derfynol a gorffen yn y chweched safle.

16 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Ysgol Llanwnnen

Ar y pedwerydd o Ragfyr,

trefnwyd trip i wneud siopa Nadolig

ac ymweld â Sioe Gerdd Mamma

Mia. Aeth un bws i Gaerdydd nos

Sadwrn ac aros yng Ngwesty’r

Village. Ymunodd llond bws arall

â nhw fore Sul i weld y sioe yng

Nghanolfan y Mileniwm. Diolch yn

fawr i Miss Nia Davies am drefnu

trip llwyddiannus arall.

Nos Iau, Rhagfyr 9fed, bu’r

plant yn diddori siopwyr Llambed

yn Ffair Nadolig y dref. Cafwyd

cyfle i ymweld â Siôn Corn a blasu

sglodion hyfryd a gafwyd yn rhad

ac am ddim gan Stuart Lloyd.

Cynhaliwyd sioe Nadolig yr ysgol

‘Noson y Gêm Fawr’ ar brynhawn a

nos Fawrth y 14eg yn neuadd yr ysgol.

Roedd y neuadd yn orlawn ar gyfer y

ddau berfformiad. Gwnaed fideo i gydfynd

â’r sioe a chafwyd llawer o hwyl

a sbri yn gwylio plant ac aelodau’r

gymuned yn cymryd rhan.

Ffarweliwyd â Miss Davies ar

ddiwedd y tymor. Bu’n gweithio

yn yr ysgol am gyfnod o ddeuddeg

mlynedd. Diolch iddi am ei

chyfraniad gwerthfawr i’r ysgol

a dymunwn yn dda iddi yn ei

swydd newydd yn Ysgol Gynradd

Felinfach.

Llongyfarchiadau i’r ysgol am

dderbyn gwobr Efydd i gydnabod

ymdrechion yr ysgol wrth weithio

tuag at ffordd gynaliadwy o fyw.

Bu blwyddyn 5 a 6 yn cymryd

rhan mewn gweithdy radio gyda

Marc Griffiths yn Ysgol Llanwenog.

Cafwyd cyfle i sgriptio a recordio

rhaglenni radio.

Aeth tîm pêl-rwyd yr ysgol i gystadlu

yn erbyn ysgolion y cylch. Cafwyd

cystadlu brwd, a daeth tîm yr ysgol yn

ail.

18 oed

Dathlodd Nia Thomas, Bro

Grannell ei phen-blwydd yn 18 oed

yn ystod mis Rhagfyr. Dymuniadau

gorau i ti i’r dyfodol.

Cydymdeimlo

Cydymdeimlir yn ddwys â Clive

a Helen Roberts a’r teulu oll, 19

Bro Llan yn dilyn marwolaeth mam

Clive a oedd yn byw yn Ffarmers.

O’r Cynulliad

Llanwnnen

Gwellhad Buan

Dymuniadau gorau i Ray Thomas,

Berllan am wellhad buan wedi iddi

dorri ei chlun yn ddiweddar.

Pob dymuniad da hefyd i Mary

Evans, Bro Cadarn wedi iddi

ddisgyn yn y tywydd garw.

Danfonwn ein cofion gorau at

Mrs Joyce Williams, Pleasant Hill

sydd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty

Bronglais ond sydd ar hyn o bryd

yn gwella gyda’i merch Mair yn

Rhoslwyn, Cwmsychbant. Brysiwch

wella.

Sefydliad y Merched

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y

flwyddyn newydd yng Ngwesty’r

Grannell nos Lun, 17eg o Ionawr.

Croesawyd pawb yn gynnes gan

ein Llywydd Mrs Gwen Davies a

dymunodd Flwyddyn Newydd Dda

i’r aelodau oll. Noson i edrych ymlaen

oedd hon a pharatoi rhaglen am y

flwyddyn i ddod. Wedi tipyn o drafod

syniadau mae yna raglen ddifyr iawn

ar ein cyfer. Enillydd cystadleuaeth y

mis oedd Mrs Alice Davies.

Bu’r Cinio Nadolig yn noson

hwylus iawn: bwyd blasus, cwmni

difyr a llawer o hwyl gyda phawb

yn ymuno mewn gêm o ‘Chwist’

i orffen y noson. Mr Roy Roach

oedd y gŵr buddugol gyda’r sgôr

uchaf. Enillydd cystadlaethau’r

flwyddyn oedd Mrs Mary Davies

a dderbyniodd rodd fechan am ei

hymdrech. Mae’r cystadlaethau hyn

yn dipyn o hwyl a llongyfarchiadau

cynnes i Mary.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yng

Ngwesty’r Grannell ar nos Lun, 7fed

o Chwefror yng nghwmni Patricia

Storr a’i chasgliad o Ffaniau.

Croeso cynnes i unrhyw un sydd â

diddordeb ymuno â ni.

Symud Aelwyd a Chydymdeimlo

Yn ystod y gaeaf mae Mrs

Avarina Lewis wedi symud aelwyd.

Ymadawodd â’i chartref yn Gwelfro

i fyw yn nes at y plant yn Chelsea

Manor, Ffosyffin. Dymunir iddi

iechyd da yn ei chartref newydd ac

fe welir ei heisiau yn yr ardal.

Hefyd cydymdeimlwn â hi yn

dilyn marwolaeth ei chwaer, Mair a’i

brawd Bill yn ddiweddar.

gan Elin Jones AC

Wrth edrych drwy’r calendr newydd, mae hi’n amlwg y bydd 2011 yn flwyddyn fawr i Geredigion a Chymru. Mae yna gyfnod cyfnod cyffrous o’n

blaenau, er fe fydd yna her i’w goresgyn hefyd. Fe fyddwch mae’n siwr yn ymwybodol o’r refferendwm dros bwerau deddfu llawnach i’r Cynulliad a

gynhelir ar 03 Mawrth. Fe fyddai cael pleidlais Ie yn y refferendwm yn gam a fyddai’n sicrhau bod system gyflymach o wneud penderfyniadau er lles pobl

Cymru. Ar ddechrau mis Ionawr, cefais y fraint o siarad yn lansiad lleol yr ymgyrch Ie Dros Gymru. Braf oedd gweld cynifer yno – roedd Canolfan y Morlan

yn Aberystwyth yn llawn i’r ymylon – ac roedd hynny’n galonogol iawn i’w weld. Cafwyd trafodaeth ddifyr ac roedd brwdfrydedd ymysg y gynulleidfai’w

weld ac i glywed mwy am bwysigrwydd y refferendwm yn amlwg.Os ydych am helpu gyda’r ymgyrch, gallwch ddanfon e-bost at ceredigion@iedrosgymru.

com. Hefyd yn ystod mis Ionawr, fe ddaeth y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC, i Aberteifi i gael gweld y gwaith peirianyddol sy’n digwydd ar

hyn o bryd er mwyn ail-agor Cyffordd Tesco yn y dref. Mae’r gyffordd wedi bod ar gau ers 2003 erbyn hyn, ac wedi blynyddoedd o ymgyrchu, rwy’n edrych

ymlaen at weld ceir o bob cyfeiriad yn medru defnyddio’r gyffordd. Tra fy mod yn Aberteifi, fe ymwelais â’r Guildhall lle mae’r gardigan enfawr a wëwyd i

nodi 900 mlwyddiant y dref. Mae’n amlwg y treuliwyd oriau yn gweithio ar y gardigan ac mae’n gofnod teilwng o hanes y dref. Yn olaf, fe fynychais ginio i

ddathlu diwedd apêl Sioe’r Cardis. Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch pob un fu’n helpu trefnu digwyddiadau a chodi arian yn ystod y flwyddyn, mae’r holl

waith caib a rhaw wedi talu ar ei ganfed.
Yn y Gegin gyda Gareth MiS y PaPUr NeWYDD

‘Cwtsh a Chusan’

Oes wir, mae yma naws a blas rhamant yn cynhesu ‘Cegin Clonc’

mis Chwefror. Dyma fwyd syml ond rhamantus a blasus, ac mae’n

rhoi digon o amser i chi dreulio gyda’ch partner oherwydd rydw i wedi

dyfeisio pryd fydd yn addas i’w baratoi ymlaen llaw yn ystod y dydd.

Mae’r pryd yn llawn bwydydd ‘affrodisiac’ a fydd gobeithio yn rhoi

sbarc i’r noson.

Felly, gariadon a chyplau ‘Clonc’, gosodwch y bwrdd, cynnwch y

canhwyllau, agorwch botel a chiciwch y sgidie bant.

Mwynhewch,

Gareth. (Pob lwc!)

Hwyaden wedi’i rhostio gyda gwin coch a saws oren

Cynhwysion.

2 coes hwyaden

1 oren

150 ml o win coch

150 ml o stoc cyw iâr

2 llond llwy fwrdd o jeli cyrens coch

Persli wedi’i falu ar gyfer gweini’r pryd.

Dull

1. Cynheswch y ffwrn i 190ºC; 400ºF; Nwy 5. Pigwch y coesau

ac ychwanegwch bupur a halen. Rhowch mewn tun a

gorchuddiwch â ‘foil’. Rhostiwch am awr, yna arllwyswch a

chadw’r braster.

2. Tynnwch y ‘foil’ a rhowch yn ôl yn y ffwrn am hanner awr nes

bod y croen yn ‘grisp’.

3. Mesurwch lond dwy lwy fwrdd o’r braster i sosban gydag

ychydig o groen yr oren, sudd yr oren, y jeli a’r stoc, a dewch

â’r cyfan i’r berw a’i fudferwi am ¼ awr. Gweinwch gyda

sbigoglys (spinach) a thatws arbennig.

‘Sbigoglys a Thatws Arbennig’

Cynhwysion.

250 gm o datws wedi’u crafu

Ychydig fenyn

3 llond llwy fwrdd o ‘creme fraiche’

50 gm o sbigoglys

Ychydig nutmeg

1 gwyn ŵy

Llond llwy fwrdd o gaws wedi’i falu

Dull

1. Cynheswch y ffwrn i 190ºC, 400ºF, Nwy 5.

Irwch dwy ddysgl fach â menyn a berwch y tatws nes yn

feddal a’u cymysgu nhw gyda menyn a ‘creme fraiche’.

2. Rhowch y sbigoglys mewn colander ac arllwys dŵr berwedig

drosto. Malwch y sbigoglys a’i gymysgu â’r tatws. Rhannwch

rhwng y ddwy ddysgl, gwasgarwch y caws dros yr wyneb a

choginiwch am 20 munud.

Pwdin Siocled Syml

Cynhwysion

Defnyddiwch siocled o ansawdd da; mae digon yma i ddau

- mewn gwydrau bach (port).

1 llond llwy fwrdd o siwgr mân

3 llond llwy fwrdd o hufen dwbl

25gm o siocled tywyll wedi’i falu’n fân.

Un llond llwy fwrdd o ‘Baileys’.

Dull

1. Rhowch y siwgr mewn basn ac arllwyswch 2 lond llwy fwrdd

o ddŵr berwedig i doddi’r siwgr.

2. Cynheswch yr hufen mewn sosban ac yna ychwanegwch y

siocled nes iddo doddi, yna’r Baileys a’r syryp siwgr.

3. Arllwyswch i’r ddau wydr, addurnwch ag hufen, a gweinwch

gyda llwy de.

Colofn Dylan Iorwerth

Mae’n werth troi’n alltud ambell dro ...

Un o’r pethau rhyfedd am fynd ar wyliau i le pell ydi’r arfer o chwilio

am bethau sy’n debyg i gartre’.

Yng Ngwlad y Basg, neu Gatalunya, yn ardal Strasbourg neu

Iwerddon, dw i wedi aros a meddwl, “Diawcs, mae hwnna’n debyg i’r

afon yn Rhuddlan Teifi neu i Fynydd Llanybydder”.

Peth rhyfeddach fyth ydi mynd ar daith a dychmygu eich bod chi’n

gweld pethau’n debyg i Gymru ganrif a hanner yn ôl.

Dw i wedi cael y profiad hwnnw ddwywaith yn y flwyddyn ddiwetha’,

er nad ar wyliau yr o’n i. Ond wrth helpu i wneud rhaglenni teledu

ym Madagascar ac eto yn Zanzibar, dw i’n credu fy mod i wedi gweld

ychydig o Gymru hefyd.

A finnau mewn peryg o gael fy mhenodi’n Ohebydd Arbennig Clonc

ar ynysoedd Affricanaidd Môr India, mae cymharu’r gwledydd yn

ddigon i sobri dyn. Ar yr olwg gynta’, mae’n wallgo; mewn gwirionedd,

mae yna fudd mawr yn y peth.

Mi ddaeth hynny’n gliriach fyth ar ôl bod yn edrych ar rai o luniau’r

ffotograffydd cynnar o Gellan, John Thomas ... a rhai o’r rheiny’n

dangos golygfeydd a phobol o’r ardaloedd yma.

Edrychwch ar y ffyrdd di-darmac ac mi welwch chi’r hyn sydd ym

Madagascar a Zanzibar heddiw – ychydig o briffyrdd tarmac eitha’ da,

a’r gweddill yn ffyrdd cul rhwng bythynnod digon tlodaidd yr olwg.

Edrychwch ar y bobol wrth eu gwaith a llawer ohonyn nhw mewn

dillad sy’n rhyfeddol o fudr yn ôl ein safonau ni. Ond os oes yna lwch

a phridd ym mhobman a’r cyfle a’r amser i olchi dillad yn brin, dyw

hynny ddim yn syndod.

Ac mewn sawl ffordd, mae’r economi’n debyg hefyd. Pobol yn

tyfu cnydau a magu anifeiliaid ar eu ffermydd ac yn dod â nhw i

farchnadoedd i’w gwerthu a phrynu nwyddau angenrheidiol ar eu cyfer

eu hunain. Dim ond yr angenrheidiau, a chyfnewid pethau yn ogystal â

phrynu a gwerthu.

Mae’n wir nad oedd tyddynwyr Ceredigion yn gwerthu pinafalau a

mangos a ffrwythau’r dioddefaint ond roedden nhw’n gwerthu tatws a

maip a chig. Ganrif a hanner yn ôl yng Nghymru, mae’n siŵr mai byw

o’r llaw i’r genau yr oedd llawer o bobol.

Does dim archfarchnadoedd mewn llefydd fel Zanzibar a Madagascar;

siopau bychain sydd yna, a llawer o’r rheiny’n anffurfiol – siopau bach

ffwrdd-â-hi efallai neu werthu o stafell yn nhu blaen y tŷ.

Roedd hynny’n fy atgoffa fi o’r straeon am Ffair Llanwnnen, er

enghraifft, pan oedd bron pob tŷ yn y pentre’n troi’n dafarn tros dro

a phobol yn gwneud bwyd er mwyn ei werthu i’r ymwelwyr oedd yn

heidio i’r lle.

Y peth arall welwch chi yn rhai o luniau John Thomas ac mewn

gwledydd tlawd ydi ôl tlodi ar gyrff a wynebau pobol. Fel petai eu

cyflwr cymdeithasol wedi ei fynegi yn eu llygaid ac yn eu ffordd o sefyll

a symud.

O ran hynny, mi allwch chi weld hynny heddiw yn rhai o drefi a

dinasoedd Cymru ac, os edrychwch chi’n iawn, yng nghefn gwlad hefyd.

Ac mae’n debyg mai dyna’r wers arall sydd i’w dysgu o deithio – mi all

y gorffennol ddod yn ôl.

Nantlais, y bardd o ardal Pencader, oedd yn gyfrifol am y llinell honno

am y “teid yn dod miwn a’r teid yn mynd mas” ac felly y mae hi yn

hanes cyfoeth a gwareiddiad hefyd. Zanzibar heddiw, Cymru ddoe, neu

fory?

Trydedd gwers? Mae’n cymryd amser i wledydd a democratiaeth

ddatblygu. Yng Nghymru ganrif a hanner yn ôl, dim ond y cefnog oedd

yn pleidleisio ac roedd gormes economaidd yn ofnadwy. Fedrwn ni ddim

disgwyl i wledydd eraill gamu’n syth o’r hen amser i’r byd modern.

A fyddai hynny ddim yn gwneud lles iddyn nhw chwaith. Petaen ni’n

byw yn 1861 ac yn edrych ar Gymru 2011 tybed faint o’n bywydau ni

heddiw y bydden ni’n dyheu amdanyn nhw.

HYSBYSEBU YN CLONC

“Mae mwy a mwy yn gweld gwerth mewn hysbysebu

yn y Papur Bro.”

Amcangyfrifir bod tua 3,000 o bobl yn darllen CLONC.

£10.00 am floc bach. £30.00 am chwarter tudalen.

£50.00 am flwyddyn o flociau bach.

Cysylltwch ag Ysgrifenyddes CLONC am ragor o wybodaeth:

01570 480015 neu ysgrifennydd@clonc.co.uk

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 17
Bu disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar daith i Aberystwyth yn mwynhau

perfformiad “Hosan a Stori” gan gwmni Drama Arad Goch. Yn dilyn y

perfformiad aethant i Amgueddfa Ceredigion lle’r oedd cyfle iddynt wneud

gweithgareddau hanesyddol. Cafwyd amser gwych Cynhaliwyd noson

agored yn yr uned dan 5 i roi cyfle i rieni a phlant newydd ymweld â’r

dosbarthiadau a’r staff. Diolch yn fawr i’r staff i gyd am baratoi.

Yn ystod y tymor mae disgyblion yr adran Iau i gyd yn eu tro yn cael cyfle

i weithio yn yr Ysgol Uwchradd gyda Liz Harding ar furlun yn seiliedig

ar stori hanesyddol Siôn Philip. Bydd y murlun yn cael ei osod yn neuadd

yr ysgol ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweld y gwaith

gorffenedig.

Mae disgyblion blwyddyn 12 yn parhau i ymweld â disgyblion

blynyddoedd 3-6 i wrando arnynt yn darllen ac i gynnal trafodaethau am yr

hyn a ddarllenir.

Bu grŵp o ferched yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth pêl-rwyd yr Urdd

yn ddiweddar a chawsant lawer o hwyl a sbri yn datblygu sgiliau. Diolch i

Miss Pugh am eu hyfforddi.

Gwelwyd Lauren Hill ac Elan Jones ar raglen Rapsgaliwn S4C yn

ddiweddar ac fe fydd Nia Beca Jones ac Owain Jacob yn ymddangos arno ar

yr ail o Chwefror. Gwnaeth y pedwar disgybl fwynhau’r profiad yn fawr. Da

iawn chi!

Aelodau Cyngor Ysgol Ffynnonbedr a’r cydlynydd Nerys Davies yn

cyflwyno siec am £250.00 i reolwraig a phreswylwyr Cartref Hafan Deg,

Llambed. Danfonwyd £250.00 at Tŷ Hafan hefyd, sef casgliad yr oedfa

garolau.

18 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Ysgol Campws Llanbedr Pont Steffan

Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi dechrau cynllun sy’n eu hannog i

lanhau eu dannedd yn yr ysgol. Maent wedi derbyn brwshys a phast dannedd

ac mae’r cynllun yn codi eu hymwybyddiaeth am bwysigrwydd gofalu am eu

dannedd. Diolch i’r staff

am gynorthwyo.

Cynhaliwyd rownd

gyntaf cystadleuaeth

Cogurdd yn yr ysgol a

diolch i Mary Jones a

Helen Jones am feirniadu.

Llongyfarchiadau i Grace

Page am ddod yn gyntaf,

Osian Jones yn ail a

Lois Price yn drydydd.

Roedd cwscws pawb yn

edrych yn fendigedig a

bu sawl aelod o’r staff yn

mwynhau’r blasu!

Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon wedi penderfynu cynnal sêl cist

car ar Sadwrn cyntaf pob mis yn Ysgol Ffynnonbedr gan ddechrau ar Ebrill

2ail. Hefyd, y bwriad yw trefnu disgo i’r disgyblion yn neuadd yr ysgol cyn

hanner tymor.

Bu dau ddisgybl blwyddyn 6 sef Daniel Davies a Rebecca Heath yn

Aberaeron, ynghyd â disgyblion eraill o’r Sir, yn cael cyfle i fynegi barn a

chyfrannu at Gynllun Plant a Phobl Ifanc Ceredigion. Diolch i’r ddau am eu

cyfraniadau ac i Mrs S Evans am fynd gyda nhw.

Bu tri arolygydd o’r Cynulliad yn ymweld â’r campws am ddeuddydd

i arsylwi datblygiadau yn sgil y peilot 3-19 oed. Roedd y sylwadau yn

gadarnhaol iawn a chynigwyd nifer o argymhellion diddorol.

Cofiwch am Eisteddfod yr Ysgol ar Fawrth 1af, Rygbi’r Urdd ar Fawrth

2ail, Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 7fed ac Eisteddfod Gylch yr Urdd ar Fawrth

17eg.

Ysgrifennaf hwn ar ddiwedd y tymor cyntaf fel ysgol 3-19. Mae’r tymor

wedi hedfan, gyda llawer o fynd a dod ar draws y ddau gampws. Y mae’r

trefniant newydd wedi digwydd yn ddi-drafferth ac y mae bywyd yn y ddwy

ysgol yn parhau i fod yn brofiad positif i’r disgyblion. Carwn ddiolch i’r holl

staff a’r llywodraethwyr am eu cydweithrediad parod yn y fenter newydd

hon.

Cafwyd dechreuad da iawn i’r tymor gan y ddwy ysgol. Fel y gallech

ddisgwyl roedd popeth yn ei le – amserlen, staff, grwpiau dysgu a

niferoedd ar y rôl yn iach yn y ddwy ysgol. Dechreuwyd y tymor gyda

diwrnod hyfforddiant mewn swydd ar y cyd, a chyfle i staff y ddwy

ysgol ddod i adnabod ei gilydd yn well. Bu prysurdeb mawr gyda’r ddwy

ysgol yn manteisio ar bob cyfle i gydweithio ac ymestyn profiadau’r

disgyblion. Cafwyd gweithgareddau ar y cyd, cyfleon i ehangu profiadau,

rhannu adnoddau ac arbenigedd dysgu ac yn gyffredinol gwneud mwy

gyda’n gilydd. Bu’r tîm hŷn yn edrych ar sut i gydweithio ar bolisiau a

gweithdrefnau ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Comisiyniwyd Mr Mike Haines, Optima Education, i ysgrifennu

gwerthusiad o’r peilot 3-19. Mae e a’i dîm wedi ymweld â’r ysgol, wedi

trafod gyda staff a chyfarfod â’r llywodraethwyr. Bydd Mr Haines yn

ysgrifennu adroddiad interim ar lwyddiant y peilot yn y flwyddyn newydd.

Dylan Wyn (Prifathro)

O Hydref 20-22, mwynhaodd 22 o ddisgyblion Bl.8 a 9, ynghyd â 12

‘Swog’ o Fl.12 gwrs Cymraeg yng ngwersyll Glan-llyn. Cafwyd llawer

o hwyl mewn amrywiol weithgareddau, o gerdded afon i adeiladu rafft,

o ganŵio i ddringo wal a chwrs rhaffau a hynny yn heulwen fis Hydref.

Cafwyd gweithdy rapio gan Ed Holden a gweithdy radio gan Marc Griffiths

yn ogystal - dau weithdy llwyddiannus iawn. Roedd y 12 ‘Swog’ - sef

Carwen Richards, Lisa Thomas, Cerys Roberts, Ruth Davies, Christina
Ysgol Campws Llanbedr Pont Steffan

Davies, Deloni Davies, Kyle Collins-Ward, Jodie Coombes, Jemma O’Kane, Jodie Thomas, Daniel Doughty

a Rowan Linseele Williams yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ennill cymhwyster OCN Lefel 2 mewn

gwaith ieuenctid, o dan arweiniad Luned George. Hoffai Delor James ac Elinor Howells ddiolch iddynt am eu

help gwerthfawr a diolch i ddisgyblion Bl.8 a 9 am eu brwdfrydedd heintus a’r hwyl yn eu cwmni. Bu’n daith

fythgofiadwy.

Bu’r canlynol o fl 7 yn rhan o Sgwad Sgwennu Ceredigion, yng nghwmni Dewi Pws (Bardd Plant Cymru) ar

Hydref 7, yng Nghlwb Rygbi Aberaeron:-

Cerian Jenkins; Ffion Jenkins; Sophie Herron; Lleucu Ifans; Meirion Thomas; Iwan Jones; Rhys Davies a Jac

Evans. Cawson lawer o hwyl.

Bu disgyblion Uwch Gyfrannol ac Uwch Cymraeg ar daith i Ysgol Gyfun Penweddig, ddydd Gwener, 19

Tachwedd i sesiwn Coffáu’r Prifardd Iwan llwyd, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Geraint Lovegreen,

Owen Owens ac Ifor ap Glyn. Cafwyd prynhawn cofiadwy iawn.

Mae’r Clwb Cymraeg yn cwrdd bob yn ail ddydd Iau ar gyfer Bl.7 a 8 dan ofal disgyblion Bl.12 a chefnogaeth

Miss Hedydd Jones, lle ceir amryw o weithgareddau cyffrous. Cafwyd hwyl yn coginio, mewn cwis a chwaraeon

Potes hefyd.

Fel rhan o wersi Addysg Iechyd Blwyddyn 7, cafwyd cyfle i weld drama o’r enw ‘Bin It’. Roedd y neges yn glir

– mae gwm cnoi yn llygru’r amgylchedd. Cafodd y ddrama gymaint o argraff ar y disgyblion fel bod dau ohonynt,

sef Dylan Hemmings a Rhydian Edwards wedi penderfynu ail greu’r neges i weddill yr ysgol yn ystod gwasanaeth.

Hefyd fe berswadiodd y ddau Gyngor yr Ysgol i gytuno fod angen gwahardd gwm cnoi yn gyfangwbwl o’r ysgol

– dyma ddrama bwerus iawn.

Llongyfarchiadau i Iwan Williams a Sion Whittingham o

flwyddyn 10 ar godi swm sylweddol o arian tuag at ‘Ambiwlans

Awyr Cymru’. Ar Orffennaf 4ydd bu’r ddau yng Nghaerfyrddin

yn cymryd rhan mewn taith feic noddedig o 23 milltir, gan godi

£600 tuag at yr elusen. Er mwyn cydnabod ymdrechion arbennig

y bechgyn, mae Iwan a Sion wedi derbyn gwahoddiad i ymweld

â’r Ambiwlans Awyr yn Abertawe. Fe fydd y ddau yn siwr o gael

croeso cynnes ac yn sicr yn mwynhau’r cyfle gwych yma.

Ffarweliodd yr ysgol â dau aelod o staff ar ddiwedd y tymor.

Dymunwn ymddeoliad hapus i Mr Alan Jones, Pennaeth yr Adran

Ddylunio a Thechnoleg. Bu Mr Jones yn dysgu yn yr ysgol am 35

o flynyddoedd. Diolchwn iddo am ei gyfraniad gwerthfawr ar hyd y blynyddoedd. Fe wnaeth Mrs Elinor Howells,

aelod o’r Adran Gymraeg hefyd yn ein gadael ni. Dymunwn bob lwc hefyd i iddi yn ei swydd newydd.

Llongyfarchiadau mawr i Mrs Nerys Rees ar

enedigaeth merch fach, Gwenno Fflur.

Llongyfarchiadau i bwyllgor eco yr ysgol ar lwyddo

i ennill gwobr efydd Eco-Sgolion. Menter ryngwladol

yw’r rhaglen Eco-Sgolion sy’n cefnogi datblygiad

cynaliadwy o fewn ysgolion.

Prif nod y pwyllgor yw i leihau effaith

amgylcheddol yr ysgol yn y dyfodol drwy ystyried

nifer o themâu fel ysbwriel, lleihau gwastraff,

cludiant, byw’n iach, ynni, dŵr, tir yr ysgol a

dinasyddiaeth fyd-eang.

Rydym yn falch iawn bod yr adran yn parhau i fynd

o nerth i nerth, a’r tro hwn Emma Jones a Bethan

Duford sydd yn dod â chlod i’r adran ac i’r ysgol.

Fel rhan o’i gwaith Safon Uwch, fe gynlluniodd Emma wisg ddawns wedi ei hysbrydoli gan gyfnod yr wythdegau

a oedd yn cynnwys system electroneg. Cynlluniodd Bethan wisg a fyddai’n addas i wisgo i ŵyl gerddoriaeth gan

geisio ail ddefnyddio ac addasu hen ddillad er mwyn creu dilledyn newydd. Dewiswyd eu gwaith o blith gwaith

disgyblion Cymru gyfan gan arholwyr allanol CBAC i’w gynnwys mewn arddangosfa arloesedd a gafodd ei chynnal

yn ddiweddar yn Llandudno ac yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. Roedd yr arddangosfa yn gyfle i weld y

prosiectau mwyaf arloesol sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer lefel A, UG, a TGAU. Da iawn chi ferched!

Llongyfarchiadau i bedwar aelod o’r Chweched Dosbarth ar ennill tystysgrifau yn yr UK Senior Maths Challenge.

Mae dros 65,000 o ddisgyblion rhwng 16-19 oed yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth bob blwyddyn. Dyma’r

enillwyr:- Zoltan Kopacsi (Arian); Daniel Hurton (Arian); Rowan Evans (Arian); John Janes (Efydd).

Ar y 12fed o Hydref, cynhaliwyd sesiwn Blas ar yr Eidaleg gyda Sofia Morris Bl. 10 wrth y llyw. Bythefnos yn

hwyrach, cafwyd eto Flas ar yr Eidaleg ac Ieithoedd Eraill gan edrych ar y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng

rhai ieithoedd Ewropeaidd. Yn y gystadleuaeth a ddilynodd, cafwyd dau enillydd sef Martyna Trybula, Bl. 8 a Dion

Davies, Bl. 7.

Ar yr 16eg o Dachwedd, cafwyd sesiwn Blas ar yr Almaeneg gydag Oliver Beecher, Bl. 10. Cafwyd cystadleuaeth

yn seiliedig ar yr Almaeneg ac er bod nifer yn gywir, tynnwyd enw o het a’r enillydd oedd Caleb Davies, Bl. 9.

Bythefnos yn ddiweddarach, cafwyd sesiwn arall o ddysgu Almaeneg. Diolch i Oliver am ei ddysgu brwdfrydig!

Ar Dachwedd 23ain, cymrodd dau o ddisgyblion Bl. 13, sef Ben Lake a Jasmine Kime, ran yng nghystadleuaeth

Cyfieithydd Ifanc y Flwyddyn a drefnir yn flynyddol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Penderfynodd y ddau gyfieithu

o’r Ffrangeg i’r Saesneg. Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion o ysgolion ym mhob un o wledydd yr Undeb

Ewropeaidd a’i nod yw annog disgyblion i astudio ieithoedd ac ystyried gyrfa mewn cyfieithu. Roedd y gystadleaeth

yn cymryd lle ar yr union ‘run pryd ym mhob un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Fe gymerodd dwy ysgol o

Gymru ran yn y gystadleaeth hon ac fe gafodd Ben a Jasmine hwyl ar y cyfieithu!

Fe ymwelodd yr Adran Saesneg â ‘ At–Bristol’ un o ganolfannau addysg mwyaf y Deyrnas Unedig. Yn ystod y

diwrnod fe wnaeth Morph ein tywys ni ar daith drwy animeiddio’r gorffennol a’r presennol. Fe’n syfrdanwyd gan y

Planetarium, a fe gawson ni gyfle i greu animeiddiadau ein hunain a chael ein gorchuddio hefyd gyda swigen anferth.

Treuliwyd y prynhawn yn ymweld â’r sŵ, gan fwynhau’r profiad yn fawr.

Diolch i Mr Tim Evans, Mrs Botwood and Miss Jones am gytuno i ddod gyda ni ar y daith.

Llongyfarchiadau i Ffion Quan a Caitlin Page o flwyddyn 8 a Rhian Jones o flwyddyn 10 ar gystadlu ym

Mhencampwriaeth Trawsgwlad Ysgolion Cymru. Daeth Caitlin yn 7fed a Ffion yn 9fed. Da iawn ferched!

Alec Page

Gof

Gwaith metal o safon

i’r tŷ a’r ardd.

Dewch i drafod eich syniadau.

Yr Efail, Barley Mow,

Llambed.

01570 423955

A

CONTRACT SERVICES CYF

Peiriannau Hirio, Peirianwyr

Cyffredinol, Gwaith Sylfaen,

Menage, Tirlunio, Garddio,

Ffensio, Adeiladu a Gwaith

Cynnal a Chadw

Symudol: 07896747951

Ffôn: (01559)362575

Ffacs: (01559)363555

Tŷ Mari, Heol Horeb,

Llandysul SA44 4JN

e-bost: sales@williamscontractservices.co.uk

Y we: www.williamscontractservices.co.uk

07867 945174

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 19
Cornel y Plant

Tyngrug-Ganol,

Cwmsychpant,

Llanybydder.

Annwyl Ffrindiau,

Blwyddyn Newydd Dda blant! Wel sut ydych chi ers tro byd? Dydw i

ddim wedi siarad gyda chi ers y llynedd! Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw

a fuodd Sion Corn i’ch gweld chi? Rwy’n siwr ei fod e’, gan eich bod chi

gyd yn blant arbennig o dda. Wel mi fuodd y postmon yn brysur iawn dros

y Nadolig yn tŷ ni, nid yn unig yn dosbarthu cardiau ond llwyth o luniau

hyfryd o’r goeden Nadolig y buoch chi gyd yn lliwio yn arbennig i Lincyn

Loncyn. Daeth dros 20 o luniau penigamp, pob un wedi eu lliwio yn liwgar

a thaclus dros ben. Ardderchog blant!

Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu o ddosbarth y babanod yn

Ysgol Gynradd Llanwenog, ond yn enwedig i Sion O’Keefe, Hafwen

Davies, Molly Greenfield a Karolina Kuwalek. Hefyd llongyfarchiadau i

Alaw Jones o Lanwnnen, Lleucu Angharad Rees o Benffordd, Owen Heath

ac Ifan Meredith o Lambed, Luned Haf Jones o Gwmsychpant, Betsan Mai

Davies o Landysul ac Elan Mari Jenkins o Alltyblaca am luniau gwych. Yn

agos iawn i’r brig y mis hwn mae Manon Williams o Giliau Aeron, ond ar

y brig y tro hwn mae Lois Mai Jones, Blaenhirbant Uchaf, Cwmsychpant.

Llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi, a chofiwch bod cyfle i chi gystadlu

mis yma eto gyda’r holl graeonau a piniau ffelt newydd gawsoch chi’n

anrhegion Nadolig. Pob lwc.

Danfonwch nhw ataf i erbyn dydd Sadwrn, 19eg Chwefror 2011.

Hwyl am y tro,

Enillydd

y mis!

Calendr Clonc

20 Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Lois

Mai

Jones

I bawb dan 18 oed

Cyfle i Ffotograffwyr Ifanc

Bwriada Clonc gyhoeddi Calendr ar gyfer y flwyddyn 2012 gan gynnwys llun gwahanol i

bob mis. Y gobaith yw y bydd y calendr ar werth yn nhymor yr Hydref eleni.

Yn wahanol i’r calendr diwethaf a gyhoeddwyd gennym nôl yn yr wythdegau, lluniau

lliw cyfoes a gynhwysir y tro hwn. Gofynnwn i bobl ifanc fynd ati i dynnu lluniau

gyda’u camerâu digidol o olygfeydd yn yr ardal.

Yn y misoedd nesaf, bydd cystadleuaeth ffotograffiaeth yn Clonc. Gofynnir am lun o

olygfa yn yr ardal am yr amser hwnnw o’r flwyddyn.

Yn y rhifyn hwn, rhifyn Chwefror, rydym yn chwilio am luniau’r Gaeaf. Ac yn y

rhifynau nesaf bydd angen lluniau i gynrychioli’r tymhorau eraill

Gall y llun fod yn olygfa yn y pentref neu’n olygfa wledig, gall gynnwys anifeiliaid y

ffarm neu bobl leol mewn digwyddiad fel carnifal, mart, ffair neu sioe. Anogir chi i fynd

ati i dynnu digon o luniau. Bydd hi’n bwysig bod cynrychiolaeth o bob pentref dalgylch

Clonc yn y calendr terfynol.

Rhoddir gwobr arbennig bob mis i’r llun

gorau a bydd panel o Fwrdd Busnes Clonc

yn dewis y lluniau mwyaf addas ymhen

blwyddyn i’w cyhoeddi yn y calendr.

Wrth gystadlu, bydd pob cystadleuydd

yn rhoi’r hawl i Clonc ddefnyddio’u

lluniau i’w cyhoeddi yn y calendr.

Gwerthir y calendr wedyn er mwyn codi

arian i goffrau’r papur bro.

Derbynnir y lluniau ar ffurf jpg

ar ddisg neu e-bost yn unig, heb

eu lleihau. Danfonwch eich disg i

Tŷ Cerrig, Cwmann, Llanbedr Pont

Steffan, SA48 8ET, neu danfonwch

y llun yn uniongyrchol drwy e-bost i

cystadleuaeth@clonc.co.uk Dyddiad cau

derbyn lluniau’r mis hwn yw:

Dydd Iau 20fed Chwefror.

Ionawr 2012

Llun Maw Mer Iau Gwe Sad Sul

12

Sad

Sul

Enw:

Cyfeiriad:

Clecs y

Coleg

I blant dan 8 oed

Yng ngolau’r Seren glaer o hyd

At Dduw y duwiau yn ei grud

Ar noson serennog oer ddechrau mis Rhagfyr,

cynhaliwyd plygain traddodiadol o dan nawdd

Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd,

Prifysgol y Drindod Dewi Sant, ar hen gampws

hyfryd Llambed. Er mai dechrau Rhagfyr oedd

hi, roedd yr ardal o gwmpas y ffynnon fel môr o

wydr, a’r grisiau i fyny at y brif fynedfa wedi eu

graeanu’n drwm. ‘Ganol gaeaf noethlwm cwynai’r

rhewynt oer’ yn wir.

Ond dyna yw’r tywydd traddodiadol ar gyfer

plygeiniau, ac ar noson o rew caled mentrodd

cynulleidfa o bell ac agos yn dyrfa foliannus i

Gapel y Coleg lle cafwyd croeso cynnes gan y Tad

Matthew Hill a oedd yng ngofal y gwasanaeth.

Daeth carolwyr a phartïon draw o bob cyfeiriad

i gymryd rhan, o Landeilo Fawr a Chrymych, o

Gaerfyrddin a Phenrhyncoch, heb anghofio wrth

gwrs am Barti Plygain y Brifysgol ei hun, sef

myfyrwyr ac aelodau o staff campws Llambed.

Eleni am y tro cyntaf darlledwyd y gwasanaeth yn

fyw ar y We fel bod ein myfyrwyr a’n cyfeillion ym

mhedwar ban byd yn medru ymuno â ni yn y mawl.

Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd lluniaeth ysgafn

a gwin cynnes cyn i bawb droi am adref wedi eu

paratoi ar gyfer y Nadolig.
Gwasanaeth Casglu

Gwastraff Masnachol

Newydd

Am wasanaeth

dibynadwy a chost

effeithiol ar gyfer eich

holl anghenion gwastraff

cysylltwch â ni ar:

01570 421421

Gwasanaeth Bin ar

Olwynion Newydd

(1100L, 660L a 240L)

GWAITH SAER

GWAITH TO

GWAITH GOSOD LLECHI

RHEOLI PROSIECTAU

GWAITH ADEILADU CYFLAWN

ESTYNIADAU

GWAITH BLOCIAU

GOSOD BRICS

CYFLENWI

CEGINAU AC

YSTAFELLOEDD

YMOLCHI

A’U GOSOD

FFENESTRI UPVC

FFENESTRI A DRYSAU

PREN CALED A MEDDAL

Ffordd Tregaron

Llanbedr Pont Steffan

Ceredigion

SA48 8LT

01570 421421

Nadolig Llawen.

CYFLENWI

LLORIAU PREN

CALED A’U GOSOD

Gorsaf

Brawf

MOT

GAREJ BRONDEIFI

Heol Llanfair Road, Llambed, SA48 8JX

* Gwasanaeth trwsio ac atgyweirio

* Teiars am brisiau cystadleuol

*Ceir newydd ac ail law ar werth

* Batris * Brecs * Egsost

*Gorsaf Brawf MOT Ceir a Beiciau Modur

Peiriant Golchi Ceir Poeth

01570 422305

07974 422 305

23 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DY

Ydych angen cymorth i gael eich materion ariannol mewn trefn?

Am gyngor diduedd annibynnol ar amryw o faterion ariannol, yn cynnwys:

Buddsoddiadau, Pensiynau, Treth Etifeddiaeth, Yswiriant Bywyd,

Yswiriant salwch difrifol a diogelwch incwm, Morgeisi.

Gary Davies BSc(Hons), Cert PFS

Beca Hands BSc(Hons), MSc(Hons), Cert PFS, Cert CII(MP)

Cysylltwch â ni am wasanaeth proffesiynol y gallwch ymddiried ynddo.

Mae’n bosib i werth eich buddsoddiadau a’ch pensiwn gostwng yn ogystal â chynyddu. Nid ydych yn sicr o gael eich buddsoddiad gwreiddiol yn ôl.

Helen Davies o Lambed yn cyflwyno siec am £1351 i aelodau cangen

Llanybydder o Gymdeithas Diabetes UK Cymru - arian a gododd trwy

gymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd.

Jack Jenkins o Lanybydder yn cyflwyno tair siec am £700 yr un i

gynrychiolwyr Sefydliad Prydeinig y Galon, Cancr UK a Diabetes UK

Cymru, arian a godwyd mewn tair gyrfa chwist a drefnwyd ganddo yn ystod

gaeaf 2009/2010.

www.clonc.co.uk Chwefror 2011 21
Digwyddiadau’r fro

Dyma ddisgyblion Cylch Gwenog

yn mwynhau perfformiad gan

Gwmni Drama Arad Goch yn

ddiweddar.

Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Yn ystod 2010 fe wnaeth Doreen Williams a Delyth Evans o Lanybydder

drefnu dwy noson elusennol a raffl fawr. Yn y noson gyntaf yn y Llew Du,

Llanybydder Dewi Pws a’r grŵp Radwn a fu yn diddori ac yna ym mis

Hydref cafwyd adloniant a dawnsio yng nghwmni Jac y Do gyda Don Davies

yn llonni’r dorf gyda’i storïau doniol. Yn ganlyniad i hynny oll, cyflwynwyd

sieciau am £1700 yr un i Ambiwlas Awyr Cymru a’r Gymdeithas Sglerosis

Ymledol. Gwnaeth Rhian Jones noddi’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol trwy

gynllun punt am bunt Banc Barclays a chyfrannu £750.

Yn y llun o’r chwith mae Doreen William, Ann Edwards o Ambiwlans

Awyr Cymru, Alison Atkins o’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol, Delyth

Evans a Rhian Jones.

Cylch Trafod Amaethyddol Lanbedr Pont Steffan

Nos Fawrth gyntaf y flwyddyn pleser oedd cael teulu Fronfedw, Dihewyd i annerch y grŵp ac i sôn am y Blonde D’Aqutaine sef brid o wartheg sy’n

gynhenid i Dde Ffrainc ond sydd erbyn hyn yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain. Ynghanol yr 80au roedd Dai Davies yn awyddus i arbrofi â brid

cyfandirol i roi i’w wartheg godro ond yn groes i’r ffasiwn nid aeth ar ôl y Charolais na’r Limousin ond aeth am y Blonde. Gan fod y lloi yn rhwydd a

didraferth ar eu bwriad ac yn datblygu cyrff cigog yn fuan, penderfynodd Dai brynu dwy dreisiad Blonde bur a sefydlu buches Blonde Fronfedw. Gyda

chymorth ei fab Rhydian a’i ferch Menna dangoswyd lluniau o’r buchod sydd wedi ennill pencampwriaethau yn Llanelwedd a thu hwnt. Trwy ddulliau tarw

potel mae rhai o deirw Fronfedw erbyn hyn wedi cael eu defnyddio mor bell i ffwrdd ag Awstralia. Mae gan Rhydian wybodaeth drylwyr iawn am y brid a

soniodd am rinweddau a gwendidau ambell linell waed.

Y nos Wener ganlynol cynhaliwyd cinio blynyddol y cylch yn y Llew Du. Croesawyd y gŵr gwadd Mr. John Davies o Grymych gan y Cadeirydd Mr.

Eifion Jones, Talarwen. Cafodd John lawer o gapiau dros Gymru wrth chwarae rygbi dosbarth cyntaf gyda Chastell Nedd, Richmond a Llanelli. Soniodd

am rai o’i anturiaethau adeg ennill y crys coch ar y maes ac oddi ar y maes. Cyhoeddwyd yr enillwyr yn y gystadleuaeth ogor ac mae’r canlyniadau fel

a ganlyn, GWAIR: 1, Alan Bellamy, Hendy, Llanybydder. 2, Denley Jenkins, Pantyrodyn. 3, Delyth a Teifi Jenkins. BYRNAU MAWR: 1, Teifi a Delyth

Jenkins. 2, Denley Jenkins. 3, Brinley Davies, Penlan, Talsarn. SILWAIR CLAMP: 1, Alan Bellamy. 2, Graham ac Iwan Uridge. 3, Andrew Jones, Dolbeudy,

Felinfach. Enillydd y bencampwriaeth ac yn derbyn Cwpan Her Coffa Albert Evans oedd Allan Bellamy. Enillwyd cystadleuaeth y ffotograff gan Aneurin

Davies. Diolchodd yr Is Gadeirydd i bawb ac yn arbennig i’r Ysgrifennydd Mr. Gareth Jones Cilerwisg a’i wraig Ann am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ac

i’r Trysorydd diwyd Mr John H. Jones, Dolaugwyrddion am drefnu’r noswaith. Ar y 15ed o Chwefror bydd dau enillydd Fferm Ffactor, Aled Rees a Teifi

Jenkins yn sôn am eu profiadau wrth ffilmio’r gyfres.

O’r chwith, (rhes flaen) Gareth Jones Cilerwisg, John Davies Crymych, Twynog Davies, Llywydd Anrhydeddus, Alan ac Ann Bellamy, Teifi Jenkins,

Denley Jenkins. O’r chwith (rhes ôl) Iwan Uridge, Graham Uridge, Eifion Jones, Cadeirydd, John Bolwell, Is Gadeirydd a Brinley Davies.

Llun gan Aneurin Davies