Ni ddaeth Maen Allor Côr y Cewri o Gymru – ymchwil

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

17 Hydref 2023

Mae ansicrwydd am darddiad y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn sgil ymchwil newydd o Brifysgol Aberystwyth.

Ers 100 mlynedd credwyd bod Maen yr Allor, sy’n pwyso 6 tunnell, wedi dod o Hen Dywodfaen Coch yn ne Cymru.

Tybiwyd bod hwn yn agos at fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru o ble y daeth y mwyafrif o ‘gerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri.

Ffurfiwyd cerrig gleision Sir Benfro o graig dawdd wedi crisialu a chredir iddynt fod ymhlith y cyntaf i’w codi ar y safle yn Swydd Wilton tua 5000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn draddodiadol, mae Maen yr Allor, tywodfaen, wedi'i chategoreiddio gyda'r cerrig gleision igneaidd eraill, llai, er nad yw'n glir pryd y cyrhaeddodd Côr y Cewri.

Nawr, mewn ymgais i ddod o hyd i'w ffynhonnell, mae gwyddonwyr yn Aberystwyth wedi cymharu dadansoddiadau o Faen yr Allor â 58 sampl a gymerwyd o'r Hen Dywodfaen Coch ar draws Cymru a'r gororau.

Nid yw cyfansoddiad Maen yr Allor yn cyfateb ag unrhyw un o'r lleoliadau hyn. Mae gan Faen yr Allor lefelau bariwm uchel, sy'n anarferol a gall fod o gymorth wrth geisio darganfod o ble mae’n dod.

Dywedodd yr Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni wedi dod i’r casgliad nad yw Maen yr Allor yn dod o Gymru. Efallai dylen ni nawr hefyd dynnu Maen yr Allor o’r categori eang ‘cerrig gleision’ a’i ystyried yn annibynnol.

“Am y 100 mlynedd diwethaf credwyd fod Maen Allor Côr y Cewri yn deillio o ddilyniannau Hen Dywodfaen Coch de Cymru, yn y Basn Eingl-Gymreig, er na chafodd unrhyw leoliad penodol ei nodi.

“Mae’n ymddangos nad yw Maen yr Allor, mewn gwirionedd, yn dod o Hen Dywodfaen Coch y Basn Eingl-Gymreig – dyw hi ddim yn dod o dde Cymru. Bydd y sylw nawr yn troi at yr ardaloedd eraill, fel gogledd Lloegr a’r Alban, ardaloedd lle mae’r ddaeareg yn gywir, y gemeg yn iawn, a gweithgaredd Neolithig yn bresennol, i ganfod a oes gan unrhyw un o’r tywodfeini hyn nodweddion sy’n cyd-fynd â Maen Allor Côr y Cewri.”

Ychwanegodd yr Athro Pearce:

"Gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn helpu pobl i ddechrau edrych ar Faen yr Allor mewn cyd-destun ychydig yn wahanol o ran sut a phryd y cyrhaeddodd Côr y Cewri, ac o ble y daeth. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at rai syniadau newydd am ddatblygiad Côr y Cewri."

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y cyfnodolyn Journal of Archaeological Science: Reports.